Ymgynghori ar uno dau o safleoedd ambiwlans awyr Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn allweddol o ran penderfynu ar ddyfodol dau o safleoedd gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn y gogledd, mae arweinwyr iechyd wedi clywed.
Mae cynlluniau wedi cael eu llunio i ail-leoli safleoedd y gwasanaeth yng Nghaernarfon a'r Trallwng a chreu un canolfan yng nghanol y rhanbarth.
Mae'r awgrym wedi ennyn cryn wrthwynebiad mewn sawl ardal wledig.
Mewn cyfarfod ddydd Mawrth, clywodd prif weithredwyr holl fyrddau iechyd Cymru ac arweinwyr Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru y byddai'r cynlluniau'n gwella'r ymateb brys ar draws Cymru ac amseroedd aros i gleifion.
Mae adroddiad gan bwyllgor Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn cynnwys sawl opsiwn ond mae'n ffafrio creu un safle newydd yng nghanol y gogledd ger yr A55 - o bosib yn Sir Conwy neu Sir Ddinbych.
Mae 成人快手 Cymru ar ddeall mai un o'r safleoedd sydd dan ystyriaeth ydy hen safle hofrennydd Heddlu Gogledd Cymru yn Rhuddlan, Sir Ddinbych.
Yn 么l ymchwil a gafodd ei rannu yn y cyfarfod, byddai cartrefu hofrenyddion a cherbydau eraill mewn un safle canolog yn caniat谩u shifftiau gwahanol gan sicrhau bod meddygon ar gael am chwe awr yn rhagor bob dydd.
Y gred yw y byddai'r model newydd 芒'r potensial i alluogi meddygon "i fynychu 583 o alwadau yn rhagor er mwyn achub bywydau" a gwella amser ymateb y criw o 11 munud.
O ganlyniad fe fyddai'r gwasanaeth yn gwella'r ddarpariaeth mewn ymateb i'r galw o 72% i 88% gyda'r un nifer o hofrenyddion a staff meddygol.
Dywedodd y Dirprwy Brif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans, Ross Whitehead wrth y pwyllgor y byddai'r newidiadau'n lleihau'r "adnoddau sy'n cael eu tan-ddefnyddio ac anghenion nad sy'n cael eu diwallu".
Fe nododd y Prif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans, Stephen Harrhy y byddai "ymgynghoriad yn bwysig" gan wahodd aelodau'r cyhoedd i leisio'u barn pan ddaw'r amser i wneud hynny.
Bydd y cynlluniau nawr yn cael eu cwblhau cyn i'r pwyllgor benderfynu pa bryd fydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal - yr wythnosau wedi'r Nadolig sy'n debygol.
Serch yr awgrym y byddai'r newidiadau'n cynyddu'r ddarpariaeth, mae ymgyrchwyr yn poeni am allu meddygon i gyrraedd safleoedd gwledig ar frys mewn ardaloedd fel Pen Ll欧n, Powys a de Gwynedd.
Mae miloedd o lofnodion eisoes wedi eu derbyn gan ddeisebau ar-lein yn galw ar y gwasanaeth i beidio 芒 chau na uno'r safleoedd.
Ond mae'r adroddiad yn nodi fod unrhyw awgrymiadau wedi eu gwneud ar sail "dadansoddiad trylwyr" o dystiolaeth er mwyn gwella'r ddarpariaeth mewn modd effeithiol ac effeithlon.
Mae'n dweud y byddai "pob sir yn elwa o gynnydd yn nifer yr achosion" y mae criwiau'n ymateb iddynt.
Bydd dyddiad ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gyhoeddi maes o law.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd26 Awst 2022
- Cyhoeddwyd18 Awst 2022