Covid-19 'yma o hyd'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

I ddefnyddio geiriau enwog Dafydd Iwan, mae 'yma o hyd' yn ddisgrifiad addas am deimladau llawer ohonym am Covid-19 wrth wynebu gaeaf 2022.

Ydy, mae Covid-19 yn dal i fod chwe mis ar 么l i'r gyfyngiadau olaf o Gymru gael eu codi gan gynnwys y gofyniad cyfreithiol i wisgo masgiau wyneb.

Ond ydy o'n peri'r un bygythiad i ni ag y gwnaeth unwaith?

Mae Dr Glyn Morris o Brifysgol y Frenhines Margaret Caeredin wedi edrych ar y wyddoniaeth i'n diweddaru ar yr hyn rydyn ni'n ei wybod nawr am Covid-19.

Tymor y ffliw yn dechrau

Mae'r data diweddaraf (o'r wythnos 24 Hydref) yn dangos bod heintiau Covid-19 wedi gostwng yng Nghymru, wedi cynyddu ychydig yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ac wedi aros mwy neu lai yr un peth yn Lloegr. Yn gyffredinol, mae'r data'n dangos bod achosion Covid-19 ledled y DU yn parhau'n sefydlog ar hyn o bryd.

Y gwirionedd yw mae'n debyg y byddwn yn gweld cynnydd mewn achosion Covid-19 wrth i fisoedd y gaeaf agosau. Mae hyn yn arferol i lawer o feirysau resbiradol gan fod ein ffordd o fyw yn tueddu i newid yn y gaeaf, gan arwain at imiwnedd gwannach ac mae rhywfaint o dystiolaeth yn dangos bod yn well gan y mathau hyn o firysau hinsawdd sychach ac oerach.

Mae 'tymor y ffliw' yn dechrau ym mis Hydref, yn cynyddu ym mis Rhagfyr ac wedi cyrraedd ei anterth erbyn mis Chwefror. Y firws influenza sy'n achosi ffliw. Mae ffliw wedi bod yn cylchredeg ar lefelau isel yn ystod y dwy flynedd ddiwethaf oherwydd effaith y cyfnodau clo.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dyma'r ffigwr uchaf o achosion Covid ers 11 wythnos, ac mae'n gynnydd o 57% ar yr wythnos flaenorol

Rhagwelir y gwelwn lefelau uwch o ffliw a chlefydau eraill sy'n gysylltiedig 芒 misoedd y gaeaf eleni, oherwydd efallai bod gennym system imiwnedd gwan gan nad ydym wedi bod yn agored i'r clefydau heintus hyn ers rhai blynyddoedd.

Mae gan ein system imiwnedd rywfaint o gof a gall gofio'r hyn y mae wedi brwydro yn ei erbyn o'r blaen. Gall y cof hwn gael ei greu gan imiwnedd naturiol, pan fydd rhywun yn cael ei heintio yn naturiol, neu imiwnedd goddefol, y math o imiwnedd a ddarperir gan frechlynnau.

Felly nid yw imiwnedd bob amser yn golygu gostyngiad yn y niferoedd heintiau, ond gall olygu bod difrifoldeb y clefyd yn lleihau. Felly efallai dylem ni ganolbwyntio mwy ar niferoedd mynediadau ysbyty wrth olrhain Covid-19 dros y gaeaf.

Roddodd y brechlynnau imiwnedd inni?

Mae'n wir bod y brechlynnau wedi helpu i gryfhau ein himiwnedd yn erbyn Covid-19 a'n helpu i ddod allan o'r cyfnodau clo. Ond yr her mae gwyddonwyr yn eu hwynebu yw bod firysau'n anhygoel yn mwtadio, gan dargedu ein system imiwnedd dro ar 么l tro.

Mae ymhell dros 50 o amrywiadau SARS-CoV2 wedi'u nodi ers 2019. Mae'r brechlynnau'n darparu amddiffyniad i'r holl amrywiadau hyn ond i raddau amrywiol.

Ar hyn o bryd mae tri amrywiad ar restr Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) sy'n cael eu monitro'n weithredol. Y newyddion da yw nad oes llawer o dystiolaeth hyd yn hyn y gall rhain achosi Covid-19 mwy difrifol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae influenza, y firws sy'n achosi'r ffliw, wedi'i astudio'n llawer gwell na'r coronafeirws. Mae cannoedd o amrywiadau firws y ffliw ac mae nifer yr achosion o'r amrywiadau gwahanol hyn yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn.

Dyna pam y cynigir brechlyn ffliw blynyddol i ni, a phob blwyddyn mae'r brechlyn yn cael ei addasu gan wyddonwyr i geisio gwneud yn si诺r ei fod yn darparu'r amddiffyniad gorau yn erbyn amrywiadau sy'n cylchredeg blynyddoedd penodol.

Mae fel g锚m o wyddbwyll, yn ceisio aros un cam ar y blaen i symudiad nesaf eich gwrthwynebydd, yn yr achos hwn firws mwtant yw ein gwrthwynebydd. Pan fydd y firws yn mwtadio i mewn i amrywiad newydd nad yw'r brechlyn yn darparu amddiffyniad yn ei erbyn, mae'n rhaid i wyddonwyr addasu fformiwla'r brechlyn yn gyflym i frwydro yn erbyn yr amrywiad newydd.

Mae gwyddonwyr yn monitro'r sefyllfa yn gyson ac yn hynod fedrus wrth greu fformiwl芒u brechlyn newydd, gwell ac yn gyflym. Cyn belled 芒 bod digon o gefnogaeth gan y llywodraeth i barhau i ariannu'r wyddoniaeth hon a chefnogaeth gan y boblogaeth i gael eu brechu, yna rydym mewn sefyllfa gref iawn o ran darparu imiwnedd rhag Covid-19 a'r ffliw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Covid oedd degfed prif achos marwolaethau yng Nghymru ym mis Medi

Cyngor y gaeaf

Nodwyd yr achosion dynol cyntaf o Covid-19, y clefyd coronafirws a achosir gan SARS-CoV2, ym mis Rhagfyr 2019 yn nhalaith Wuhan yn China. Bron i 3 blynedd yn ddiweddarach mae Wuhan yn mynd i mewn i gyfnod clo arall yn Hydref 2022.

Nid wyf yn credu bod hyn yn golygu bod rhaid i ni fynd i mewn i gyfnod clo newydd unrhyw bryd yn fuan. Mae'n edrych fel bod China yn dal i ddilyn polisi dim-Covid-19 sy'n wyddonol amhosib ei gyflawni bron, yn enwedig heb gefnogaeth fyd-eang.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae 1,000 achos o Covid wedi bod bob diwrnod am dridiau yn China

Mae heintiau Covid-19 ar eu huchaf ymhlith pobl 50 oed ac mewn plant oed ysgol uwchradd. Mae mynediadau ysbyty Covid-19 yn parhau i fod fwyaf cyffredin yn bobl 65 oed a h欧n. Os ydych chi'n s芒l, peidiwch ag ymweld 芒 phobl sy'n agored i niwed mewn ysbytai neu gartrefi gofal. Ceisiwch osgoi mynd i'r gwaith neu anfon plant i'r ysgol nes bod y symptomau'n diflannu.

Er mwyn amddiffyn eich hun ac eraill, golchwch eich dwylo 芒 sebon a d诺r yn rheolaidd ac yn drylwyr, hefyd mae gan g锚l alcohol effeithiolrwydd cyfyngedig yn erbyn rhai afiechydon.

Rydym mewn sefyllfa llawer cryfach i frwydro yn erbyn Covid-19 nag yr oeddem 3 blynedd yn 么l. Mae gennym ni frechlynnau ac mae gennym ni ddulliau mwy cadarn i olrhain amrywiadau newydd. Os oes gennych yr opsiwn i gael brechlyn Covid-19 neu ffliw, ewch amdani!

Hefyd o ddiddordeb: