Pont y Borth: 'Annhebyg' o ailagor o fewn wythnosau

Disgrifiad o'r llun, Mae disgwyl i Bont y Borth fod ar gau tan y flwyddyn newydd i alluogi "gwaith cynnal a chadw hanfodol"
  • Awdur, James Williams
  • Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 成人快手 Cymru

Mae'n "annhebygol" y bydd pont sy'n cysylltu Ynys M么n 芒 thir mawr gogledd Cymru yn ailagor o fewn ychydig wythnosau, yn 么l un o weinidogion Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y dirprwy weinidog newid hinsawdd y byddai Pont y Borth yn ailagor "yn gynnar yn 2023" os oes angen gwaith i gryfhau'r strwythur.

Fe gaeodd y bont 200 oed yn sydyn ddydd Gwener diwethaf oherwydd risgiau diogelwch "difrifol", yn dilyn cyngor gan beirianwyr cwmni UK Highways.

Yn y Senedd brynhawn Mawrth, daeth cadarnhad y gall adolygiad cychwynnol o'r sefyllfa gymryd hyd at bythefnos.

'Cydbwyso'r risgiau'

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Lee Waters AS: "Mae'n bosib y bydd y gwiriadau a fydd yn digwydd yn ystod y pythefnos nesaf yn canfod bod hwn wedi bod yn or-ymateb ac y byddwn yn gallu agor y bont gyda chyfyngiad pwysau yn gynt o lawer.

"Mae fy swyddogion yn fy nghynghori eu bod yn meddwl bod hynny'n annhebygol, ond yn sicr mae'n bosibilrwydd.

"Ni fyddwn yn cau y bont yn hirach nag yr ydym yn teimlo y gellir ei gyfiawnhau, wrth gydbwyso'r risgiau."

Dywedodd Mr Waters nad penderfyniad hawdd oedd cau'r bont, a'i fod yn seiliedig ar "gyngor clir gan beirianwyr strwythurol a sgyrsiau gyda'r heddlu".

"Mae'r peryg o ddigwyddiad trychinebus yn digwydd i'r bont yn dal yn isel ond mae'n rhy uchel i ni allu ei risgio," ychwanegodd.

Disgrifiad o'r llun, Lee Waters: "Ni fyddwn yn cau y bont yn hirach nag yr ydym yn teimlo y gellir ei gyfiawnhau, wrth gydbwyso'r risgiau."

Mae'r bont wedi ailagor ar gyfer cerddwyr a beicwyr - sy'n gorfod dod i ffwrdd o'u beics - gyda swyddogion yn monitro'r niferoedd.

Mae cerbydau wedi eu dargyfeirio i ddefnyddio'r bont arall, Pont Britannia.

Ond er fod Pont Britannia wedi ei chau yn y gorffennol yn ystod cyfnodau o wyntoedd cryfion, dywedodd Mr Waters ei fod yn "ddigwyddiad prin", sydd "yn gyffredinol yn digwydd am ychydig oriau ar y tro".

Daeth cadarnhad hefyd bod swyddogion yn edrych ar y posibilrwydd o ganiat谩u cerbydau gwasanaethau brys sy'n pwyso llai na 7.5 tunnell ar draws Pont y Borth os bydd Pont Britannia yn gorfod cau.

Disgrifiad o'r llun, Mae mwy o draffig yn gorfod teithio dros Bont Britannia yn sgil cau Pont y Borth i gerbydau

Dywedodd Natasha Asghar AS, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth: "Roedd cau'r bont ar y funud olaf, heb rybudd o flaen llaw am yr hyn a allai fod yn bedwar mis, nid yn unig yn daro trigolion, ymwelwyr a chymudwyr ond hefyd busnesau yn yr ardal.

"Wrth gwrs mae diogelwch yn hollbwysig, dydw i ddim yn mynd i'w wadu am eiliad, ond sut ar y ddaear ddim ond nawr rydyn ni'n ymwybodol o'r gwendidau strwythurol yma heddiw?"

"Dylai pont 200 oed sy'n cael ei defnyddio gan bron i 50,000 o gerbydau bob dydd gael ei harchwilio'n rheolaidd."

Dywedodd Mr Waters bod y bont yn cael ei harchwilio'n "rheolaidd" bob dwy a chwe blynedd i "safonau'r diwydiant".

'Pris i'w dalu am oedi'

Galwodd Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ynys M么n, Rhun ap Iorwerth, ar Lywodraeth Cymru i adeiladu trydedd pont rhwng Ynys M么n a'r tir mawr.

Yn 2017 amlinellodd y llywodraeth gynlluniau ar gyfer trydydd croesfan, ond mae'r cynlluniau wedi eu rhewi yn sgil adolygiad o'r holl brosiectau adeiladu ffyrdd yng Nghymru.

Dywedodd Mr ap Iorwerth: "Roedd Llywodraeth Cymru wedi addo darparu pont newydd a dydy hynny dal heb ddigwydd, ac mae pris i'w dalu am oedi.

"Pris mewn punnoedd pan fo chwyddiant mor uchel, ond pris cymunedol hefyd.

"Gwydnwch yw'r hyn rydyn ni'n siarad amdano yma - mae dwy groesfan ac mae un ohonyn nhw'n bont grog 200 mlwydd oed."

Dywedodd y gweinidog fod cost adeiladu trydedd groesfan wedi cynyddu i tua 拢400m ac y byddai'n cymryd "tua saith mlynedd" i'w hadeiladu.

'Lliniaru'r boen tymor byr'

Yn ymateb i'r datganiad dywedodd dirprwy arweinydd Cyngor Sir Ynys M么n, y Cynghorydd Carwyn Jones ar raglen Post Prynhawn Radio Cymru: "Y geiriau dwi'n gymryd allan ohono ydy bod nhw'n gwneud bob dim bosib i ail-agor y bont mor fuan 芒 phosib."

Disgrifiad o'r llun, Y Cynghorydd Carwyn Jones: "'Da ni di bod yn gofyn am flynyddoedd am y gwytnwch 'ma"

Ond er mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y bont dywedodd Mr Jones bod nifer o gyrff yn gweithio gyda'i gilydd.

"Ma'n hynod o bwysig, mae'n creu anhawster i bobl a busnesau Ynys M么n, ac hefyd i bobl a busnesau ar y tir mawr. Mae'r bont yr un mor bwysig o'r ddwy ochr tydi.

"'Da ni di bod yn gofyn am flynyddoedd am y gwytnwch 'ma.

"Yn amlwg mae ein swyddogion ni, ers dydd Gwener, wedi bod yn trafod yn ddyddiol dros y penwythnos, a da ni wedi sefydlu heddiw grwpiau i symud ymlaen efo 40 o swyddogion o wahanol asiantaethau yn y grwpiau yma.

"Da ni wedi sefydlu panel parhad busnes fel fod ni yn gallu lliniaru'r boen dros y tymor byr fel bysiau gwennol, y trenau, rhannu ceir, y park and rides ac ati.

"Mae'r bont yn bwysig ac yn eiconig ond mae'n 200 oed bron, felly mae angen gwylio ar ei h么l hi a da ni isio hi yma am 200 mlynedd arall a thrydydd pont hefo hi."