Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Taith Ddrymio Tudur Owen
"Dw'i isio fo fod yn berffaith, i'r hogyn bach na yndda fi" meddai Tudur Owen cyn camu ar Lwyfan y Sgw芒r yn Sesiwn Fawr Dolgellau gyda Candelas.
Ar ei ddiwedd disgrifia'r cyflwynydd y profiad fel "un o uchafbwyntiau" ei fywyd ac mewn rhaglen arbennig ar 成人快手 Radio Cymru ar nos Sul, 2 Hydref fe glywn yn union sut mae'n cyrraedd yr uchafbwynt hwnnw.
Yn Taith Ddrymio Tudur Owen cawn ddilyn y comiediwr ar gefn ei fotobeic wrth iddo wibio ar draws Cymru i ail-ymweld a'i freuddwyd roc a r么l o fod yn ddrymiwr enwog.
A'i creisus canol oed ydi hwn? Ydi hi'n rhy hwyr i Tudur ail-gysylltu a'r plentyn bach oedd yn arfer waldio'r drymiau i gyfeiliant AC/DC, Queen a Led Zeppelin?
Mewn cyfweliadau difyr a doniol gyda rhai o ddrymwyr mwyaf talentog Cymru fel Graham Land (Bryn F么n), Dafydd Davies (Boy Azooga), Heledd Owen (Adwaith), Sarah Breese a chwmni creu drymiau, Tarian mae Tudur yn paratoi at chwarae ar lwyfan mawr am y tro cyntaf.