'Hanfodol' bod mwy o Gymry'n agor eu drysau i ffoaduriaid

Ffynhonnell y llun, REUTERS/Bernadett Szabo

  • Awdur, Daniel Davies
  • Swydd, Gohebydd 成人快手 Cymru

Mae'n "hanfodol" bod mwy o bobl yn agor eu drysau i ffoaduriaid o Wcr谩in, medd Llywodraeth Cymru.

Mae tua 2,800 o bobl o Wcr谩in yn byw gyda theuluoedd yng Nghymru ar hyn o bryd - teuluoedd a wnaeth gofrestru i gynnig llety am o leiaf chwe mis.

Daw'r cyfnod yna i ben yn yr hydref, gan greu pryder y bydd angen mwy o lefydd i ffoaduriaid aros.

Mae gweinidogion wedi diolch i bobl sydd wedi estyn croeso i ffoaduriaid, ond maen nhw'n dweud "ei bod yn hanfodol bod mwy o aelwydydd ar gael".

Miloedd yn fwy wedi cael fisas

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol: "Rydym yn gobeithio y bydd y lletywyr a'r Wcreiniaid yn cytuno i ymestyn llawer o'r lleoliadau hynny, ond mae arnom angen llety ychwanegol i gefnogi'r rhai na allant barhau i fyw yn eu lleoliad presennol."

Mae arolwg gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod tua chwarter y rhai sydd wedi cynnig llety yn disgwyl i'w gwesteion adael ar 么l chwe mis.

Daw'r ap锚l am ragor o lefydd ar adeg o gostau cynyddol, ond dywedodd Ms Hutt fod Cymru wedi dangos ei haelioni "ac rwy'n si诺r y byddwn yn camu i'r adwy unwaith eto".

Mae 'na 2,800 o bobl eraill mewn llety dros dro, gan gynnwys gwestai a neuaddau preswyl prifysgolion.

Mae gan filoedd yn fwy fisas, ond dydyn nhw ddim wedi cyrraedd y wlad eto.

Disgrifiad o'r llun, Dim ond llety am chwe mis sydd gan nifer o ffoaduriaid

Mae disgwyl i rai gael cynnig lle mewn dau barc gwyliau. Ar gais Llywodraeth Cymru dyw'r lleoliadau hynny ddim wedi eu henwi er mwyn osgoi denu sylw digroeso.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru sefydlu cynllun "uwch-noddi" yn gynharach eleni - cynllun a oedd yn lletya 1,000 o ffoaduriaid i ddechrau, ond ym mis Mehefin roedd yna oedi dros dro i'r cynllun.

Mae perchnogion tai sy'n gallu cynnig llety hyd at 30 diwrnod i ffoaduriaid sydd angen llety tymor byr ar frys yn gallu gwneud hynny drwy wefan Airbnb.org.