Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Datgelu cyfrinachau Cwm Elan wedi'r tywydd sych
Mae olion plasty rhamantus a gysylltir gyda bardd enwog wedi eu datgelu am y tro cyntaf ers degawdau wedi i'r lefelau d诺r yng Nghwm Elan ostwng wedi'r tywydd cynnes.
Mae Nantgwyllt - maenordy oedd yr awdur Percy Bysshe Shelley eisiau ei brynu i'w wraig ifanc ym 1812 - wedi bod o dan y d诺r am dros ganrif wedi i'r cwm gael ei foddi i greu cronfa.
Ond mae ei weddillion wedi'u dadorchuddio am y tro cyntaf ers blynyddoedd wrth i gronfa dd诺r Cwm Elan ddatgelu ei chyfrinachau.
Mae'r wythnosau o dywydd sych yn golygu fod modd gweld waliau'r ardd lle bu Shelley ar un adeg yn cerdded gyda'i wraig Harriet yn ei harddegau yn ogystal 芒 sylfaen y plasty lle ysgrifennodd Shelley yn ystod ei ymweliadau.
'Anhygoel ei weld yn dod allan'
Cofnodwyd mai un o nodweddion mwyaf trawiadol y tu mewn i'r t欧 oedd "grisiau eang a mawreddog iawn wedi'u gwneud o hen dderw."
Meddiannwyd y maenordy gan beirianwyr i greu cronfa dd诺r Caban Coch yn 1903 - un o nifer o gronfeydd d诺r a wnaeth gyflenwi anghenion dros 500,000 o bobl yn ninas Birmingham.
Cafodd y plas ei ddymchwel cyn cwblhau'r argaeau er bod waliau'r ardd, pontydd carreg ac olion traed wedi goroesi.
Dywedodd Martin Thomas, a oedd yn cerdded gerllaw: "Mae'n anhygoel ei weld yn dod allan o dan yr holl dd诺r. Mae'n rhaid ei fod wedi bod yn lle anhygoel i aros os oedd rhywun fel Shelley yn ei garu cymaint.
"Mae mor brin gweld y d诺r mor isel oherwydd y sychder. Mae'n brydferth yma ond jyst mewn ffordd gwahanol nawr."