Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Adwaith yn gobeithio 'ysbrydoli cenhedlaeth newydd' o ferched
Mae'r grŵp Adwaith yn cloi Maes B am y tro cyntaf erioed eleni ac nid yn unig mae cyrraedd un o brif lwyfannau cerddoriaeth Cymraeg yn nodi carreg filltir bersonol i'r tair o Gaerfyrddin, ond mae hi hefyd yn ffordd iddyn nhw ysbrydoli ton newydd o ferched yn y sin yng Nghymru.
Saith mlynedd yn ôl yn 2015 fe ddychwelodd y gitarydd Holly Singer, y basydd Gwenllian Anthony a'r drymiwr Heledd Owen o Eisteddfod Meifod gyda'r un freuddwyd ar eu meddyliau - creu Adwaith.
"Wnaethon ni ddechrau'r band ar ôl dod yn ôl o Maes B - felly mae'n teimlo fel full circle moment," meddai Gwenllian Anthony.
"Nes i fyth gweld ni yn headlinio Maes B. Fi'n teimlo fel weithiau… yn amlwg ni yn y sin Cymraeg ond ei fod e yn one foot in, one foot out."
Adwaith ydi'r ail grŵp benywaidd yn unig i orffen nos Sadwrn fawr Maes B.
Daeth Elin Fflur â'r ŵyl i ben yn 2017 ac eleni mae pentwr o berfformiadau gan ferched yng ngŵyl yr ieuenctid gan gynnwys Hana Lili, Chroma, Eden, Tara Bandito, Eadyth a HMS Morris.
Yn ôl Gwenllian Anthony mae'n dangos pa mor bell mae cerddoriaeth Gymraeg wedi dod dros y blynyddoedd diwethaf, a gobaith Adwaith ydi ei wthio ymhellach.
"Pan 'ethon ni i Eisteddfod Meifod doedd dim lot o ferched rownd rili. Fi'n cofio gweld HMS Morris a Gwenno a ro'n i yn meddwl 'maen nhw yn gallu gwneud e, felly pam gallen ni ddim?'
"Nhw wnaeth inspirio ni fynd nôl a dechrau band rili so dwi'n gobeithio y gallen ni fod y bobl 'na i'r genhedlaeth newydd.
"Ni mor excited i chwarae a gobeithio allen ni inspirio pobl i greu cerddoriaeth."
Blwyddyn 'anhygoel'
Ers 2015 mae'r grŵp wedi sefydlu eu hunain fel un o fandiau mwyaf Cymru gan ennill Gwobr Gerddoriaeth Cymru 2019 gyda'u halbwm cyntaf, Melyn, cyn teithio'r byd a chael eu hysbrydoli i ysgrifennu eu halbwm newydd, Bato Mato.
Y llynedd fe chwaraeodd y grŵp o flaen miloedd yn cefnogi'r grŵp Idles yn Motorpoint Caerdydd ac fe gyrhaeddon nhw ŵyl Glastonbury am y tro cyntaf yn gynharach yn yr haf.
"Mae e wedi bod yn flwyddyn prysur iawn. Teimlo fel ni heb stopio rili rhwng rhyddhau'r albwm a gwneud lot o gigs," meddai Gwenllian.
"Mae chwarae Glastonbury a chwarae Motorpoint gyda Idles yn stand outs. Ond roedd Clwb Ifor a Cwrw yng Nghaerfyrddin yn stand outs hefyd - y gigs gorau rydyn ni wedi cael falle.
"Mae e wedi mynd mor gloi. Mae e wedi bod yn anhygoel."
Planed Bato Mato
Mae'r albwm newydd, Bato Mato, wedi cael ei chanmol o bob cyfeiriad yng Nghymru ac ar draws Ynysoedd Prydain gyda chaneuon yr albwm i'w clywed yn gyson ar y prif orsafoedd radio cerddorol fel Radio 6 Music a Radio 1 yn ddiweddar.
Ond be ydi'r stori tu ôl i Bato Mato tybed?
"Wnaethon ni ysgrifennu'r rhan fwyaf o'r albwm ar ôl i ni ddod 'nôl o chwarae festival yn Siberia yn 2019," esbonia Gwenllian.
"Bato Mato oedd culture minister yr ardal roedden ni ynddi. Roedden ni yn caru fe - roedd e yn dangos ni o gwmpas y sights a stwff. It's just a hell of a name… a ma fe'n hell of a name i albwm hefyd so o'dd rhaid ni alw fe yn Bato Mato.
"Doedden ni ddim yn gwybod be oedd yn mynd ymlaen ar y trip. Wnaethon ni droi lan ar ôl bod ar ddau awyren ac wedyn mynd syth ar y Trans Siberian Express am fel saith awr a roeddet ti jest yn gweld y real Russia a phobl go iawn Rwsia."
"Oedd e jest yn teimlo fel fever dream. Roedd e dechrau'r pandemig pan wnaethon ni ddod 'nôl fyd ond doedd e ddim cweit wedi cyrraedd ni 'to. Roedden ni'n mynd trwy'r airport ac roedd pobl jyst gyda masks - ag oni'n meddwl what the hell is going on?"
"Roedd e fel roedden ni ar blaned arall. Wedyn wnaethon ni ddod 'nôl a sgwennu'r albwm."
'Y person hapusaf erioed'
Daeth y profiad swreal hwnnw yn Siberia gyda Bato Mato yn sail i albwm sy'n trafod cymhlethdod bywyd yn eich ugeiniau cynnar ac i nodi pennod newydd o newid ym mywyd Adwaith.
"Fi'n teimlo fel oedd Melyn yn eithaf poisitif - yn dweud stori. O pan ti yn teens ti mae gen ti view ar sut mae dy fywyd am fod," meddai Gwenllian.
"Wedyn pan ti'n early mid-twenties ti'n sylweddoli 'oh actually, 'dyw bywyd ddim mor dda' a ti'n mynd trwy lot o sdwff doeddet ti ddim yn disgwyl."
Ond er themâu dyfnach yr albwm, teyrnged i gymeriad llon ydi teitl yr albwm mewn gwirionedd, a gobaith Gwenllian ydi gweld gwên lydan Bato Mato unwaith eto.
"Ma fe yn gymeriad. Y person hapusaf rwyf erioed wedi cyfarfod. Big smiles constantly."
"Roedd Rwsia wedi banio Facebook am sbel ond nes i anfon neges iddo fe ym mis Chwefror, a dim ond mis Gorffennaf ges i ateb 'nôl.
"Nes i ofyn iddo fe rydyn ni eisiau galw'r albwm yn Bato Mato, a wnaeth e jest ateb gyda thumbs up!"
Hefyd o ddiddordeb: