成人快手

Ap锚l wedi i ddyn gael ei ladd ger Llanuwchllyn

  • Cyhoeddwyd
Bala
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd - Seat Leon arian a beic modur BMW coch - oddeutu 14:45 brynhawn Sadwrn

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion wedi i ddyn, 43, gael ei ladd wedi gwrthdrawiad ar ffordd yr A494 ger Llanuwchllyn.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd - Seat Leon arian a beic modur BMW coch - oddeutu 14:45 brynhawn Sadwrn.

Deallir bod y dyn fu farw yn dod o ganolbarth Cymru ac mae ei deulu yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol yr heddlu.

"Ry'n yn apelio am dystion i'r digwyddiad neu unrhyw wybodaeth gan rywun a welodd y cerbydau cyn y gwrthdrawiad," medd llefarydd.

Mae plismyn hefyd yn apelio am wybodaeth wedi i gerbydau Citroen C4 arian a Mercedes coch wrthdaro yn erbyn ei gilydd ar ffordd yr A494 ger Llanbedr Dyffryn Clwyd.

Mae dau berson yn parhau i gael triniaeth ar gyfer anafiadau difrifol yn yr ysbyty.

Pynciau cysylltiedig