'Campwaith' Ffion Dafis yn cipio Llyfr y Flwyddyn

Ffynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Disgrifiad o'r llun, Cafodd nofel Ffion Dafis - y cyntaf i'r actores ei hysgrifennu - ei disgrifio fel "campwaith"

Ffion Dafis sydd wedi cipio Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022 am ei nofel, Mori.

Roedd ei llyfr eisoes wedi ennill yn y categori Ffuglen Cymraeg, ond daeth cadarnhad nos Iau ei bod hefyd wedi cipio'r brif wobr.

Disgrifiwyd ei nofel - y cyntaf i'r actores ei hysgrifennu - fel "campwaith" gan y beirniaid.

Cyhoeddwyd hefyd mai casgliad Y Pump sydd wedi dod i'r brig yng Ngwobr Barn y Bobl Golwg360 eleni, yn dilyn pleidlais agored gan ddarllenwyr Cymru.

Mae'r deg awdur, Elgan Rhys a Tomos Jones (Tim), Mared Roberts a Ceri-Anne Gatehouse (Tami), Marged Elen Wiliam a Mahum Umer (Aniq), Iestyn Tyne a Leo Drayton (Robyn), Megan Angharad Hunter a Maisie Awen (Cat), oll yn rhannu'r wobr a'r clod.

Mae'r enillwyr wedi bod yn cael eu cyhoeddi ar Radio Cymru ar raglen Llyfr y Flwyddyn 2022.

Ffynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru

Disgrifiad o'r llun, Casgliad Y Pump sydd wedi dod i'r brig yng Ngwobr Barn y Bobl Golwg360 eleni

'Wedi llwyr wirioni'

O Fangor yn wreiddiol, mae Ffion Dafis fwyaf adnabyddus am ei gwaith actio, yn cynnwys chwarae rhan Llinos yn y gyfres deledu Amdani, a Rhiannon yn Byw Celwydd ar S4C.

Bydd yn derbyn cyfanswm o 拢4,000 o wobr ariannol, yn ogystal 芒 thlws wedi ei ddylunio a'i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones.

Wrth glywed y newyddion, dywedodd: "Dwi wedi llwyr wirioni.

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Mae Ffion Dafis yn actores adnabyddus, a dyma oedd ei nofel gyntaf

"Nid cymeriad hawdd ei hoffi ydi Mori ar adegau, a dwi mor falch fod y panel wedi gweld ei phrydferthwch hi fel y dois i i'w werthfawrogi yn y diwedd, a'i bod hi wedi cyffwrdd.

"Dydi hi ddim nofel gonfensiynol - mi oeddwn i'n trio creu cymeriad anghonfensiynol a dwi mor ddiolchgar fod y panel wedi gwerthfawrogi beth roeddwn i wedi ei greu."

'Campwaith'

Mae'r nofel yn dilyn Morfudd a'i hobsesiwn gyda merch drydanol sy'n anfon cais i fod yn ffrind iddi ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae ei pherthynas 芒 hi yn gorfodi Morfudd i wynebu cyfrinachau ei gorffennol a throedio ar daith i fannau tywyll iawn er mwyn darganfod a derbyn ei hun.

Ar ran y panel o feirniaid, dywedodd Mirain Iwerydd: "Roedd darllen Mori fel fy mod i wedi sleifio mewn i gilfachau ymennydd y prif gymeriad, ac yn profi'r nofel trwy ei llygaid hi.

"Nid ar chwarae bach mae ysgrifennu cymeriad megis Mori. Mae Mori yn gymeriad cymhleth, 芒 meddwl tywyll iawn ar adegau, a'r nofel ei hun yn mentro ac yn archwilio them芒u a phynciau nas trafodwyd o fewn ein llenyddiaeth yng Nghymru eisoes, neu'n ddigonol.

"Credaf fod cymeriad Mori ar ben ei hun yn gampwaith, ond wrth ychwanegu Mori fel cymeriad, at y gwead o naratif tyner, llawn hiwmor a chrefftus a luniwyd gan Ffion Dafis - wel, dyna sut ma' ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn.

"Llwyr haeddiannol - Llongyfarchiadau Ffion."