Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyhoeddi enillwyr rhagor o gategor茂au Llyfr y Flwyddyn
Non Parry sydd wedi ennill categori Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn eleni, tra mai casgliad gan 10 o awduron, Y Pump, sy'n cipio'r categori Plant a Phobl Ifanc.
"Hunangofiant cignoeth" ydy Paid 芒 Bod Ofn gan y gantores Non Parry, sy'n "codi'r llen ar glamyr bywyd yn llygad y cyhoedd ac yn trafod iechyd meddwl yn onest iawn".
Mae Non yn aelod o'r gr诺p pop Eden, ac mae hi hefyd yn ysgrifennu sgriptiau ac yn astudio gradd MA mewn Ymarfer Seicotherapiwtig.
Mae ganddi hefyd bodlediad ar 成人快手 Radio Cymru, Digon - sy'n ofod i gael sgwrs onest am iechyd meddwl.
Mae Y Pump yn gyfrol o bum nofel, oll wedi eu cyd-ysgrifennu gan ddau awdur.
Yr awduron ydy Iestyn Tyne a Leo Drayton ar y nofel Robyn, Elgan Rhys a Tomos Jones ar nofel Tim, Megan Angharad Hunter a Maisie Awen ar y nofel Cat, Mared Roberts a Ceri-Anne Gatehouse ar nofel Tami, a Marged Elen Wiliam a Mahum Umer ysgrifennodd Aniq.
Disgrifiodd y beirniaid y nofelau fel rhai "gonest, pwerus a di-flewyn-ar-dafod sy'n dilyn criw o ffrindiau wrth iddynt ddarganfod y p诺er sydd gan eu harallrwydd pan maen nhw'n dod at ei gilydd fel cymuned".
Cyflwynwyd y llyfrau fel cyfrolau unigol yn wreiddiol, ond barn y beirniaid oedd bod cyfrolau'r gyfres mor gysylltiedig, a'r cymeriadau yn ymddangos drwyddi-draw, ac felly nad oedd modd gwahaniaethu rhyngddynt.
Mae'r enillwyr yn derbyn gwobr ariannol o 拢1,000 a thlws.
Yn beirniadu'r llyfrau Cymraeg eleni mae'r darlledwr Mirain Iwerydd, y cyflwynydd a cholofnydd Melanie Owen, yr academydd, golygydd ac awdur, Siwan Rosser a'r cyfarwyddwr, bardd ac awdur Gwion Hallam.
Cyhoeddwyd enillwyr y categor茂au Ffuglen Cymraeg a Barddoniaeth nos Fawrth, gyda Ffion Dafis a Grug Muse yn dod i'r brig.
Mae'r enillwyr wedi bod yn cael eu cyhoeddi ar Radio Cymru ar raglen Llyfr y Flwyddyn 2022.
Nos Iau, hefyd ar Radio Cymru, bydd enillydd Gwobr Barn y Bobl Golwg360 a'r Prif Enillydd yn cael eu cyhoeddi.