成人快手

Potsiwr eog yn cerdded yn rhydd er dal gwerth 拢60,000

  • Cyhoeddwyd
Emlyn ReesFfynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Emlyn Rees ddirwy o 拢1,600 yn dilyn 20 mlynedd o botsian anghyfreithlon

Mae potsiwr eog a gasglodd gwerth dros 拢60,000 o bysgod o afon warchodedig wedi cerdded yn rhydd ar 么l i farnwr gael ei "synnu" nad oes dedfryd o garchar am y drosedd.

Cafodd Emlyn Rees, 35, ei ddal yn dilyn 20 mlynedd o botsian anghyfreithlon gan ei luniau ei hun a dyddiadur yn cynnwys yr hyn roedd wedi'i ddal.

Mae criw potsian Rees wedi eu beio am ddirywiad sylweddol yn nifer yr eogiaid yn Afon Teifi - sydd wedi gostwng o 4,342 i 1,197 ers 2005.

Yn gweithio fel adeiladwr, cafodd Rees ei ddal ar 么l gosod rhwyd anghyfreithlon i ddal eogiaid a sewin.

Daeth beil茂aid o hyd i "ddyddiadur potsio" yn ei gartref, oedd yn cynnwys dyddiadau, lluniau o'r criw ochr yn ochr 芒'u dalfeydd a chofnodion pysgod yn dyddio'n 么l 20 mlynedd.

Clywodd y llys fod y potsio wedi bod gwerth tua 拢61,751 i Rees. ond fod yr arian bellach wedi diflannu wrth iddo aros am lawdriniaeth, a'i fod ar fudd-daliadau oherwydd na all weithio.

Bydd yn cael 拢61,791.50 wedi'i atafaelu felly, ond gan nad yw'n gallu talu'r swm, bu'n rhaid iddo dalu swm nominal o 拢1 yn unig.

Os daw i mewn i arian neu asedau yn y dyfodol, bydd y ddyled sy'n weddill yn cael ei atafaelu.

'Cymryd hyn o ddifrif'

Roedd Rees, o Genarth ar y ffin rhwng Caerfyrddin, Sir G芒r a Sir Benfro, wedi pledio'n euog i wyth cyhuddiad yn ymwneud 芒 thrin eogiaid yn anghyfreithlon yn Llys Ynadon Hwlffordd - a chafodd ei anfon i Lys y Goron Abertawe i'w ddedfrydu.

Ddydd Gwener penderfynodd y Barnwr PH Thomas osod dirwy o 拢1,600 iddo, ond ychwanegodd: "Rwy'n dychmygu y bydd aelodau'r cyhoedd yn cwestiynu hynny.

"Yn sicr nid yw'n achos o'r llys hwn yn rhoi pas am ddim iddo. Mae'n gydnabyddiaeth nad yw'r llys wedi gallu nodi unrhyw asedau."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Emlyn Rees ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe

Clywodd Llys y Goron Abertawe nad oedd modd ei anfon i garchar am nad oes dedfryd dan glo am botsian.

Ychwanegodd y Barnwr Thomas: "Rydych wedi bod yn botsiar eogiaid a sewin yn barhaus dros nifer o flynyddoedd. Cawsoch effeithiau sylweddol ar stociau pysgod yn yr afon.

"Yn anffodus, does gen i ddim p诺er i garcharu ac ni allaf orfodi dim byd mwy na dirwy. Fodd bynnag, rwy'n cymryd hyn o ddifrif."

Cydweithio rhwng asiantaethau

Yn dilyn y gwrandawiad dywedodd y Rhingyll Esther Davies o Heddlu Dyfed-Powys fod yr achos yn "enghraifft wych o gydweithio rhwng yr Heddlu a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC)".

"Mae potsian wedi bod yn broblem wirioneddol ar Afon Teifi ers blynyddoedd lawer, ac rwy'n gobeithio bod yr ymchwiliad hwn a'r ddedfryd a roddwyd heddiw yn dangos yn gryf ein hymrwymiad i ymchwilio i droseddau bywyd gwyllt ac yn galonogol i'n cymunedau pysgota."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae criw potsian Rees wedi eu beio am ddirywiad sylweddol yn nifer yr eogiaid yn Afon Teifi

Cafodd yr ymchwiliad ei sbarduno ar 么l i swyddogion gorfodi CNC batrolio rhan o Afon Teifi ger Cenarth a chanfod bod rhwyd giliau wedi'i osod yn anghyfreithlon yn yr afon.

Wrth fonitro'r ardal dros nos, gwelwyd Emlyn Rees yn gwisgo dillad tywyll yn codi'r rhwyd am 05:00.

Er iddo ffoi drwy neidio i mewn i'r afon, cafodd ei arestio'n ddiweddarach, a chwiliwyd ei gartref.

'Effaith syfrdanol'

Ychwanegodd Ann Weedy o Gyfoeth Naturiol Cymru: "Mae effaith y gweithredu anghyfreithlon hon yn syfrdanol.

"Mae graddfa'r pysgod a ddelir yn ddi-os wedi arwain at golli potensial bridio sylweddol ac anghynaliadwy.

"Ers 2020 mae'n rhaid i'r holl brithyllod y m么r mawr ac eogiaid sy'n cael eu dal yng Nghymru gael eu dychwelyd yn fyw i'r afon er mwyn helpu i ddiogelu'r stociau bregus hyn.

"Dylai'r achos hwn fod yn rhybudd i ddarpar droseddwyr y byddwn yn mynd ar drywydd pob achos lle ceir tystiolaeth o droseddu, ac os gallwn ddangos bod cynnydd ariannol sylweddol wedi'i wneud, byddwn yn ceisio atafaelu yr enillion hynny."