Popeth sydd angen ei wybod cyn Cwpan y Byd 2022
- Cyhoeddwyd
Na, nid breuddwydio ydach chi o hyd, mae o wir wedi digwydd - mae Cymru o'r diwedd wedi cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf mewn 64 mlynedd!
Ar 么l dau Ewros yn olynol, mae s锚r y genhedlaeth aur wedi cyflawni'r un peth oedd yn weddill iddyn nhw mewn p锚l-droed rhyngwladol, a sicrhau eu lle yn y llyfrau hanes unwaith ac am byth.
Felly beth sy'n disgwyl y t卯m - a chefnogwyr y Wal Goch - yn y twrnament yn Qatar?
A beth ydi'r gobeithion yn y gystadleuaeth ei hun? Does bosib na welwn ni haf fel Euro 2016 fyth eto, nac oes?
Mae Cwpan y Byd eleni'n cael ei chwarae yn Qatar rhwng 21 Tachwedd a 18 Rhagfyr, y tro cyntaf i'r gystadleuaeth gael ei chynnal yn ystod y gaeaf.
Mae'n wlad sydd hanner maint Cymru, a phedwar o'r stadiymau sy'n cael eu defnyddio wedi'u lleoli o gwmpas y brifddinas, Doha.
Gyda gemau gr诺p Cymru'n cael eu chwarae ar 21, 25 a 29 Tachwedd, mae'n golygu eu bod nhw'n rhan o ddiwrnod agoriadol y twrnament - ond hefyd y gallen nhw fod adref cyn i ni agor ein calendr Adfent!
Bydd eu holl gemau gr诺p yn cael eu chwarae yn Stadiwm Ahmad bin Ali yn Al Rayyan, sy'n dal bron i 45,000 o gefnogwyr.
Gwrthwynebwyr
Mae grwpiau Cwpan y Byd wedi cael eu dewis yn barod, a Chymru'n gwybod eisoes felly eu bod nhw mewn gr诺p efo'r UDA, Iran a Lloegr (ia, eto!).
Cymru oedd y detholion isaf, ond dim ond oherwydd eu bod nhw wedi gorfod dod drwy'r gemau ail gyfle i gyrraedd.
Yn rhestr detholion y byd FIFA mae Lloegr yn bumed, gyda'r UDA yn 15fed, Cymru'n 18fed, ac Iran yn 21ain - ar y sail yna felly, gr诺p 'cryfaf' y gystadleuaeth.
Lloegr ydi'r ffefrynnau clir gan y bwcis i ennill y gr诺p ar hyn o bryd, ond maen nhw hefyd yn rhoi siawns o tua 50% i Gymru orffen yn y ddau uchaf a chyrraedd rownd yr 16 olaf.
Trefn y gemau:
UDA v Cymru, Dydd Llun 21 Tachwedd, 19:00 GMT
Cymru v Iran, Dydd Gwener 25 Tachwedd, 10:00 GMT
Cymru v Lloegr, Dydd Mawrth 29 Tachwedd, 19:00 GMT
Carfan Cymru
Cofiwch mai rheolwr dros dro ydi Rob Page o hyd - ac yntau wedi gwneud swydd gampus ers camu i'r adwy yn sgil helyntion achos llys Ryan Giggs.
Does neb yn disgwyl mai unrhyw un ond Page fydd yn cael y dasg o arwain y garfan i Qatar, ei ail dwrnament gyda'r t卯m mewn llai na dwy flynedd.
Ond mae'n bosib y gallai Cwpan y Byd Qatar 2022 fod yn ffarwel olaf i rai o'r s锚r mwyaf cyfarwydd fel Gareth Bale, Aaron Ramsey, Wayne Hennessey, Joe Allen a Chris Gunter.
Ar y llaw arall, bydd y misoedd nesaf yn gyfle i sawl un o chwaraewyr ifanc Cymru frwydro am le yn y garfan i Qatar - gan gynnwys rhai fel Rabbi Matondo fethodd ar y cyfle i fynd i Euro 2020.
Yr unig baratoad fydd gan Page cyn Cwpan y Byd fydd pum g锚m yng Nghynghrair y Cenhedloedd - tair fis yma, a dwy ym mis Medi, ac felly dyma gyfle mawr rhai o'r s锚r ifanc i hawlio'u lle.
Problemau
Gallai Cwpan y Byd eleni fod yn broblematig ar sawl lefel.
Yn ymarferol yn gyntaf, mi fydd hi'n dipyn o her i gefnogwyr deithio yno ar gyfer y gystadleuaeth, gyda thocynnau awyr yn ddrud a phrinder llety yn y wlad.
Mae hynny wedi arwain at lywodraeth Qatar yn mynnu bod holl lety'r wlad ar gael ar gyfer y cefnogwyr p锚l-droed yn unig - ond gan fod angen tocyn i g锚m Cwpan y Byd er mwyn archebu lle i aros, dydy'r Cymry ddim wedi gallu gwneud unrhyw beth hyd yma.
Mae'r trafferthion llety a theithio yn golygu bod nifer yn ystyried aros mewn dinasoedd a gwledydd cyfagos fel Dubai, Saudi Arabia neu Kuwait, a theithio i Doha ar gyfer y gemau.
Mae'r gwres llethol hefyd yn bryder - y prif reswm pam nad ydi'r twrnament yn digwydd yn yr haf, pan mae'r tymheredd cyfartalog dros 36 gradd Celsius.
Er ei fod yn gostwng i rywle rhwng 20-25 gradd erbyn adeg Cwpan y Byd, bydd dal rhaid mynd 芒 digon o eli haul efo chi.
Yn ehangach na hynny, mae 'na feirniadaeth wedi bod ers blynyddoedd o'r ffordd y cafodd y wlad ei dewis i gynnal y twrnament, a hithau mor fach ac heb ddigon o feysydd priodol ar y pryd.
Arweiniodd hynny at bryderon pellach, gyda miloedd o weithwyr mudol wedyn yn marw wrth adeiladu'r stadiymau newydd hynny.
Mae'r wlad hefyd wedi cael ei beirniadu am ei record hawliau dynol, gan gynnwys tuag at fenywod a phobl LHDTC+ (LGBTQ+).
Digon o ffactorau i'w hystyried felly i aelodau'r Wal Goch sy'n meddwl teithio yno - a bosib iawn na welwn ni grysau cochion yn yr un niferoedd ag yr oedd yn Ffrainc yn 2016.