成人快手

Portread o nyrsys fel arch-arwyr yn rhoi pwysau ar staff

  • Cyhoeddwyd
Dynes yn cerdded heibio graffitiFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae portread o nyrsys fel arch-arwyr wedi rhoi pwysau ychwanegol ar weithlu sydd eisoes dan straen, yn 么l prif swyddog nyrsio Cymru.

Yn 么l Sue Tranka mae'r lefelau staffio presennol hefyd yn anghynaladwy, ond dywedodd fod camau yn cael eu cymryd i fynd i'r afael 芒'r broblem.

Yn y cyfamser, mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru wedi rhybuddio fod y prinder nyrsys yn cael effaith ddifrifol ar ofal cleifion ac ar iechyd a lles nyrsys.

Mae yna amcangyfrif fod tua 1,700 swyddi gwag yn y proffesiwn ar hyn o bryd.

Dywedodd Ms Tranka fod cynllun gweithlu newydd yng Nghymru i asesu faint o nyrsys sydd eu hangen, a hefyd y math o hyfforddiant fydd ei angen.

Cyfeiriodd at gynnydd o 69% yn nifer y nyrsys sy'n cael eu hyfforddi yng Nghymru, ond bod anghenion y boblogaeth hefyd wedi newid.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r proffesiwn yn wynebu 'pwysau ychwanegol o'r ddelwedd gafodd ei chreu yn ystod y pandemig'

Cred Ms Tranka fod yna broblem arall yn wynebu'r proffesiwn ar hyn o bryd, sef y pwysau ychwanegol o'r ddelwedd gafodd ei chreu yn ystod y pandemig o nyrsys fel arch arwyr.

Er ei fod yn cael ei werthfawrogi gan staff, dywedodd y gall hefyd fod yn faich.

"Mae cael y naratif hwnnw braidd yn ddi-fudd oherwydd mae'n awgrymu ein bod ni'n anffaeledig ac y byddwn ni'n cyrraedd bob dydd ar ein gorau - allwch chi ddim gwneud hynny.

"Byddwn i eisiau newid y rhethreg honno - rydyn ni'n unigolion sydd wedi'u hyfforddi i lefel uchel sy'n dod i'r gwaith bob dydd ac eisiau gwneud y gorau y gallwn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sue Tranka: 'Mae'n rhaid i ni fynd i'r afael 芒'r cyflenwad cartref'

O ran yr her o brinder staff dywedodd y dylai'r her bresennol gael ei gosod yng nghyd-destun prinder byd-eang o nyrsys cofrestredig.

Mae nyrsys rhyngwladol yn cael eu recriwtio, ond dywedodd fod hwnnw'n "ateb tymor byr" a bod "rhaid i ni fynd i'r afael 芒'r cyflenwad cartref".

Fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrs ddydd Iau, bydd Ms Tranka yn cyfarfod 芒'r recriwtiaid diweddaraf o nyrsys rhyngwladol ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

Fe wnaeth Ms Tranka ddilyn llwybr tebyg, gan iddi hi hyfforddi yn Ne Affrica a chael ei recriwtio i weithio yn y GIG yn Sunderland yn 1999.

"Ces i wir wneud i mi deimlo'n rhan o'r gymuned, a dyna wnaeth y gwahaniaeth a gwneud i mi fod eisiau aros yn y Deyrnas Unedig."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae amcangyfrif fod tua 1,700 swyddi gwag yn y proffesiwn

Mae'r gwaith o gynllunio hyfforddiant o fewn y GIG yng Nghymru yn cael ei wneud gan y corff Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

"Bydd [y gwaith cynllunio] hynny'n dweud wrthym nid yn unig nifer y nyrsys sydd eu hangen arnom ond y math o weithlu sydd ei angen arnom o amgylch y claf", meddai Ms Tranka.

Dywedodd y gallai hynny olygu cymysgedd o brentisiaid a nyrsys ymgynghorol.

'Straen dros y system gyfan'

Mae Nicola David-Job o'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn dweud fod y broblem o brinder staff yn gwaethygu gyda nifer fawr yn gadael nyrsio o ganlyniad i'r pandemig.

"Ma' prinder nyrsys yn beth trist iawn i ni fel Coleg.

"Ni 'di gweld vacancy rates yn mynd lan.

"Ma' nyrsys yn gweithio ar gyfartaledd 35 awr dros eu horiau, a ma' hynny'n cael effaith ar eu bywydau personol a'u teuluoedd."

"Ma' na straen dros y system gyfan.

"Ma' rhaid i ni feddwl am y dyfodol a chael pobl ifanc i ddod mewn i'r proffesiwn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Prifysgol De Cymru yn dweud fod 'na dal i fod lot o ddiddordeb mewn hyfforddi i fod yn nyrs, a bod y diddordeb yna wedi cynyddu oherwydd y sylw yn ystod y pandemig.

Un o'r rhai sydd yn ei hail flwyddyn yw Demi Parsons o Bontypridd, sy'n 19.

Mae hi'n dweud bod ei phrofiad personol hi wedi ei hysgogi i fynd i'r proffesiwn.

"Pan oedd fi'n ifanc fi wedi gwylio'r gofal roedd y nyrsys yn rhoi i fy nhad-cu, yn enwedig yn y cyfnod olaf ac roeddwn i mor agos gyda'r nyrsys achos roeddwn i'n gweld nhw bron pob dydd, a dwi just eisiau rhoi 'n么l i deuluoedd."

Mae hi'n meddwl fod mwy yn troi at nyrsio oherwydd y pandemig.

"Y ddwy flynedd diwethaf, mae pobl yn gwylio'r newyddion ac yn gweld mewn ysbytai sut mae nyrsys yn gofalu am y claf, ac mae pobl yn cael y cyfle nawr i roi 'n么l i'r gymuned nawr."

Pynciau cysylltiedig