Costau byw: 'Dewis rhwng gwresogi'r t欧 ac achub fy nannedd'

Disgrifiad o'r llun, Tynnwyd dant Melanie Fudge-Horton oherwydd na allai fforddio ei achub

"Roedd yn rhaid i mi ddewis rhwng gwresogi ein t欧 neu achub fy nant," meddai Melanie Fudge-Horton - gofalwr a mam i ddau o blant.

Roedd angen gwaith ar sianel y gwreiddyn (root canal) a choron arni, ond nid oedd ganddi ddeintydd GIG ac roedd ar ddiwedd rhestr aros hir.

Ac ar 么l cael gwybod y byddai'n costio 拢1,000 i achub y dant, talodd yr opsiwn rhataf - 拢50 i'w dynnu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi dyrannu 拢2m ychwanegol i helpu cleifion y gwasanaeth iechyd i gael mynediad at driniaeth.

'System annheg'

Mae Melanie a'i g诺r Marc yn ofalwyr llawn amser i'w mab Thomas, 24, sydd 芒 syndrom Asperger, a'u merch Elphie, chwech, sydd ag awtistiaeth.

Galwodd Melanie dros 20 o ddeintyddion y GIG ger ei chartref yn Abercynon, Rhondda Cynon Taf, cyn ystyried y driniaeth breifat gwerth 拢1,000.

"Gyda chostau byw yn codi doedd dim modd i mi ei fforddio," meddai.

"Fy nheulu a fi, rydyn ni ar fudd-daliadau. Does dim ffordd bod gennym ni'r math yna o incwm.

"Felly yn y pen draw penderfynais dynnu'r dant am 拢50."

Dywedodd Melanie ei fod yn gadael iddi deimlo "ychydig yn drist" ac fel "dioddefwr o system annheg".

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Mae Melanie a'i g诺r Marc yn ofalwyr i'w plant, Thomas ac Elphie

Ychwanegodd: "Rwy'n teimlo os oes ganddyn nhw le i'ch trin chi fel cwsmer sy'n talu, dylai fod ganddyn nhw le i'ch trin chi fel claf GIG.

"Mae'n bendant yn teimlo'n anghywir ac rwy'n teimlo fy mod wedi cael fy lladrata, a dweud y gwir, oherwydd pe bawn i wedi cael deintydd ar y GIG ni fyddwn wedi gorfod gwneud y dewis hwnnw.

"Daeth i'r dewis rhwng achub y dant neu gadw'r t欧 wedi'i oleuo a chael t欧 cynnes, ac, ar ddiwedd y dydd, y teulu sy'n dod gyntaf."

Rhai'n troi at dynnu eu dannedd eu hunain

Mae Melanie yn un o filoedd o bobl yng Nghymru sydd ar restrau aros i gael lle ar lyfrau deintydd y GIG.

Sefydlodd tri bwrdd iechyd Cymreig restrau canolog y llynedd ac mae ganddyn nhw dros 11,000 o bobl arnynt - 8,992 yng Nghaerdydd a'r Fro, 1,330 yng Nghwm Taf Morgannwg a 1,255 ym Mhowys.

Nid yw'r pedwar bwrdd iechyd arall yn gwybod faint o bobl sy'n aros oherwydd bod y rhestrau'n cael eu cadw gan bractisau unigol.

Mae'r 成人快手 wedi gweld dogfen gafodd ei gyrru gan Lywodraeth Cymru at ddeintyddion yn gynharach eleni sy'n cydnabod na fydd gwasanaethau'r GIG yn gallu ateb "yr holl alw" am fynediad at ddeintyddion.

Mae'n dweud y bydd yn rhaid i gleifion gael eu blaenoriaethu, a allai olygu bod pobl 芒 "cheg iach a risg isel" yn aros am archwiliad "llawer hirach nag y maen nhw wedi cynghori ers blynyddoedd lawer".

Ddydd Llun fe gyhoeddodd corff gwarchod cleifion Bae Abertawe adroddiad oedd yn canfod bod "lefelau annerbyniol o fynediad at ddeintydd" yn yr ardal, sy'n golygu bod llawer o bobl yn byw gyda phoen.

Roedd un person a ymatebodd i'w arolwg wedi troi at dynnu ei ddannedd ei hun.

Ffynhonnell y llun, LLUN TEULU

Disgrifiad o'r llun, Symudodd Tara Pearce i orllewin Cymru y llynedd ac mae'n dweud bod ganddi "euogrwydd mam" am nad yw ei phlant yn gallu gweld deintydd

Symudodd Tara Pearce yn 么l i Sir Benfro fis Gorffennaf diwethaf gyda'i g诺r John a dwy ferch, Frankie, naw, a Taya, wyth, ar 么l pum mlynedd yn Essex.

Ceisiodd gofrestru gyda deintydd y GIG, ond nid oedd unrhyw leoedd ar gael.

"Mi es i filltiroedd ymhellach i ffwrdd, a heb unrhyw lwyddiant," meddai.

"Dim lleoedd i gleifion newydd y GIG yn unrhyw un o'r deintyddfeydd o'r fan hon hyd at Lanelli."

'Loteri cod post'

Mae Tara'n teimlo ei bod wedi ei methu, ac mae ganddi'r hyn y mae'n ei alw'n "euogrwydd mam" am fethu 芒 chael deintydd i weld y merched.

Mae'n dal i fod ar restr aros, a bydd yn talu'n breifat os a phryd y bydd angen iddi, er bod y costau posibl yn bryder.

"Mae'n teimlo fel loteri cod post, neu'r cyntaf i'r felin," meddai.

"Mae'n annheg ac mae angen iddo newid."

Ffynhonnell y llun, Katie-Louise Howells

Disgrifiad o'r llun, Roedd ochr wyneb Katie-Louise wedi chwyddo ac ni allai agor ei cheg i fwyta nac yfed

Mae gan y triniwr gwallt Katie-Louise Howells o Aberdaugleddau ddeintydd GIG, ond ni allant dynnu cefnddant (wisdom tooth) sy'n tyfu'n wael.

Mae gan Katie-Louise ddau o blant ac, mewn teulu un incwm, dywedodd nad oedd "unrhyw ffordd" y gallai fforddio mynd yn breifat.

"Roedd ochr gyfan fy wyneb wedi chwyddo. Doeddwn i ddim yn gallu agor fy ngheg i fwyta nac yfed. Roedd yn effeithio ar fy nghydbwysedd," meddai.

"Roeddwn i yn y gwely am dridiau. Doeddwn i ddim yn gallu gweithio. Fe effeithiodd ar fod yn fam i fy mhlant oherwydd rydw i ar fy mhen fy hun gyda nhw."

Mae Katie-Louise wedi cael ei chyfeirio at ddeintydd GIG arall er mwyn i'r llawdriniaeth gael ei gwneud o dan anesthetig cyffredinol, ond mae'n wynebu rhestr aros o ddwy flynedd neu fil preifat mawr.

Dywedodd na all ei fforddio gyda "dau blentyn i'w bwydo yn ogystal 芒 chostau byw bob dydd".

Angen 'llawer o fuddsoddiad'

Dywedodd Russell Gidney o Gymdeithas Ddeintyddol Prydain y byddai angen i Lywodraeth Cymru wneud "llawer o fuddsoddiad ychwanegol" i gwrdd 芒'r galw am ddeintyddiaeth y gwasanaeth iechyd.

"Mae gennym ni gontract wedi'i gapio ar nifer y triniaethau y gallwn ni eu gwneud, ac unwaith rydyn ni wedi cyrraedd y targed hwnnw does dim mwy o arian," meddai.

"Felly, i ni drin mwy o gleifion [ar y GIG], fe fydden ni'n gorfod talu i drin cleifion."

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y pandemig yn golygu y gallai llai o bobl gael eu trin ond bellach fod canllawiau wedi'u diwygio i flaenoriaethu grwpiau sydd mewn perygl a'r rhai sydd 芒 phroblemau brys.

"Bydd dychwelyd gwasanaethau yn parhau i fod yn raddol a bydd yn dibynnu ar gapasiti o fewn practisau unigol," meddai llefarydd.

"Rydym yn gweithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain a'r gymuned ddeintyddol ehangach i ddiwygio'r trefniadau contractio ar gyfer darpariaeth ddeintyddol y GIG."