成人快手

Dylai fod gan y Senedd 96 o aelodau - Drakeford a Price

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Beth ydy barn pobl Machynlleth am ehangu nifer aelodau Senedd Cymru?

Dylai fod gan Senedd Cymru 96 o aelodau, meddai'r Prif Weinidog Mark Drakeford ac arweinydd Plaid Cymru Adam Price, wrth amlinellu ffordd ymlaen ar gyfer ei diwygio.

Maen nhw am i'r Senedd gael ei diwygio cyn yr etholiad nesaf yn 2026, "hyd yn oed os bydd rhai o'r newidiadau'n cael eu cyflwyno dros dro".

Byddai'r aelodau yn cael eu hethol mewn 16 o etholaethau o restrau'r pleidiau. Fe fyddai'r rhestrau'n cynnwys menywod a dynion am yn ail.

Pe bai'n dod i rym, byddai'r system cyntaf i'r felin - sy'n cael ei defnyddio i ethol 40 o'r 60 Aelod o'r Senedd - yn cael ei dileu.

Bydd angen dwy ran o dair o aelodau Senedd Cymru i gefnogi'r cynllun, ond oherwydd bod Llafur a Phlaid Cymru y niferoedd i gael y cynllun drwy'r Senedd, mae'n debygol iawn o ddigwydd.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn erbyn ehangu niferoedd aelodau'r Senedd, gyda'u harweinydd yn dweud bod Cymru "angen mwy o feddygon, nyrsys ac athrawon, nid aelodau'r Senedd".

Newid cyntaf mewn maint ers 1999

Bu galwadau i ehangu'r Senedd i ymdopi 芒'i llwyth gwaith cynyddol, a hwn fyddai'r newid cyntaf mewn maint ers iddi agor yn 1999.

Dros y ddegawd ddiwethaf mae'r Senedd wedi ennill pwerau i wneud deddfau heb orfod cael caniat芒d San Steffan, yn ogystal 芒 rheolaeth ar rai trethi.

Y cam nesaf yw y bydd pwyllgor trawsbleidiol ar ddiwygio'r senedd yn gwneud argymhellion a fydd yn siapio Bil Diwygio'r Senedd.

Bydd y pwyllgor yn cyhoeddi ei adroddiad erbyn 31 Mai ac yna bydd dadl a phleidlais arno yn y Senedd.

Beth mae Llafur a Phlaid Cymru'n ei gynnig?

Dywed y datganiad safbwynt ar y cyd, sy'n rhan rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng y ddwy blaid:

  • Dylai etholiad y Senedd yn 2026 ddefnyddio'r 32 etholaeth derfynol yn Senedd y DU a gynigir gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru unwaith y bydd wedi cwblhau ei Adolygiad Seneddol yn 2023.

  • Byddai'r etholaethau hynny'n cael eu paru i greu 16 o etholaethau Senedd Cymru, gyda phob un yn ethol chwe aelod.

  • Dylid cychwyn arolwg llawn o'r ffiniau yn ystod tymor y Senedd hon a dylai ei argymhellion ddod i rym yn etholiad dilynol y Senedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Byddai cynyddu'r aelodaeth o 60 i 96 yn dod 芒'r Senedd yn debyg i Gynulliad Gogledd Iwerddon o ran nifer yr aelodau

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Mae'r achos dros ddiwygio'r Senedd wedi'i wneud.

"Mae angen inni nawr fwrw ymlaen 芒'r gwaith caled i greu Senedd fodern sy'n adlewyrchu Cymru fel y mae heddiw; Senedd sydd wir yn gweithio i Gymru."

Meddai Adam Price, arweinydd Plaid Cymru: "Bydd y diwygiadau hyn yn gosod y sylfeini ar gyfer democratiaeth gryfach yng Nghymru a Senedd decach, fwy cynrychiadol a fydd yn edrych yn hollol wahanol i'r system wleidyddol yn San Steffan, system sydd wedi hen ddyddio.

"Bydd gan Senedd gryfach, fwy amrywiol a mwy cynrychiadol fwy o allu i gyflawni ei phrif ddiben, sef gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl Cymru."

'Meddygon, nyrsys ac athrawon'

Ond dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Mae ar Gymru angen mwy o feddygon, nyrsys ac athrawon, nid aelodau Senedd.

"Mae angen diwygio y system cynllunio ar frys fel nad yw cam ar yr ysgol dai yn ddim ond breuddwyd bell i gynifer o bobl ifanc.

"Rydym angen llywodraeth sydd o blaid busnes ac arloesi fel y gallwn gau bwlch cyflog Llafur sy'n gweld Cymru ar waelod tabl y DU ar gyflogau, a llawer o'n disgleiriaf a'n gorau yn gadael Cymru i chwilio am swyddi da.

"Pan fyddaf yn siarad 芒 phobl, dyma'r materion y mae pobl am fynd i'r afael 芒 hwy yng Nghymru. Yn hytrach na mynd i'r afael 芒'r materion hyn, mae Llafur yn blaenoriaethu syllu bogail cyfansoddiadol."

Mae'r AS Ceidwadol Darren Millar wedi ymddiswyddo o'r pwyllgor sy'n canolbwyntio ar sut i ddiwygio'r Senedd o ganlyniad i'r cyhoeddiad.

Ymatebodd Jane Dodds AS, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Mae'r datganiad yn brin o'r hyn sydd ei angen arnom i greu Senedd a democratiaeth sy'n addas i Gymru.

"Ni fydd y map etholaethol arfaethedig yn golygu dim i gymunedau, a byddwn yn dal 芒 system bleidleisio sy'n methu 芒 sicrhau bod pleidleisiau'n cyfateb i seddi."