Sioe stand-yp gyntaf Gethin Evans: 'Dwi'n licio'r sylw!'

Ffynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Disgrifiad o'r llun, Mae Gethin Evans yn perfformio ei sioe am fynd i chwilio am ei hen ffrind llythyru o Ffrainc yng Ngŵyl Gomedi Machynlleth ddydd Sul 1 Mai

Mae gwrandawyr Radio Cymru ar nos Wener eisoes yn gyfarwydd â dawn y cyflwynydd Gethin Evans i godi gwên - dros y penwythnos mae'n mynd gam ymhellach i fyd comedi gyda'i sioe stand-yp gyntaf ar lwyfan Gŵyl Gomedi Machynlleth.

Mae'n gwneud slot awr ar ei gynnig cyntaf, sydd, fel y darganfuodd ar ôl cytuno, yn anarferol i ddigrifwyr sy'n newydd i'r gêm.

"Yn draddodiadol, y ffordd mae comedi yn gweithio ydy, ti'n gwneud 10 munud [i ddechrau]; wedyn ti'n gwneud sioe 15 munud, wedyn 30 munud ac wedyn, yn y diwedd, ti'n gwneud awr," esbonia.

"Dwi wedi mynd o'i chwmpas hi y ffordd rong dwi'n meddwl, dwi 'di mynd yn syth am awr, ddim yn dallt y diwydiant!

"Mae pobl wedi sbïo arnai a deud 'Be, ti'n neud awr?' Yndw, oni'm yn gwybod bod ti fod i neud 10 munud i gychwyn!"

Ffynhonnell y llun, Edward Moore

Disgrifiad o'r llun, Mae Nish Kumar wedi perfformio sawl gwaith o'r blaen yn Machynlleth

Mae Gŵyl Gomedi Machynlleth wedi tyfu yn un o wyliau comedi mwya'r DU gydag enwau fel Nish Kumar, Ed Gamble a Rosie Jones ymysg perfformwyr 2022.

Mae Gethin yn cynnal un o'r chwech digwyddiad Cymraeg sydd ymysg y tua 200 o sioeau i gyd.

'Dewr'

Ond fydd o ddim yn camu ar y llwyfan yn hollol ddibrofiad - mae wedi cael cyfle i ymarfer ei sioe mewn nosweithau yn y Shed, Felinheli, ac yn ddiweddar yn Nefyn ac Aberystwyth.

"Roedd pobl yn dweud 'O ti'n ddewr iawn'; mae standyp yn gallu bod yn eitha' brutal, ond yn fy mhen i, yn naïf efallai, doedd o ddim mor bell â hynny o fod yn cyflwyno ar radio," meddai.

"Yr unig wahaniaeth ydi bod y gynulleidfa o 'mlaen i yn hytrach na bod nhw'n gwrando adra a bod yr ymateb ychydig bach yn fwy instant.

Disgrifiad o'r llun, Gethin Evans gyda'i bartner radio Geraint Iwan

"Dwi 'di arfer dweud petha' a pobl ddim yn chwerthin, achos dydi'r gynulleidfa ddim yna [ar y radio] - dwi'n meddwl mod i'n dweud rhywbeth ffyni ar y radio, ond does na neb yno i chwerthin so os ydw i'n meddwl mod i'n dweud rhywbeth ffyni o flaen cynulleidfa, a nhw ddim yn chwerthin, wel, mae o fatha bod ar y radio… a fydd unrhyw ymateb dwi'n gael yn bonus!"

'Licio'r sylw'

Felly beth sy'n wahanol i waith radio a beth yw'r atyniad?

"Mae o'n fwy ecseiting, mae'n wefr gwahanol i gael creu awyrgylch mewn stafell; mae hwnna yn rhywbeth sy'n cyffroi fi.

"Dwi'n licio'r her o ddweud stori a mynd â'r gynulleidfa efo fi…

"Mae o'n debyg iawn i wneud sioe magic - dwi'n setio petha' fyny, ti'n deud pethau a mae 'na reveal, mae hwnna - ffigro allan y reveal yna - dwi'n licio'r her yna o sut i 'manufactrio' y stori fel ei fod o'n hapus ac yn drist, neu be bynnag ydy o.

"Ond yr ateb syml ydi, sylw - dwi'n licio'r sylw!

"Mae'n wefr - mae'n un o'r petha' mwya' sgeri dwi wedi ei wneud a mae o'r peth mwya' ecseiting dwi wedi ei wneud hefyd."

Chwilio am ffrind yn Ffrainc

Ffynhonnell y llun, Elin Vaughan Crowley

Disgrifiad o'r llun, Yr arwydd Hollywoodaidd sydd wedi ymddangos yn Machynlleth adeg yr ŵyl yn y gorffennol

Fe ysgrifennodd y sioe Cymru/Ewrop - y bydd yn ei pherfformio yn Senedd-dŷ Owain Glyndŵr yn Machynlleth nos Sul, 1 Mai - dros y cyfnod clo

"Stori amdana fi yn mynd i ffeindio penfriend oedd gena' i yn yr ysgol ydi hi," eglura.

"Es i i Ffrainc i chwilio amdano fo ac oedd gena fi lot o footage ohona' i yn mynd o gwmpas Ffrainc yn chwilio am y boi 'ma."

Fe gynigiodd y syniad fel rhaglen i S4C meddai Gethin ond pan wnaeth hynny ddim llwyddo doedd o ddim eisiau i'r deunydd fynd yn wastraff.

"Ro'n i'n meddwl, 'mae rhaid i fi neud rwbath efo fo achos dwi 'di gwario llwyth o bres yn mynd i Ffrainc i chwilio amdano fo.' So wnes i sgwennu sioe.

"Sioe power point ydi o yn y bôn, cyflwyniad mewn ffordd; dwi'n gobeithio bydd o'n ffyni!"

Comedi 'power point'

Un o'i ddylanwadau mawr, yn enwedig gyda'r sioe hon, yw'r digrifwr Dave Gorman.

"Mae bob dim dwi 'di sgwennu ar gyfer y sioe yma wedi eu seilio ar bethau mae Dave Gorman wedi eu gwneud… dwi wedi dwyn lot o bethau ganddo fo… mae o'n arloeswr mewn gwneud comedi efo power point," meddai Gethin.

Yn arddull Dave Gorman, mae Gethin yn defnyddio tafluniwr a sgrîn i gyflwyno'r stori.

"Mae o bron iawn yn sioe theatr un dyn, mwy na gags...

"Mae 'na fwy o stori ynddo fo na mother-in-law jokes - does gen i ddim un o rheina!" cadarnha Gethin.

Ond mae yna jôc am Merched y Wawr sydd wedi ei disgrifio fel "y jôc orau erioed" yn ôl pob sôn...

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Ymhlith ei arwyr comedi eraill mae Bill Hicks a Chris Rock ac mae Tudur Owen yn "feistr" ar drin cynulleidfa meddai.

Pwy mae'n edrych ymlaen i'w gweld yn yr ŵyl?

"Mae Nish Kumar wedi gwerthu allan erbyn hyn dwi'n meddwl... Kiri Pritchard-Mclean, mae'n siŵr y gwna i fynd i weld hi, ac mae 'na gomedïwraig o Lundain o'r enw Freya Parker, 'swn i'n licio'i gweld hi nos Wener.

"Mae'n anhygoel rili, mae'r enwau masif yma i gyd yna - a mae o ar ein stepen drws ni."

Mae yn digwydd o ddydd Gwener, 29 Ebrill tan ddydd Sul, 1 Mai.