成人快手

Costau byw: Pobl ifanc yn dychwelyd i fyw gyda'u rhieni

  • Cyhoeddwyd
Emma Kaler a'i rhieni Dal a LindaFfynhonnell y llun, Emma Kaler
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Emma Kaler yn byw gyda'i rhieni eto gan fod costau byw wedi cynyddu cymaint

Mae rhai pobl ifanc sydd wedi dechrau eu gyrfaoedd yn gorfod dychwelyd i fyw gyda'u rhieni wrth i gostau byw gynyddu.

Mae prisiau tai uchel wedi atal nifer rhag gallu prynu t欧 neu fflat eu hunain.

Ond erbyn hyn, mae costau rhent yn rhy uchel hefyd i nifer.

Gyda chostau bwyd a thanwydd yn mynd 芒 chyfran fawr o'r cyflog misol, mae'r esgid yn gwasgu i nifer wrth orfod talu rhent a biliau eraill.

Mae Efa Griffiths, 22 o'r Hendy yn Sir Gaerfyrddin, yn un sydd wedi symud yn 么l adref i fyw.

Ffynhonnell y llun, Efa Griffiths
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Efa Griffiths yn ceisio arbed arian ar gyfer blaendal ar d欧, ac felly'n byw gyda'i rhieni

Ar 么l graddio o Brifysgol Aberystwyth, mae Efa'n gweithio'n rhan amser tra'n hyfforddi i fod yn athrawes.

Ond mae'n dweud y byddai rhent yn costio mwy iddi nag y byddai morgais ar hyn o bryd.

"Ma' rhaid i fi fyw adre er mwyn safio digon am flaendal t欧 yn gynta'," meddai.

"Ma' prisie popeth yn codi so ma' 'neud stwff mor syml 芒 rhedeg car a siopa bwyd yn cymryd lot o arian, yn enwedig gyda phetrol yn codi hefyd."

'Bron bob ceiniog yn mynd ar oroesi'

Dyw Efa ddim yn talu biliau'r t欧, ond mae'n dweud eu bod yn fwy gofalus fel teulu wrth geisio defnyddio'r gwres a'r tegell yn llai aml a diffodd y golau pan nad oes ei angen.

Mae'r cyfnod diweddar wedi gwneud iddi boeni am sut y bydd yn gallu fforddio byw'n annibynnol.

"Ni'n cael cipolwg ar dai nawr sy'n dai syml, tair 'stafell yn ardal Sir G芒r, a'n meddwl 'sut ydyn ni'n mynd i allu safio er mwyn fforddio t欧 sydd o werth'?

"Ma' hyd yn oed tai sydd angen renovation yn costi 拢160,000 a mwy erbyn hyn so dyw hwnna ddim rili'n opsiwn chwaith," ychwanegodd.

"A beth am fyw yn gyffredinol? Mynd ar wylie, mynd i weld llefydd newydd, mynd mas - ma'r costau mor uchel fel bod ein bywyd ni mor gyfyngedig achos bod bron bob ceiniog o'n cyflog ni'n mynd ar oroesi bywyd."

Ffynhonnell y llun, Emma Kaler
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe raddiodd Emma Kaler fel actores y llynedd, ond mae'n dweud fod byw'n annibynnol yn rhy ddrud

Mae'r actores Emma Kaler, a raddiodd y llynedd, yn byw gyda'i rhieni yng Nghaerdydd.

"Mae wir yn fy nharo i nawr fel person ifanc proffesiynol pa mor ddrud yw hi i fyw," dywedodd.

"Mae cwrdd 芒 phobl yn y brifysgol o wahanol gefndiroedd sydd ddim 芒 system gefnogaeth neu sylfaen wedi gwneud i mi wir werthfawrogi cael sylfaen.

"Dwi'n gallu deall, o fod yn berson ifanc yn yr hinsawdd hwn sut beth yw e - sut mae'n teimlo'n amhosib i ddringo'r ysgol a chael eich annibyniaeth achos mae e jest mor ddrud."

Dywedodd ei thad, Dal Kaler, eu bod fel teulu "wrth eu bodd" yn cael Emma adref ond bod angen annibyniaeth arni.

"Ry'n ni'n ei chael hi ychydig yn anodd mewn gwirionedd... heb s么n am bobl ifanc sy'n dechrau swyddi," meddai.

"Dwi ddim yn gwybod sut all rhai ohonyn nhw fforddio i fyw heb rwydwaith o gefnogaeth o'u hamgylch nhw."

Ffynhonnell y llun, Hope Mbwembwe
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Hope Mbwembwe yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe ond mae'n byw adref er mwyn arbed arian ar filiau

Mae Hope Mbwembwe, 19, yn astudio ffarmacoleg meddygol ym Mhrifysgol Abertawe.

Fe benderfynodd aros adref gyda'i Mam gan fod costau byw'n parhau i gynyddu.

"Yn lwcus, dwi ddim yn talu rhent ond dwi'n talu am fy mil ff么n ac unrhyw beth dwi eisiau, dwi'n talu amdano - pethau ychwanegol fel Netflix neu Amazon Prime, wna i dalu am hynny," meddai..

"Dwi wedi meddwl amdano [symud allan], ond yn amlwg oherwydd rhent a faint mae'n costio, dwi braidd yn amheus".

Mae mam Hope, Sibu Mbwembwe, cyn-reolwr cyffredinol y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd yn Abertawe, yn dweud fod pobl ifanc yn gorfod gwneud penderfyniadau heriol am eu dyfodol.

"Roedd pawb yn edrych 'mlaen i fynd yn 么l i fywyd normal [ar 么l i gyfyngiadau Covid ddod i ben], ond wedyn normalrwydd yw mynd allan i fwyta, cwrdd 芒'ch ffrindiau a dy'ch chi ddim yn gallu gwneud hynny nawr gan fod costau byw wedi mynd yn uchel."

Pynciau cysylltiedig