Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
DORIS: Lle i ffermwyr 'gymryd y cam cyntaf a gofyn am help'
- Awdur, Dafydd Evans
- Swydd, Gohebydd 成人快手 Cymru
Yng nghanol y trelars anifeiliaid a'r cerbydau 4x4, mae cerbyd go wahanol wedi ei barcio yn ocsiwn anifeiliaid Rhuthun y dyddiau yma.
Mae fan felen DORIS (Denbighshire Outreach Rural Information Service) yn llachar, lliwgar, ac yn denu'r llygad.
A'r gobaith ydy bydd hynny'n denu pobl o ardaloedd gwledig - a ffermwyr yn arbennig - i siarad am broblemau iechyd meddwl.
Wedi teithio o Dalysarnau, ger Porthmadog, y diwrnod y bu 成人快手 Cymru yn ymweld 芒'r ocsiwn, roedd Gwynant Parry.
Roedd o'n croesawu presenoldeb y fan: "Handi iawn! Os ydy rhywun isio siarad, mae hi yna.
"Mae lot o ffarmwrs adra drwy'r dydd, gweld neb. Mae isio gweld pobl does, neu mae posib mynd i rut wedyn."
"'Di ffarmio ddim fel oedd o dwi'm yn meddwl 'de," meddai.
"Ond mae'n rhaid i rywun just cario ymlaen, gwneud y gorau o be' fedran nhw."
Byddai llawer yn cytuno 芒 geiriau Gwynant, ond mae gwasanaeth DORIS yn anelu at newid y feddylfryd honno trwy bwysleisio bod "cario ymlaen" yn haws weithiau wrth droi'r meddwl at bethau eraill.
Mae'r gwasanaeth yn cael i redeg gan elusen iechyd meddwl MIND, ond yn defnyddio rhagnodi cymdeithasol - social prescribing - i helpu pobl.
Yn hytrach na chanolbwyntio ar y problemau iechyd meddwl, mae'r dechneg hon yn defnyddio pethau fel gweithgareddau cymunedol.
Cadw'n brysur yn y gymuned
Un o'r gwirfoddolwyr gyda MIND, Denise Williams, fu'n egluro sut mae'r gwasanaeth yn gweithio.
"Mae aelod o staff o MIND yn gallu eistedd 'efo nhw a dim gweithio ar eu iechyd meddwl nhw, ond cyfeirio nhw at bethau eraill sy'n digwydd yn y gymuned, pethau i gadw nhw'n brysur, pethau i gadw eu meddwl nhw i ffwrdd o'r broblem sydd ganddyn nhw.
"Er enghraifft Men's Shed, lle mae dynion yn gallu mynd i gadw'n brysur, gwneud gwaith coed.
"Felly dim helpu 'efo iechyd meddwl o anghenraid, ond beth sy'n digwydd o'u hamgylch yn y gymuned."
Gwylio p锚l-droed yn y dafarn ydy un o'r ffyrdd mae Gwynant Parry'n mynd a'i feddwl oddi ar waith.
"Fydda i'n mynd am beint, licio watsiad ffwtbol. Just cael few hours bob wsos i gael dy feddwl off bethau 'de. Bywyd heblaw gwaith 'de."
Yn gweithio gyda DORIS mae Sefydliad y DPJ, sy'n ceisio helpu ffermwyr yn benodol.
Yn 么l Elen Gwen Williams, mae stigma o amgylch iechyd meddwl o hyd.
"Mae ffermwyr, 'den ni wedi arfer rhoi meddyginiaeth i'n anifeiliaid, 'den ni wedi arfer trwisio tractor, torri bys, strapio fo, cario mlaen. Torri braich, mynd i'r ysbyty a cael plastar.
"'Den ni angen gwneud hynny 'efo'r meddwl, edrych ar 么l ein meddyliau, a 'neud yn si诺r bod ni'n cymryd y cam cyntaf.
"Siarad 'efo ffrind, mynd am baned, cymryd y cam cyntaf a wedyn gofyn am help."
Bydd fan DORIS yn ymweld 芒 marchnad anifeiliaid Rhuthun a Llanelwy a nifer o gymunedau gwledig de Sir Ddinbych yn gyson dros y flwyddyn nesaf.
Yn 么l un arall o wirfoddolwyr MIND, Meryl Jones, mae "mynd yn 么l" yn allweddol.
"'Den ni wedi bod yn Rhuthun ddwy waith a 'den ni wedi bod yn Llanelwy ddwy waith r诺an yn yr ocsiwn.
"Cerdded o gwmpas achos 'den nhw ddim yn fodlon dod i fewn i fa'ma. Felly 'den ni'n mynd allan cerdded o gwmpas a siarad 'efo nhw a rhoi cardiau bach.
"Achos os 'den ni ddim yn teimlo bod nhw'n medru siarad efo ni, falle fedran nhw ffonio ni wedyn."