Ffoaduriaid Wcr谩in: Llywodraeth Cymru yn gofyn am gymorth

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Aelodau teulu o Wcr谩in yn aros i'r gwaith papur gael ei gwblhau yng ngorsaf fferi Calais

Mae busnesau a sefydliadau Cymreig wedi cael cais i helpu gyda llety a chludiant i ffoaduriaid o Wcr谩in.

Llywodraeth Cymru wnaeth y cais, gan ofyn am gymorth i ddarparu bwyd a chyfieithwyr.

Mae "canolfannau cyrraedd" hefyd yn cael eu sefydlu yng ngorsafoedd rheilffordd a phorthladdoedd Cymru i ddarparu cefnogaeth ar unwaith, meddai gweinidog.

Mae miliynau wedi ffoi o Wcr谩in ers diwedd mis Chwefror.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu noddi mil o bobl i ddod i'r DU, ar wah芒n i'r llwybr nawdd unigol, trwy gynllun a agorodd ddydd Gwener.

Gall pobol sy'n gadael Wcr谩in ddewis cael eu noddi am fisa gan Lywodraeth Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae miliynau wedi ffoi o Wcr谩in ers diwedd mis Chwefror.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, yn y Senedd ddydd Mawrth fod gweinidogion yn gofyn i gwmn茂au gofrestru eu diddordeb mewn helpu.

"Rydym yn gofyn i fusnesau neu sefydliadau am gymorth i ddarparu llety ar raddfa fawr, trafnidiaeth i fynd 芒 phobl i'w cartrefi newydd, cyflenwadau, fel bwyd, dillad a chynnyrch misglwyf, a chyfieithwyr."

Bydd modd i gwmn茂au gofrestru ar wefan Llywodraeth Cymru, meddai.

Mae canolfannau cyrraedd hefyd wedi'u sefydlu mewn porthladdoedd yng Nghymru, gan gynnwys Maes Awyr Caerdydd, porthladdoedd fferi Cymru, a gorsafoedd rheilffordd Caerdydd a Wrecsam.

Dywedodd Ms Hutt y byddai'r canolfannau'n darparu teithio i ganolfan groeso gan Lywodraeth Cymru.

Ar hyn o bryd mae un yn weithredol, lle mae'r Urdd wedi cynnig llety tymor byr i hyd at 250 o bobl, er bod swyddogion Cymru yn cynllunio mwy.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu 拢1m ar gyfer Cronfa Croeso Cenedl Noddfa, meddai Ms Hutt.

Nod y gronfa, sy'n cael ei rhedeg gan Sefydliad Cymunedol Cymru, yw cefnogi pobl sydd wedi'u dadleoli gan wrthdaro.

Yn y cyfamser mae llinell gymorth wedi'i sefydlu i roi cyngor i bobl sy'n cyrraedd y wlad, a'r rhai sy'n ceisio noddi ffoaduriaid.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y gall y llinell gymorth gael ei galw yn y DU ar 0808 175 1508 a thu allan i'r DU ar 0204 5425671.