Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Cymru 21-22 Yr Eidal

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Disgrifiad o'r llun, Yr Eidal yn dathlu buddugoliaeth i'w chofio yng Nghaerdydd

Roedd 'na ddiweddglo dramatig yng Nghaerdydd wrth i'r Eidal gau'r drws ar rediad o 36 gêm Chwe Gwlad heb ennill.

Yn ystod eiliadau ola'r gem, llwyddodd rhediad chwim Ange Capuozzo lawr yr asgell dde i ddarganfod Edoardo Padovani i lorio'r cais buddugol.

Gyda chic ola'r gêm, ysgogodd drosiad Paolo Garbisi ddathliadau gwyllt ymysg y rheiny mewn glas.

Yn wir, doedd ddim llai na'r oedd yr Eidal yn ei haeddu yn dilyn perfformiad ddi-fflach gan Gymru.

Mae'r canlyniad yn golygu fod yr ymwelwyr wedi llwyddo i ennill eu gêm gyntaf yn y Chwe Gwlad ers 2015.

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Mewn hanner cyntaf sâl o safbwynt Cymru, yr ymwelwyr setlodd fewn i'r gêm orau.

Sgoriodd Owen Watkin gais wedi symudiad gwych gyda 28 munud ar y cloc, gyda Dan Biggar yn gyfrifol am ychwanegu dau bwynt arall i'r sgorfwrdd.

Ond diolch i bedair cic gosb aeth yr Eidal fewn i'r egwyl yn haeddiannol 12-7 ar y blaen.

Yn wir, fe all mantais yr Eidalwyr wedi bod yn fwy heblaw am diddymu cais Capuozzo yn dilyn gwiriad fideo, gyda'r penderfyniad fod y bêl wedi'i tharo ymlaen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Cic gosb Edoardo Padovani

Ar ddechrau'r ail hanner fe arbedodd Josh Adams gais i'r ymwelwyr gan stopio rhediad chwim Monty Ioane ond llathen yn brin o'r llinell gais.

Ond ysgogodd hyn y Cymry, gyda chais Dewi Lake yn unioni'r sgôr ond funudau'n ddiweddarach cyn i gic Dan Biggar roi'r cochion ar y blaen.

Er hynny, dod yn ôl wnaeth yr Eidalwyr i wneud hi'n 14-15, diolch i cic gosb Paolo Garbisi.

Ond nid hwnnw oedd diwedd y sgorio, gyda chais Josh Adams yn dod wedi 68 munud er mawr ryddhad mwyafrif y dorf yng Nghaerdydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Cais Owen Watkin oedd yr unig un o'r hanner cyntaf

Diddymwyd cais arall i Gymru wedi'i wirio ar fideo, gyda'r dyfarniad nad oedd Wyn Jones wedi llwyddo i groesi'r llinell pan yn llorio'r bêl.

Ond gyda hi'n edrych yn gynyddol debyg fod yr Eidal wedi blino gormod i ddod yn ôl unwaith eto, daeth y diweddglo dramatig gan sicrhau noson i'w chofio i'r nifer gymharol fechan o gefnogwyr mewn lliwiau glas yng Nghaerdydd.