Wcr谩in: Gweinidog yn bwriadu croesawu perthnasau
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidog yn Llywodraeth Cymru yn aros i ddarganfod a fydd dau o'i berthnasau yn Wcr谩in yn derbyn fisas er mwyn iddyn nhw allu byw gydag e.
Dywedodd Aelod Senedd Llafur Pontypridd, Mick Antoniw - mab i ffoadur - ei fod yn teimlo dyletswydd i helpu.
Mae Mr Antoniw yn fodlon caniat谩u i'w berthnasau aros gydag ef nes ei bod yn ddiogel i ddychwelyd.
Galwodd y cwnsler cyffredinol hefyd am sefydlu hybiau i helpu newydd-ddyfodiaid.
Mae'r ddau berthynas yn wraig i un o'i gefndryd a'i fab yn ei arddegau.
Maen nhw'n byw yng ngorllewin yr Wcr谩in, sydd hyd yma wedi osgoi peth o'r ymladd gwaethaf.
Fe wnaethon nhw gais fore Mawrth ar 么l i gynllun fisa teulu Lywodraeth y DU gael ei ymestyn i ganiat谩u ceisiadau ar-lein.
'Biwrocrataidd'
Ymwelodd Mr Antoniw, a aned yn Reading ac sy'n siarad Wcreineg, 芒'r wlad ddyddiau cyn i'r ymosodiad ddechrau.
"Rydyn ni wedi bod yn ceisio cael fisas iddyn nhw ers dechrau'r goresgyniad," meddai.
"Ond mae cynlluniau'r llywodraeth wedi bod yn hynod gaeth a biwrocrataidd.
"Fe fyddwn ni'n aros i weld faint o amser mae'n ei gymryd i brosesu.
"Os yw hynny'n digwydd, yna yn amlwg fe allan nhw fynd dros y ffin. A bydda i mewn sefyllfa i drefnu iddyn nhw hedfan i'r DU."
Dywedodd Mr Antoniw wrth 成人快手 Cymru: "Cefais fy magu mewn cymuned o bobl oedd mewn sefyllfa debyg - pobl wedi'u dadleoli ar 么l y rhyfel," meddai.
"Yn amlwg mae gennych chi ddyletswydd i wneud drostynt yr hyn a wnaeth llawer o bobl dros ein rhieni - i ddarparu cartrefi a swyddi a'u helpu i setlo."
Mae eraill yn ei deulu yn nwyrain y wlad, mewn ardaloedd sy'n dod o dan ymosodiadau cynyddol.
Mae rhai wedi symud i'r gorllewin, a dywedodd Mr Antoniw fod tair cenhedlaeth o'i deulu yn ymwneud ag amddiffyn sifil.
'Profiad unig iawn'
Tra bod ei deulu'n wynebu llai o rwystrau yn dod i fyw gydag ef, mae'n credu y gallai ffoaduriaid eraill wynebu anawsterau fel iaith.
"Os ydyn nhw'n mynd i mewn i gartref rhywun neu i lety, fe all fod yn brofiad unig iawn i ffoaduriaid," meddai.
"Yr hyn fydd yn bwysig yw bod yna fath o hybiau'n cael eu creu lle gall pobl ymgysylltu a chael cefnogaeth a chael cyfarfod a chymysgu a dechrau dod i arfer 芒 thrawma'r hyn sydd wedi digwydd i'w bywydau."
Ddydd Llun lansiodd Llywodraeth y DU ei chynllun 成人快手s for Ukraine, lle gall unigolion ac, yn ddiweddarach, sefydliadau noddi pobl i ddod i'r DU.
Dywedodd Llywodraeth Cymru, sy'n gobeithio dod yn "uwch noddwr" yn y cynllun, y bydd angen mwy o gefnogaeth gan y sector cyhoeddus ar bobl Wcr谩in.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2022