Eisteddfod yr Urdd: Tri llwyfan ond dim rhagbrofion

Disgrifiad o'r llun, Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019 oedd yr eisteddfod olaf cyn i'r pandemig daro
  • Awdur, Iolo Cheung
  • Swydd, Gohebydd 成人快手 Cymru

Ni fydd rhagbrofion yn Eisteddfod yr Urdd eleni, wrth i'r mudiad ieuenctid gyhoeddi newidiadau ar gyfer yr 诺yl yn Sir Ddinbych.

Yn hytrach, bydd pob un o'r cystadleuwyr sy'n cyrraedd yno yn cael y cyfle i berfformio ar un o dri llwyfan ar y maes - yn hytrach na'r un prif bafiliwn arferol.

Daeth y cyhoeddiad wrth i'r Urdd ddatgelu rhagor o drefniadau ar gyfer yr 诺yl, fydd yn cael ei chynnal rhwng 30 Mai a 4 Mehefin ar gyrion tref Dinbych.

Bydd mynediad am ddim ar gael i'r maes eleni, gyda 'G诺yl Triban' hefyd yn cael ei chynnal fel aduniad i aelodau a chyn-aelodau.

Hon fydd y tro cyntaf i Eisteddfod yr Urdd gael ei chynnal mewn tair blynedd, wedi i'r digwyddiad gael ei ohirio ddwywaith oherwydd pandemig Covid.

Yn absenoldeb yr 诺yl arferol fe wnaeth yr Urdd gynnal Eisteddfod T, gyda chystadlaethau ar-lein yn bennaf, gan gynnwys rhai gwahanol i'r arlwy arferol.

Disgrifiad o'r llun, "Mae pawb wedi hiraethu am yr Eisteddfod a'i hasbri," medd Sian Eirian, cyfarwyddwr yr Eisteddfod

Ond wrth gadarnhau rhai o'r trefniadau newydd ar gyfer eleni dywedodd cyfarwyddwr yr 诺yl, Sian Eirian, fod y mudiad methu aros i weld pawb yn dychwelyd go iawn o'r diwedd.

"Does dim dwywaith ein bod ni i gyd, boed yn gystadleuwyr, hyfforddwyr, cefnogwyr, stondinwyr neu'n wirfoddolwyr wedi hiraethu am yr Eisteddfod a'i hasbri," meddai.

"Mae ein diolch yn fawr i'r holl wirfoddolwyr, beirniaid, hyfforddwyr a staff sydd wedi rhoi o'u hamser i sicrhau ein bod yn gallu llwyfannu Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth y gwanwyn hwn.

"Heb os, bydd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych, yng nghanol blwyddyn canmlwyddiant yr Urdd, yn 诺yl i'w chofio - ac mae pawb ynghlwm 芒 pharatoadau'r Eisteddfod yn haeddu hynny."

Aelwyd newydd

Ym mhentref Llanrhaeadr, mae c么r Aelwyd Dyffryn Clwyd wedi bod yn ymarfer yn ddiwyd ar gyfer eu cystadleuaeth nhw, ac yn edrych ymlaen at groesawu'r 诺yl i'w hardal.

Disgrifiad o'r fideo, Mae Aelwyd Dyffryn Clwyd yn edrych ymlaen at gystadlu mewn Eisteddfod am y tro cyntaf

"'Dan ni'n aelwyd newydd sbon - gaethon ni'n sefydlu ym mis Hydref, Tachwedd 2019," meddai Ceri Haf Roberts, arweinydd y c么r.

"Wedyn wrth gwrs, byr iawn oedd y cyfle gaethon ni i ganu efo'n gilydd achos daeth Covid.

"Ond 'dan ni 'di gallu ailgydio mewn pethau r诺an, felly mae'n gyfnod cyffrous iawn ac yn sicr mae 'na ymdeimlad o gynnwrf yn yr ardal."

Disgrifiad o'r llun, "Cyfle gwych i hel criw o bobl ifanc at ei gilydd i gystadlu yn yr eisteddfod leol" medd Sion Eilir

Ychwanegodd Sion Eilir, un arall o'r aelodau, fod traddodiad cerddorol cryf yr ardal yn golygu bod digon o frwdfrydedd wedi bod i allu sefydlu'r aelwyd.

"Oeddan ni wastad yn teimlo bod angen aelwyd neu g么r yma yn Nyffryn Clwyd, a ninnau'n gweld hwn fel cyfle gwych i hel criw o bobl ifanc at ei gilydd i gystadlu yn yr eisteddfod leol," meddai.

'Llwyfan i bawb'

Y newid mwyaf trawiadol i'r 诺yl eleni fydd y 'Llwyfan i bawb' - trefn newydd fydd yn golygu fod pawb sy'n dod drwy'r eisteddfodau cylch a rhanbarth ddim yn wynebu rhagbrawf pellach yn Ninbych.

Yn hytrach, fe fydd y cystadleuwyr i gyd yn cael perfformio ar lwyfan yn un o'r tri pafiliwn fydd ar y maes, sy'n golygu na fydd un 'prif' bafiliwn.

Gyda'r Urdd yn dathlu ei chanmlwyddiant eleni, bydd 'G诺yl Triban' hefyd yn cael ei chynnal ar dridiau olaf yr Eisteddfod, gyda'r mudiad yn ei ddisgrifio fel "aduniad mwyaf y ganrif".

Disgrifiad o'r llun, Aelodau Aelwyd Dyffryn Clwyd yn ymarfer cyn y brifwyl a fydd yn cael ei chynnal eleni yn eu hardal

Bydd y digwyddiad am ddim drwy'r tocyn cyffredinol i'r maes, gyda gwahoddiad i aelodau a chyn-aelodau, a cherddoriaeth gan artistiaid - yn eu plith Eden, Gwilym, E盲dyth, Tara Bandito a N'Famady Kouyat茅.

Roedd yr Urdd eisoes wedi cyhoeddi y byddai mynediad i'r maes yn Ninbych am ddim, a hynny yn dilyn 拢527,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

"Mae ymweld 芒'r Eisteddfod yn gyfle gwych i ddefnyddio'r Gymraeg, gyda gweithgareddau i bawb, p'un a ydych chi'n siaradwr Cymraeg hyderus, yn ddysgwr neu os oes gennych ddiddordeb yn yr iaith a'r diwylliant," meddai Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles.

"Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi'r Urdd, ym mlwyddyn ei chanmlwyddiant, i wneud mynediad i'r Maes yn rhad ac am ddim eleni, i bawb ei fwynhau."