Wcr谩in: Athrawes 'yn lwcus' o gael ffoi i Ynys M么n

Disgrifiad o'r fideo, 'Maen nhw'n ddewr, yn ddychrynllyd o ddewr'
  • Awdur, Liam Evans
  • Swydd, Gohebydd 成人快手 Cymru

Mae menyw 26 oed o Wcr谩in yn dweud ei bod "yn lwcus" o fedru ffoi a chael lloches yng Nghymru.

Lai na thair wythnos yn 么l mi oedd Oleksandra, 26, yn athrawes Saesneg yn Wcr谩in, ond erbyn hyn mae'n ffoadur sy'n byw ym Mryn-teg, Ynys M么n.

Fe gymrodd bedwar diwrnod iddi wneud y daith o ddinas Zaporizhzhia, yn ne-ddwyrain Wcr谩in i ogledd Cymru lle mae hi bellach yn byw gyda'i theulu.

Ond, mae'n dweud ei bod yn poeni am ei mam a'i nain sydd yn dal i wynebu sgil effeithiau'r rhyfel, gyda nwyddau a chyflenwadau'n prinhau.

Disgrifiad o'r llun, Oleksandra yn ffarwelio 芒'i mam cyn gadael Wcr谩in

Wrth i densiynau ddatblygu yn y rhanbarth ar ddechrau mis Chwefror, fe benderfynodd Oleksandra wneud cais am fisa i'r Deyrnas Unedig.

Pan ddechreuodd y brwydro, fe benderfynodd adael gydag ambell fag ar ei chefn am Fryn-teg, Ynys M么n at ei theulu yno.

"Mi oedd o'n anodd iawn i mi am nad oeddwn i eisiau gadael fy nheulu," dywedodd.

"Ond fe wnaethon nhw fy annog i, fe ddywedon nhw, os nad chdi, pwy all?

"Roedden nhw am i mi adael Wcr谩in, a dyna sut nes i ddod fan hyn.

"Mae rhaid i mi ddweud, mi o'n i'n lwcus, mi nes i ffoi, ond r诺an mae'n wallgof yno, ond dwi ddim am gwyno."

Disgrifiad o'r llun, Mae Gwenda Thompson yn rhoi lloches i Oleksandra ym Mryn-teg ym M么n

Mae Oleksandra bellach yn byw gyda Gwenda a John Thompson ym Mryn-teg, ger Benllech, ers ychydig yn llai na phythefnos.

Fe briododd mab Gwenda a John fodryb Oleksandra wyth mlynedd yn 么l, ac ers hynny mae'r teulu wedi cefnogi eu perthnasau yn Wcr谩in wrth i densiynau gynyddu.

"Doedden ni ddim yn gwybod lle'r oedd Oleksandra, 'mond bod hi ar y ffordd at y border gyda Poland a doedd neb yn gallu cael gafael arni," meddai Gwenda.

"Mi oedd hi'n boenus ofnadwy i bawb gan nad oedden ni'n gwybod be' oedd hi'n wynebu ar y ffordd.

"Ond fe aeth hi i Lviv, yna i Krak贸w ac yna fflio draw i Fanceinion. Roedd hi wedi bod ar y l么n ers pedwar diwrnod."

Mae'r teulu o F么n yn dweud mai croesawu Oleksandra oedd y peth naturiol i wneud.

"Mi yda ni'n falch ein bod ni'n gallu helpu a gwneud rhyw ran i'r teulu a 'sa ni'n gwneud o gyd eto," dywedodd Gwenda.

"Maen nhw'n ddewr, yn ddychrynllyd o ddewr."

'Pam fod hyn yn digwydd?'

Disgrifiad o'r llun, Oleksandra (cefn) gyda'i mam a'i nain sy'n dal yn Wcr谩in

Wrth edrych yn 么l ar ei thaith i Gymru, fe esboniodd Oleksandra ei bod wedi drysu ac wedi gorflino.

"Roedd o'n drist, yn rhwystredig oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod pam. Pam ddylwn i adael a pham bod hyn yn digwydd?" eglurodd.

"Ges i gyfnodau o fethu deall a meddwl bron, 'ai breuddwyd oedd hyn?'"

Mae Oleksandra bellach yn treulio ei dyddiau yn y caeau ym Mryn-teg yn edrych ar 么l y ceffylau gyda Gwenda a John, ac yn gwneud ei gorau i gysylltu gyda'i theulu dros alwadau fideo.

"Dwi'n eithriadol o bryderus am fy nheulu," meddai.

"Dwi'n ysu i wneud rhywbeth ond dwi'n teimlo'n ddiymadferth, ond eto fyth, ddim heb obaith."

'Byddwn ni'n sefyll yn gadarn'

Mae Oleksandra'n dweud nad yw hi'n gwybod pryd fydd modd iddi ddychwelyd adref i weld ei theulu a'r hyn sy'n weddill o'i dinas enedigol.

"Dwi ddim yn gwybod a fydd o'n cael ei fomio neu a fydd rhywbeth yn digwydd i mam a nain," meddai.

"Alla i ddim pit茂o fy hun, mae gennym ni ein byddin a dwi'n coelio yn ein pobl. Mi fyddwn ni'n sefyll yn gadarn ac yn fuddugol."