Galar yn Wrecsam wedi i berthnasau farw yn Wcr谩in

Disgrifiad o'r llun, Dau o'r gwirfoddolwyr yn cadw munud o dawelwch wedi i gydweithiwr dderbyn y newyddion gwaethaf posib am aelodau teulu yn Wcr谩in

Mae dynes yn Wrecsam yn galaru wedi i aelodau o'i theulu gael eu lladd yn sgil ymgyrch filwrol Rwsia yn Wcr谩in.

Roedd y ddynes ymhlith criw o wirfoddolwyr oedd yn helpu casglu a didoli rhoddion mewn warws yn y dref ar gyfer ffoaduriaid pan gafodd wybod bod perthnasau wedi marw wrth i ardal ger y brifddinas, Kyiv, gael ei bomio.

Fe wnaeth gweddill y gwirfoddolwyr gynnal munud o dawelwch er parch i'r ddynes, y maen nhw wedi cydweithio 芒 hi yn ystod yr wythnos diwethaf.

"Fe fysa wedi gallu bod yn unrhyw un ohonon ni," meddai Lisa Ashley, un o'r gwirfoddolwyr sy'n helpu trefnu'r ymgyrch.

Disgrifiad o'r llun, Munud o dawelwch yn y warws yn Wrecsam ble roedd tua dwsin o bobl yn helpu'r ymgyrch rhoddion

Ychwanegodd Ms Ashley: "'Dan ni gyd yn fodau dynol gyda theulu o ryw fath.

"Does dim ots o ble rydan ni'n dod, mae hawl iddi fod 芒 theulu."

Disgrifiad o'r fideo, Megis dechrau yw casglu'r rhoddion, fel yr eglura un o'r gwirfoddolwyr, Leah Hughes

Mae hyd at 500 o wirfoddolwyr wedi bod yn didoli maint anferthol o eitemau.

Y nod yw trefnu "confoi" er mwyn cludo rhoddion i bobl "mewn daer angen" ar y ffin rhwng Wcr谩in a Gwlad Pwyl.

'Dan i gyd yn cas谩u Putin'

Disgrifiad o'r llun, Mae Anna Buckley, Pwyles sy'n byw yn Wrecsam, yn helpu rhoi trefn ar roddion o bob rhan o'r DU

Yn 么l Anna Buckley, cyfarwyddwr Canolfan PISC (Polish Integration Support Centre) yn Wrecsam, fe gyrhaeddodd rhoddion o lefydd cyn belled 芒 Llundain a'r Alban mewn ymateb i ap锚l ar Facebook.

Dywedodd bob pobl o bob math o wledydd wedi cynnig helpu trefnu rhoddion, gan gynnwys unigolion o Rwsia ac Wcr谩in.

"'Dwi'n credu ein bod ni gyd 芒'r un galon," meddai. "Mae'n dangos caredigrwydd a chariad - 'dwi mod emosiynol yn ei gylch.

"'Dan ni'n unedig. 'Dan ni gyd yn cas谩u Putin. Dwi'n gweld y gobaith ymhlith y bobl yn y warws yma."

Disgrifiad o'r llun, Mae hwn yn un o bum warws yn Wrecsam sy'n derbyn a didoli rhoddion ar gyfer ffoaduriaid yn Wcr谩in

Mae'r gr诺p yn gweithio gyda llywodraeth Gwlad Pwyl i gludo'r rhoddion o Gymru i'r ffin ag Wcr谩in - o bosib ar lor茂au ac ar awyrennau.

Y gobaith, medd Ms Buckley, yw y bydd hynny'n dechrau digwydd yn y dyddiau nesaf ond mae mwy o waith eto i'w wneud.