Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gofalwyr plant sy'n perthyn yn darparu 'gofal rhad'
- Awdur, Sian Elin Dafydd
- Swydd, Newyddion 成人快手 Cymru
Mae pryderon bod pobl sy'n gofalu am blant sy'n perthyn iddyn nhw yn darparu "gofal rhad" o'i gymharu 芒 gofalwyr maeth eraill.
Mae cannoedd o filoedd o bobl ym Mhrydain yn gofalu am berthynas iau fel 诺yr, wyres, brawd, chwaer, nith neu nai.
Yn Lloegr mae gofalwyr o bob math yn cael yr un cymorth ariannol, ond yng Nghymru mae gofalwyr sy'n berthnasau yn derbyn 拢100 yr wythnos yn llai ar gyfer pob plentyn.
Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru eu bod yn cydnabod r么l angenrheidiol gofalwyr maeth, gan gynnwys gofalwyr sy'n berthnasau, a bod pob gofalwr maeth yng Nghymru yn derbyn lwfans a thaliadau ychwanegol os yn cwrdd 芒 gofynion penodol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw hefyd yn gwerthfawrogi yr hyn sy'n cael ei wneud gan ofalwyr sy'n berthynas neu'n ffrind, ond yn credu y dylai pob gofalwr maeth gael ei drin yn deg.
Bu James - nid ei enw iawn - a'i wraig yn edrych ar 么l eu hwyres bump oed ar 么l i'w mam geisio lladd ei hun.
Dywedodd bod y ferch wedi bod ar y gofrestr amddiffyn plant deirgwaith mewn pum mlynedd, ac wedi profi peth "ymddygiad annifyr ac anodd gan oedolion".
"Fe geisiodd ei mam gymryd ei bywyd ei hun ac o fewn 48 awr roedd ein hwyres gyda ni," meddai.
Ychwanegodd na fyddai'n newid dim, ond bod y broses o'i magu ar adegau wedi bod yn heriol.
Dywedodd James, sydd o dde Cymru, mai nhw oedd yn gyfrifol am ei chael hi i'r ysgol, ei dysgu i lanhau ei dannedd a chael bath oherwydd bod y pethau arferol hynny yn "estron" iddi.
Fe roddodd hyn bwysau ar y teulu'n ehangach hefyd, meddai James, gan gynnwys ei berthynas gyda'i blant ei hun.
Yng Nghymru mae cynnydd o 88% wedi bod dros y degawd diwethaf yn nifer y perthnasau sy'n gofalu am blant, ac mae honiadau eu bod nhw darparu "gofal rhad" i'r cynghorau.
30% yn llai na gofalwyr eraill
Mae James wedi dechrau her gyfreithiol yn erbyn ei awdurdod lleol.
"Mae'r polisi'n dweud os ydych chi'n perthyn i'r plentyn, fyddech chi'n cael 30% yn llai o arian na gofalwyr eraill - ma' hwnna'n gwbl annheg ac anghyfartal.
"Felly dechreuais i ar y broses o herio'r penderfyniad yna - dim yr arian oedd yn bwysig i fi. Mae'n ymwneud 芒'r gwerth sy'n cael ei roi ar ofalwyr sy'n berthnasau.
"Maen nhw'n gwneud gwaith eithriadol o dan amgylchiadau anodd iawn ond maen nhw'n cael llai o werthfawrogiad a llai o arian," meddai.
Dywedodd y gallai'r arian ychwanegol wneud gwahaniaeth enfawr i ofalwyr sy'n byw mewn tlodi.
Mae un cyfreithiwr blaenllaw yn gweithio ar nifer o hawliadau yn erbyn cynghorau Cymru ar ran gofalwyr sy'n berthnasau.
Mae un cyngor wedi setlo allan o'r llys ac mae Nigel Priestley o Ridley and Hall Solicitors yn barod i ddwyn adolygiad barnwrol yn erbyn dau awdurdod lleol arall.
Dywedodd fod pob gofalwr maeth yn cael lwfans sylfaenol i dalu am bethau fel bwyd a dillad ond nid oes gan ofalwyr sy'n berthnasau hawl i'r arian ychwanegol - arian y mae gofalwyr nad ydynt yn perthyn yn ei gael.
Ychwanegodd y dylai cynghorau ddiweddaru eu polis茂au ac ad-dalu y rhai sydd heb gael eu talu fel y dylen nhw.
Yn 么l Gwenan Prysor, uwch-ddarlithydd mewn gwaith cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, mae angen edrych ar yr holl broses gofal plant.
"'Da ni angen cefnogi rhieni a theuluoedd yn well, achos yn aml iawn mae'r teuluoedd sy'n cael anhawster gyda'u plant angen yr un sgiliau rhiant 芒 gofalwyr maeth," meddai.
"Ella bo' ni angen rhaglenni mwy dwys yn gyffredinol ar gyfer teuluoedd mewn cymdeithas."
Mae'r Aelod o'r Senedd Jane Dodds, sydd wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol ers dros 20 mlynedd, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesur ar frys i sicrhau fod gofalwyr yn cael eu trin yr un fath.
"Mae awdurdodau lleol dros Gymru'n trin kinship carers yn wahanol, mae fel post code lottery - mae'n dibynnu'n hollol lle 'dach chi'n byw.
"A'r peth arall ydy bo' nhw'n cael llai o arian na gofalwyr maeth ac mae hynny'n annheg achos ma' nhw'n gwneud rhywbeth arbennig ar gyfer eu teulu," meddai.
Gwerthfawrogi
Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru eu bod yn cydnabod r么l angenrheidiol gofalwyr maeth, gan gynnwys gofalwyr sy'n berthnasau, wrth iddynt edrych ar 么l plant na sy'n gallu byw gyda'u rhieni genedigol.
"Mae pob gofalwr maeth yng Nghymru yn derbyn lwfans cynnal; mae rhai, yn eu plith gofalwyr sy'n berthnasau, yn derbyn taliadau ychwanegol os yn cwrdd 芒 gofynion penodol," meddai'r llefarydd.
"Ar hyn o bryd mae awdurdodau lleol Cymru yn adolygu y lwfansau a'r taliadau ychwanegol sy'n cael eu talu i ofalwyr maeth er mwyn sicrhau fod pob gofalwr maeth yn derbyn y lefel angenrheidiol o gefnogaeth."
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni'n gwerthfawrogi yr hyn sy'n cael ei wneud gan ofalwyr sy'n berthynas neu'n ffrind ond yn credu y dylai pob gofalwr maeth gael ei drin yn deg gan dderbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ofalu am blant neu bobl ifanc.
"Fe fyddwn yn parhau i adolygu'r sefyllfa gan edrych ar y ffioedd, lwfansau a'r gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr sy'n berthnasau a gofalwyr maeth fel rhan o'r rhaglen ar gyfer ymrwymiadau'r llywodraeth.
"Fe fydd hyn yn ein helpu i gefnogi lleoliadau sefydlog ac yn galluogi y plant sydd mewn gofal i ddatblygu a blodeuo i fod yn oedolion llwyddiannus."