Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llygredd afonydd: 鈥楧efnyddiwch ein data' medd gwirfoddolwyr
Mae byddin o wirfoddolwyr yn profi ansawdd d诺r yn Afon Gwy i geisio helpu i fynd i'r afael 芒 llygredd yn yr afon.
Maen nhw am i asiantaethau ddefnyddio'r data a gasglwyd i lunio cynllun i wella ansawdd d诺r.
Dechreuodd y prosiect, sy'n cael ei gefnogi gan Brifysgol Caerdydd, ym mis Mawrth y llynedd ac mae wedi casglu dros 4,000 o samplau ar draws dalgylch Gwy hyd yn hyn.
Mae cefnogaeth Prifysgol Caerdydd wedi helpu i brofi bod y data a gasglwyd gan wirfoddolwyr yn ddilys a bod modd ei gymharu 芒 phrofion labordy a gynhelir gan asiantaethau fel Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei fod yn "archwilio sut y gallwn weithio mewn partneriaeth ag eraill i ddatblygu agwedd ehangach at dystiolaeth sy'n ein galluogi i wneud y defnydd gorau o ddata o'r fath".
Bellach mae gan Gyfeillion Afon Gwy Uchaf dros 100 o wirfoddolwyr yn profi ansawdd d诺r yn rheolaidd yn agos i'w cartrefi, ac mae dros 400 o wirfoddolwyr ar draws y chwe gr诺p gwyddoniaeth dinasyddion sy'n rhan o'r prosiect.
Llygredd 'torcalonnus'
Mae Emily Tilling, sy'n byw ger Y Clas ar Wy ym Mhowys, yn profi'r d诺r mewn dau leoliad ddwywaith yr wythnos.
Dywedodd iddi gymryd rhan ar 么l gweld digwyddiad o lygredd "torcalonnus" ym mis Gorffennaf 2020 yn Afon Llynfi, un o lednentydd Afon Gwy, sy'n llifo ar draws gwaelod ei gardd.
"Roedd yr arogl ofnadwy yma, roedd yn eich dal yng nghefn y gwddf," meddai.
"Roedd y d诺r yn byrlymu a dyna'r holl bysgod bach yn brwydro i anadlu ac yn dod i'r wyneb.
"Roedd yn erchyll, dyna'r math o beth y byddech chi'n ei weld mewn ffilm arswyd. Roeddech chi'n gwybod bod rhywbeth ofnadwy yn digwydd yn y d诺r yna.
"Roeddwn i wedi cymryd yn ganiataol ei fod yn hafan ddiogel i natur, ei fod yn ddiogel i'r plant nofio ynddo, yn ddiogel i'r c诺n."
Mae gan Ffion Bourke, sy'n wyth oed, nant ar waelod gardd ei theulu, ac mae wedi dechrau profi'r d诺r yn rheolaidd ar 么l cael ei hyfforddi gan wirfoddolwyr eraill.
"Mae'r alg芒u yma ar y cerrig sydd ddim wedi bod yno o'r blaen," meddai Ffion.
"Nid yw'n deimlad braf iawn oherwydd, rydych chi'n gwybod nad yw'n ffynhonnell naturiol... beth fydd yn digwydd i mi os byddaf yn ei lyncu?"
Sampl 'unwaith y mis'
Tom Tibbits yw cadeirydd Cyfeillion Afon Gwy Uchaf, un o rwydwaith o grwpiau gwyddoniaeth dinasyddion sy'n profi'r afon yn rheolaidd.
Mae'n dweud bod monitro ansawdd d诺r statudol gan reoleiddwyr, Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr a Chyfoeth Naturiol Cymru, wedi'i "dorri i'r asgwrn" a'i gyfyngu i "ychydig o fannau samplu unwaith y mis os ydych chi'n lwcus".
Dywedodd Mr Tibbits: "Rwy'n cael y teimlad ar ochr Lloegr i'r ffin ein bod yn cael ein cymryd o ddifrif.
"Ond mae'r berthynas gyda Chyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn arafach i ddatblygu."
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym eisoes yn archwilio potensial gwyddoniaeth dinasyddion a phartneriaethau cydweithredol ochr yn ochr 芒'n gwaith monitro ein hunain i gyfrannu at yr her gyffredin o wella ansawdd d诺r, gan gynnwys yr Afon Gwy."
Mae mwy ar y stori hon ar Wales Live ar 成人快手 iPlayer.