Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Trosglwyddo cloc enwog Aberfan i amgueddfa Sain Ffagan
- Awdur, Alun Thomas
- Swydd, Gohebydd 成人快手 Cymru
Mae un o'r gwrthrychau mwyaf arwyddocaol sy'n gysylltiedig 芒 thrychineb Aberfan wedi'i drosglwyddo i ofal Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.
Cafodd cloc ei dynnu o weddillion un o'r tai gafodd ei ddinistrio ar 21 Hydref 1966.
Roedd wedi stopio am 09:13 - yr union adeg y tarodd tomen lo y pentref.
Cafodd 144 o bobl eu lladd, gan gynnwys 116 o blant.
Dros yr hanner canrif ddiwethaf mae'r cloc wedi bod ym meddiant Mike Flynn o Gaerdydd, oedd wedi mynd i Aberfan i gynorthwyo gyda'r ymdrech achub.
Mae ei fab, sydd hefyd 芒'r enw Mike, wedi trosglwyddo'r cloc i ofal yr amgueddfa.
Dywedodd Mike Flynn ei fod yn "hapus iawn fod y cloc yn mynd i ofal Amgueddfa Cymru".
"Hoffwn i weld y cloc ac eitemau eraill tebyg yn cael eu harddangos yn barhaol yn rhywle fel Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru - mae'n amgueddfa hanes Cymru a dyna'r lleoliad gorau ar gyfer y cloc," meddai.
Ychwanegodd Sioned Williams, prif guradur hanes modern Sain Ffagan: "Ni'n freintiedig iawn i dderbyn y cloc, ac yn ddiolchgar iawn i ddechre bod y cloc wedi cael ei gynnig i'r casgliad cenedlaethol yma yn Sain Ffagan.
"Mae cyn lleied o wrthrychau wedi goroesi ac sy'n gallu dweud y stori, ond mae'n rhywbeth mor gyffredin - mae pobl yn gallu uniaethu gyda'r math yma o wrthrych."
Bydd rhywfaint o waith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar y cloc, ac fe fydd arddangosfa yn cael ei baratoi i bobl gael ei weld 16 Chwefror.
Bwriad yr amgueddfa yw cynnal arddangosfa barhaol yn adrodd hanes trychineb Aberfan.
'Ingol, emosiynol'
Dywedodd Ms Williams: "Y ffaith fod y dwylo, bysedd y cloc wedi stopio ar yr union funud tarodd y drychineb yn Aberfan - 13 munud wedi naw - mae hwnna fi'n meddwl yn rhoi rhyw arwyddoc芒d arbennig iawn i'r gwrthrych.
"Mae'n rhywbeth ingol, mae'n emosiynol, felly pan fydd pobl yn gweld e fi'n meddwl bydden nhw'n cael profiad, ac yn dod i wybod mwy ar gyfer cenedlaethau sydd ddim yn ymwybodol o'r stori."