Beth nesaf i ranbarthau rygbi Cymru?

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Disgrifiad o'r llun, Josh Turnbull, Harrison Keddie, Jonathan Davies, Rhys Webb - rhai o s锚r y rhanbarthau

Unwaith eto eleni ni fydd unrhyw d卯m rhanbarth o Gymru yn cystadlu yn rowndiau terfynol Cwpan y Pencampwyr.

Chwaraewyd cyfanswm o 11 g锚m gan y rhanbarthau yng ngemau'r gr诺p - a chollwyd bob un ohonynt.

"Mae'r sefyllfa yn un hynod siomedig ond yn anffodus ddim yn syndod," dywed Cennydd Davies, gohebydd a sylwebydd rygbi 成人快手 Cymru.

"Mae ffactorau Covid ac anghydfod De Affrica i Gaerdydd a'r Scarlets yn amlwg wedi bod yn ffactorau eleni ond dyw hyn ddim yn newydd, maen nhw wedi gorfod delio gyda hyn am bron i ddwy flynedd bellach."

Mae'n ystadegyn llwm i hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, wrth iddo groesawu rhai o'r chwaraewyr i garfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad wythnos yma.

Bydd saith t卯m o Ffrainc, pum t卯m o Loegr a phedair talaith Wyddelig yn cwblhau'r 16 olaf yng nghystadleuaeth haen uchaf Ewrop.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Disgrifiad o'r llun, Ellis Jenkins o Gaerdydd (chwith) ac Antoine Dupont o d卯m Toulouse

Caerdydd fydd yr unig d卯m o Gymru yn rowndiau terfynol Cwpan Her ar 么l disgyn i lawr o Gwpan y Pencampwyr.

Mae'r Dreigiau hefyd yn debygol o beidio symud ymlaen yn y gystadleuaeth o'r Cwpan Her.

Mae gan d卯m Dean Ryan un g锚m yn weddill, yn erbyn Caerloyw. Rhaid hawlio buddugoliaeth pwynt bonws a gobeithio y bydd Benetton a Perpignan yn gorffen eu g锚m heb unrhyw bwyntiau bonws. Felly Caerdydd fydd yr unig ranbarth fydd yn cynrychioli Cymru yn y Cwpan Her ym mis Ebrill.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Disgrifiad o'r llun, Dwayne Peel, Toby Booth, Dai Young, Dean Ryan - hyfforddwyr rhanbarthau Cymru

Nid yw t卯m o Gymru erioed wedi ennill prif wobr rygbi Ewropeaidd ers dechrau'r gystadleuaeth yn 1995.

Yr hyn sy'n peri pryder yw bod y bwlch yn ehangu rhwng timau Cymru a thimau o Loegr, Ffrainc ac Iwerddon.

Gagendor yn lledaenu, nid yn lleihau

Cafodd Caerdydd lwyddiant yn y Cwpan Her yn 2010 a 2018 ond dydy hyn ddim yn adlewyrchu'n iawn wrth ystyried bod t卯m cenedlaethol Cymru wedi ennill pedair Camp Lawn a hanner dwsin o deitlau'r Chwe Gwlad ers 2005. Dros y ddegawd diwethaf, ers tymor 2011-12, dim ond y Scarlets sydd wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Pencampwyr.

"Mae'n arfer bellach gweld ffaeleddau'r rhanbarthau yn Ewrop ac eithriadau yn unig yw eu llwyddiannau dros y ddegawd ddiwethaf ac mae'r gagendor yn lledaenu nid yn lleihau," meddai Cennydd.

"Mae'n rhaid cymryd i ystyriaeth y ddadl economaidd ond dyw ranbarthau Cymru byth yn mynd i gystadlu'n ariannol a chlybiau Ffrainc a Lloegr ag felly mae'n rhaid ceisio bod yn ddyfeisgar a chreadigol wrth sicrhau bod yr academ茂au yn ffynnu a bod digon o fuddsoddiad ar lawr gwlad.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Disgrifiad o'r llun, Cymru sydd wedi ennill dau Bencampwriaeth allan o'r tri diwethaf

"Dwi'n si诺r bod llawer wedi ymfalch茂o gyda llwyddiant y t卯m cenedlaethol dros y pymtheg mlynedd ddiwethaf a mwy, ond ar ba bris - dyw'r llwyddiant hynny ddim yn barhaol ac mae rhaid cwestiynu os yw hynny yn diflannu yna beth sydd ar 么l o dan yr arwyneb.

"Mae hyn wedi bod yn argyfwng ers sawl blwyddyn bellach ac mae gofyn i bawb - yr undeb, ranbarthau, clybiau ag eraill dynnu yn yr un cyfeiriad ac mae angen gweithredu nawr."