Ateb y Galw: Catrin Jones

Ffynhonnell y llun, Catrin Jones

Cyd-berchennog caffi Crwst, Aberteifi, Catrin Jones sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar 么l iddi gael ei henwebu gan Huw Clarke yr wythnos ddiwethaf.

Yn wreiddiol o Dresaith ond nawr yn byw yn Aberteifi, mae Catrin a'i g诺r Osian wedi bod yn brysur yn pobi a choginio yn y caffi ers bron i bum mlynedd.

Nid oedd Catrin yn gwybod beth roedd hi eisiau ei wneud ar 么l graddio o'r coleg ac fe weithiodd i'r elusen ddigartrefedd Llamau am ychydig wrth gasglu arian.

Ond wrth dyfu fyny, roedd hi'n treulio ei phenwythnosau a'i gwyliau yn gweithio yn y maes lletygarwch ac wrth ei bodd 芒'r diwydiant, ac mae hi nawr yn rhedeg un o gaffis mwyaf poblogaidd gorllewin Cymru.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Cerdded rownd y ffarm gyda Dad a mynd i weld y mochyn!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Pan enillodd Cymru yn erbyn Gwlad Belg allan yn Ffrainc yn yr Ewro 2016.

Doedd gen i ddim tocyn i'r g锚m felly roedd rhai i mi ddod o hyd i un mas yn Ffrainc - benes' i lan yn eistedd ar bwys tri dyn o Loegr!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Optimistaidd, breuddwydiwr a foodie

Ffynhonnell y llun, Catrin Jones

Disgrifiad o'r llun, Catrin ac Osian yng nghaffi Crwst

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl yn 么l?

Pan 'nathon ni gynnal ein 'Noson Nadolig' cyntaf yn Crwst gyda stondinau cynhyrchwyr lleol, band pres a lot o win!

Roedd y lle yn llawn pobl Aberteifi yn dod at eu gilydd ar gyfer y Nadolig - noson wych a bythgofiadwy! Edrych 'mla'n i gynnal un arall pan fydd y pandemig drosodd.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Pan wnaeth fy chwaer, brawd a minnau dorri bath Gran wrth geisio gwneud y tonnau mwyaf bosibl!

A wedyn torri un o'i hoff lampshades yr un noson yn chwarae o gwmpas.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Yn ddiweddar wrth feddwl am bobl sydd ddim gyda ni rhagor. Effaith y Nadolig!

O archif Ateb y Galw:

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Chwarae'r un caneuon drosodd a throsodd!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Disgrifiad o'r llun, Tresaith

Tresaith - le cefais fy magu. Mae gen i gymaint o atgofion yna.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Mae gen i gymaint o ffilmiau dwi'n joio felly mae'n anodd dewis un!

Dwi'n caru y Harry Potters i gyd. Dwi'n ffan mowr o Disney hefyd - joio Jungle Book a Princess and the Frog.

Ond dwi hefyd yn hoffi gwd phsycological thriller, rhywbeth fel The Silence of the Lambs.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Sion Corn a gofyn iddo sut mae'n ei wneud e!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n hanner Albanaidd.

Mae Mam (a hanner y teulu wrth gwrs) yn dod o Glasgow.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Bydden i naill ai yn gwisgo pyjamas a bwyta lot o siocled, caws, pasta, pizza a hufen ia gyda botel o Coca Cola (full fat) a cael film day....

NEU mynd cage diving gyda siarcod Great White - rhywbeth dwi wastod wedi eisiau gwneud.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Ffynhonnell y llun, Catrin Jones

Disgrifiad o'r llun, Cadi

Dyma Cadi, y ci gorau yn y byd!

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Rhywun o'r Sentinelese Tribe sy'n byw ar un o ynysoedd yr Andaman yng nghefnfor India. Mae nhw wedi gwrthod bob cysylltiad gyda phobl o'r tu allan. Byddai'n diddorol gweld sut mae nhw'n byw!

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Hana Medi