Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Dwi'n gwedd茂o welwn ni ddim cyfnod clo arall'
- Awdur, Bethan Lewis
- Swydd, Gohebydd Addysg a Theulu 成人快手 Cymru
Gydag ysgolion yn wynebu ansicrwydd yn sgil amrywiolyn Omicron, mae penaethiaid wedi s么n am brofiad "unig" ac "anodd" ymdopi 芒'r pandemig.
Mae 'na bryder cynyddol am beth fydd effaith cyfraddau Covid ar ysgolion wedi gwyliau'r Nadolig.
Dywedodd un pennaeth ei fod yn "gwedd茂o" na fyddai ysgolion yn gorfod cau eu drysau eto.
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi 拢24m o gymorth i ddisgyblion sy'n sefyll arholiadau a'r rhai sydd 芒 phresenoldeb isel.
'Mae dal ansicrwydd'
Dywedodd Meurig Jones, prifathro Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, mai'r tymor yma oedd efallai yr un anoddaf i'r proffesiwn wynebu.
"O'n ni'n teimlo o'n ni'n dod allan ohoni o fewn ein hysgolion - gobeithio falle oedd pethe'n dod yn well ond mae'r sefyllfa i weld yn debyg," meddai.
"A hefyd, dal yr ansicrwydd yna. Mae wedi bod yn anodd, mae wedi bod yn unig ar adegau."
Ond ychwanegodd bod rhwydweithiau penaethiaid wedi bod yn gymorth mawr.
Dywedodd bod ansicrwydd yngl欧n ag arholiadau yn bryder.
Y bwriad yw eu bod yn digwydd yn haf 2022 ar 么l cael eu canslo ddwywaith, ond mae'r tarfu parhaus i addysg gan Covid yn golygu bod y cwestiynau yn parhau.
Yn y tymor byrrach mae rhai arholiadau yn digwydd yn y flwyddyn newydd.
"Mae rhaid i ni gymryd mewn i ystyriaeth bod arholiadau'n digwydd ym mis Ionawr a ni mo'yn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol yna i'r bobl ifanc," meddai Mr Jones.
"Ydyn nhw'n mynd i ddigwydd ar yr adeg hynny, ydyn nhw'n mynd i ddigwydd yn hwyrach - ond mae'n rhaid i ni gael sicrwydd gyda beth ni'n rhoi mewn lle ar gyfer cynllunio tuag at hynny.
"Y peth pwysica' baswn i mo'yn 'neud yw tawelu meddwl y bobl ifanc."
Aros am wybodaeth bellach
Fe fydd dysgu wyneb yn wyneb i'r rhan fwyaf o ddisgyblion yng Ngheredigion, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam ac Ynys M么n yn dod i ben yr wythnos hon, a gwersi'r hyn sy'n weddill o'r tymor yn cael eu cynnal ar-lein wythnos nesaf oherwydd pryder am y feirws.
Daw'r tymor i ben mewn sawl rhan arall o Gymru ddydd Gwener.
Mae undeb athrawon NASUWT wedi annog Llywodraeth Cymru i groesawu disgyblion yn 么l i ysgolion a cholegau yn raddol ar 么l y Nadolig, yn sgil y disgwyliad y bydd lefelau Covid yn uchel.
Fe fydd penaethiaid yn disgwyl am wybodaeth bellach mewn llythyr gan y Gweinidog Addysg i ysgolion ar ddiwedd y tymor.
Dechreuodd Dafydd Hughes fel pennaeth Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd yn ystod y cyfnod clo diwethaf.
"Ry'n ni gyd yn gobeithio na fydd rhaid i ni gau ysgolion byth eto," meddai.
"Mae'n anodd mesur beth yw sgil effaith y cyfnodau clo, yr effaith mae wedi ei gael ar blant.
"Yn sicr mae 'na heriau emosiynol, heriau iechyd meddwl sy'n gysylltiedig 芒'r cyfnodau clo a hefyd fel pennaeth sy'n gweithio mewn ysgol Gymraeg, mae'r cyfnodau clo yn ddiau wedi cael effaith ar sgiliau llefaredd y plant.
"Mae 95% o'n plant ni yn Ysgol Caer Elen yn dod o gartrefi di-Gymraeg.
"Mae'r rhieni wedi bod yn arwrol yn ceisio'u cefnogi nhw yn ystod y cyfnod clo ond yn amlwg dyw e ddim yr un peth pan 'dyn nhw ddim yn clywed y Gymraeg yn naturiol bob dydd yn yr ysgol, felly dwi'n gwedd茂o welwn ni ddim cyfnod clo arall."
'Sicrhau'r un cyfle i bob dysgwr'
Wrth gyhoeddi cyllid gwerth 拢24m, dywedodd Llywodraeth Cymru mai ysgolion 芒 niferoedd uchel o blant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim fyddai'r flaenoriaeth.
Fe fydd 拢7.5m o gymorth ychwanegol i ddysgwyr sy'n wynebu arholiadau.
Ac fe fydd 拢9.5m arall ar gael i gefnogi dysgwyr mewn colegau addysg bellach a chweched dosbarth wrth iddyn nhw symud i'r cam nesaf mewn addysg neu yrfa, ynghyd 芒 拢7m i gefnogi disgyblion lle mae eu presenoldeb wedi disgyn.
Fe amlygodd ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru bod 86% o ddisgyblion yn bresennol mewn ysgolion yr wythnos ddiwethaf.
Dydy presenoldeb ddim wedi codi'n uwch na 90% ers wythnos gyntaf y tymor fis Medi.
Dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg, y byddai'r llywodraeth yn gwneud popeth i sicrhau bod pob dysgwr yn cael "yr un cyfle" ac yn gallu cyrraedd eu potensial llawn.
"Ni allwn ganiat谩u i'r pandemig rwystro'r un person ifanc," meddai.
"Bydd y cyllid newydd hwn yn sicrhau bod y dysgwyr hynny sydd wedi teimlo'r effaith fwyaf yn cael y cymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt i gymryd y cam nesaf yn eu bywydau yn hyderus."