Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhybudd yn erbyn partïon Nadolig a dau achos Omicron
Mae bwrdd iechyd wedi "argymell yn gryf" na ddylai pobl fynd i bartïon Nadolig a hynny er mwyn lleddfu "pwysau cynyddol" ar y gwasanaeth iechyd.
"Yn sgil Omicron a phwysau cynyddol mae'n rhaid i ni gymryd camau brys i ddiogelu'n hunain, ein cydweithwyr, a'n cleifion," medden nhw ar eu cyfrif Twitter.
"Rydyn ni'n argymell yn gryf i beidio â mynychu partïon Nadolig."
Yn gynharach dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y dylai pobl ddilyn y rheolau a chael brechlyn atgyfnerthu yn hytrach na newid eu cynlluniau.
Daw'r neges gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn sgil achosion o'r amrywiolyn Omicron.
Ddydd Sadwrn fe gadarnhaodd Dr Eleri Davies, Cyfarwyddwr dros dro Iechyd Cyhoeddus Cymru, bod dau achos arall o amrywiolyn Omicron yng Nghymru - y tro hwn ym myrddau iechyd Betsi Cadwaladr a Cwm Taf Morgannwg.
Mae nifer yr achosion bellach yng Nghymru yn 15 gyda thri yn ymwneud â theithio rhyngwladol.
Ychwanegodd bod disgwyl mwy o achosion o amrywiolyn Omicron yng Nghymru.
Mae ysbyty mwyaf Cymru wedi annog pobl o'r newydd i beidio â mynd i'r uned achosion brys os nad yw'n achos sy'n "bygwth bywyd na rhan o'r corff".
Ddydd Sadwrn diwethaf, roedd gan uned gofal brys Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, amseroedd aros dros naw awr o hyd.
Mae yna 13 achos o amrywiolyn Omicron yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda 10 ohonynt yng Nghaerdydd a'r Fro.
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter
Doedd dim newid i gyfyngiadau Covid Cymru pan wnaeth y Llywodraeth eu hadolygu ddydd Gwener.
Fe wnaeth y Llywodraeth annog pobl i wneud profion llif unffordd cyn mynd i siopa, mynd i bartïon Nadolig neu ymweld ag eraill.
Fe wnaethon nhw hefyd gryfhau'r cyngor ar wisgo gorchuddion wyneb, gan ddweud y dylai pobl wisgo mygydau mewn tafarndai pan nad ydynt yn yfed.
Ond dywedodd y Prif Weinidog mai'r cyngor cyn y Nadolig yw "i wneud yr holl bethau rydyn ni'n gwybod sydd yn ein helpu ni i ddiogelu ein hunain a phobl eraill o'r feirws".
'Neb yn saff nes bod pawb yn saff'
Roedd un clinig Covid ym Mlaenau Ffestiniog yn disgwyl i'w brechwyr roi pigiad i dros 1,000 o bobl ddydd Sadwrn.
Yn ôl un o'r brechwyr, Dr Llyr Hughes, mae'r ymateb wedi bod yn "anhygoel" - a hynny'n rhannol yn sgil pryderon am Omicron.
Dywedodd y fferyllydd bod pobl yn eu harddegau hyd at eu nawdegau hwyr wedi dod i gael pigiad, boed hynny'n ddos cyntaf neu ddos atgyfnerthu.
Fe ddaethon nhw o "Gonwy, Dinas Mawddwy, ac Ynys Môn - Caergybi," meddai.
Mae'r clinig yn cael ei redeg ar y cyd gan fferyllfa a meddygfa leol.
Roedd yr ymateb yn "anferthol" oherwydd pryder am Omicron, ym marn Mr Hughes, gan fod pobl yn gwybod bod y brechlynnau "yn gweithio'n dda arno".
"Dwi'n gobeithio bod hynny'n un ffactor - pobl yn ystyried bod 'na ddyletswydd i bawb fel cymdeithas gymryd rhan yn yr ymgyrch frechu yma er mwyn cadw pawb yn saff."
Ychwanegodd ei fod yn tybio fod pasys Covid hefyd yn chwarae rhan yn yr ymateb.
"I'r rhai ifanc, mae'n bwysig er mwyn i nhw gael rhyddid, felly dwi'n meddwl bod hwnna'n helpu hefyd i gynyddu'r uptake yn y bobl ifanc."
"Mae 'na ddywediad," meddai'r fferyllydd.
"Does 'na neb yn saff nes mae pawb yn saff - dwin meddwl mae'n bwysig bod ni gyd yn cymryd y cyfle i gael y brechlyn 'ma."
'Pobl ddim yn gwybod pa gyngor i ddilyn'
Mae busnes yng Nghaerdydd wedi dweud fod ambell barti Nadolig wedi cael ei ganslo yno yn barod.
"Ond mae hynny i'w ddisgwyl gyda'r holl newyddion," meddai Tomos Roberts o Canna Deli.
Fe fydd y rhybudd yn erbyn partïon tra bod cyfyngiadau'r llywodraeth heb newid yn gwneud pethau'n waeth, meddai.
"Dydy pobl ddim yn gwybod pwy i ddilyn. Ydyn nhw i fod i ddilyn y llywodraeth neu ydyn nhw'n dilyn y GIG?"
"Ac wedyn beth sy'n digwydd yw does 'na ddim cymorth ariannol i ni," meddai Mr Roberts, "a ninnau 'di gwario'r holl arian i 'neud y lle fyny yn saff".
Mae cyfnod y Nadolig fel arfer yn cynnal y busnes o fis Ionawr tan ddiwedd mis Mawrth, yn ôl Mr Roberts.
"'Dan ni'n teimlo fatha bod ni'n neidio trwy hoops o hyd, a 'dan ni'n taro'r targed ac yn dilyn y canllawiau o hyd, ond mae 'na wastad rhywbeth yn codi fyny, sydd yn neud o'n anodd ofnadwy i drio rhedeg busnes ar y funud."