成人快手

Ateb y Galw: Heulwen Beasley Park

  • Cyhoeddwyd
Heulwen Beasley ParkFfynhonnell y llun, Heulwen Beasley Park

Yr arbenigwr dysgu Heluwen Beasley Parks sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar 么l iddi gael ei henwebu gan Meggan Lloyd Prys yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd Heulwen ei geni a'i magu yn Sir Gaerfyrddin, a mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Mae'n arbenigwr dysgu a datblygu sy'n gweithio i Senedd Cymru.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Edrych ar y s锚r o fy 'stafell wely yn aros i weld sled Si么n Corn yn hedfan trwy'r awyr. Bues i'n aros yno drwy'r nos!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Bues i a fy ng诺r yn teithio o amgylch Seland Newydd a mi wnaethom ni ffeindio lle ar bwys traeth i barcio'r camperfan am y noswaith.

Aethon ni am dro ar hyd yr arfordir a sgwrsio gyda physgotwyr lleol M膩ori. Dwi'n cofio edrych mas ar y m么r o wely'r camperfan yn yfed gwin coch a bwyta cracyrs a chaws a meddwl bod bywyd yn berffaith yn yr eiliad honno. Roedd yn hollol hudolus.

Ro'n ni hefyd newydd ddywedd茂o cwpl o ddyddiau ynghynt a'n teimlo ar dop y byd!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Sensitif, optimistaidd, ystyriol.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dyffryn Tywi. Lle hardd a mae pobl Sir G芒r mor dwym a hamddenol.

Dwi wrth fy modd yn mynd n么l i'r Gorllewin i alw gyda teulu a ffrindiau. Does dim brys o gwbl a dwi'n teimlo'n heddychlon iawn yno.

Ffynhonnell y llun, Heulwen Beasley Park
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyffryn Tywi

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn 'neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl n么l?

Gwylio arth yn pysgota tra'n bwyta bwyd tu fas i Vancouver. Roedd yr arth yn caru byw! Roedd fel bod mewn ffilm Disney!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dysgwyr yn dod i fy nesg ar 么l anghofio'n llwyr fod gen i sesiwn hyfforddiant i'w ddarparu. Dyw heb ddigwydd eto ers 'ny. Ro'n i'n hollol mortified.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Dwi'n llefen yn aml. Dwi'n caru pobl a'n empathig iawn. Os mae rhywun wedi ypsetio, dwi'n cael fy effeithio a'n teimlo pob dim.

O archif Ateb y Galw:

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Gor-feddwl ac imposter syndrome. Dwi'n dysgu yn ara' deg bod ddim angen cario pwysau'r byd ar fy 'sgwyddau.

Ffynhonnell y llun, Heulwen Beasley Park

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Llyfrau Harry Potter - mae rhywbeth mor nostalgic amdanynt. Podlediadau Dewr, Gwrachod Cymru a Colli'r plot hefyd yn wych!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Mam-gu. Dwi'n gweld ei heisiau hi gymaint. A'i storis. Roedd hi hefyd yn ffan mawr o rannu potel o win coch, yn union fel fi.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n berson mewnblyg. Er mod i'n hoff iawn o bobl, dwi angen gorwedd lawr mewn stafell dywyll ar 么l treulio lot o amser yng nghwmni pobl.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Dawnsio, yfed gwin coch a rhoi cwtsh i bawb ar draeth yng Ngorllewin Cymru. A gwylio'r machlud haul.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Y diwrnod gwnes i briodi fy ffrind gorau!

Ffynhonnell y llun, Heulwen Beasley Park
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Diwrnod priodas Heulwen

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Prif Weinidog Cymru - jest am un diwrnod.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Huw Clarke

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap 成人快手 Cymru Fyw