COP26: 'Sgyrsiau adeiladol gyda gwledydd eraill'
- Cyhoeddwyd
Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod yn cael sgyrsiau "hynod adeiladol" gyda gwledydd eraill yn uwch-gynhadledd COP26 yn Glasgow - gwledydd sydd ar fin wynebu argyfwng newid hinsawdd.
Ddydd Mawrth bu arweinwyr pedair cenedl y DU yn cynnal derbyniad i'r arlywyddion a'r prif weinidogion sy'n bresennol yng nghynhadledd COP26.
Yn ddiweddarach bydd Mr Drakeford yn cyfarfod ag Arlywydd Liberia er mwyn gweld sut y gall Cymru helpu gyda'r gwaith o blannu coed yn y wlad.
Trafodaethau 'trawiadol'
"Dwi wedi bod yn cael trafodaethau adeiladol gyda phrif weinidog Tansania, er enghraifft - gwlad sydd eisoes ar fin wynebu argyfwng newid hinsawdd," meddai.
"Mae nifer o ynysoedd yn wynebu risg o gael eu boddi gan lefelau cynyddol uchel y m么r.
"Felly roedd hi'n hynod drawiadol clywed gan bobl sydd ar fin wynebu canlyniadau newid hinsawdd - nid be' ni'n gallu ei wneud erbyn 2050 yw'r cwestiwn bellach ond sut ry'n ni'n delio 芒'r heriau sydd ar fin ein hwynebu.
"Rhan o hynny yw clywed straeon pobl eraill a chlywed be ma' nhw'n ei wneud - ac yna gweld be' 'dan ni'n gallu ei wneud yng Nghymru."
Wrth groesawu cytundeb mawr cyntaf y gynhadledd, sef atal datgoedwigo dramor, fe wnaeth Mr Drakeford gyfaddef fod Cymru yn wynebu ei "her" plannu coed ei hun.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi cwrdd 芒 thargedau plannu coed ac mae creu coedwig genedlaethol i ymestyn ar hyd a lled Cymru yn un o'i phrif bolis茂au.
Mae Cymru hefyd yn cefnogi plannu coed dramor gydag un cynllun yn sicrhau bod coeden am bob plentyn sy'n cael ei eni yng Nghymru yn cael ei phlannu yn Uganda.
"Yn hwyrach heddiw byddaf yn cyfarfod ag arlywydd Liberia, a rhan o agenda Llywodraeth Cymru yw gweld a oes modd i ni gefnogi ymdrechion plannu coed yn y wlad," ychwanegodd Mr Drakeford.
Dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Sophie Howe, bod y cynlluniau ar gyfer cael Coedwig Genedlaethol i Gymru yn "galonogol" ond bod yn "rhaid sicrhau bod digon o sgiliau ar gael i gwrdd 芒'r gofyn".
Mae Ms Howe wedi galw'n gyson am Wasanaeth Natur Cenedlaethol yng Nghymru - gwasanaeth a fyddai'n cynnig cyfleon gwaith ar brosiectau cadwraeth.
Dywedodd Mr Drakeford wrth 成人快手 Cymru "nad oedd wedi gweld unrhyw gynlluniau i ni weithredu felly" ond ei fod yn cytuno 芒'r comisiynydd "o ran bod yn rhaid gweithredu nawr i sicrhau sgiliau ar gyfer y dyfodol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2020