Y Talwrn: Cerddi sy'n codi llais am newid hinsawdd

Disgrifiad o'r llun, Ceri Wyn Jones, meuryn Y Talwrn

'Y Coleg ger y lli' yw Prifysgol Aberystwyth i lawer. Ond am ba hyd? Ai 'Y Coleg dan y lli' fydd hi ymhen blynyddoedd yn sgil yr argyfwng hinsawdd?

Un sy'n cwestiynu hynny yw Ceri Wyn Jones, meuryn Y Talwrn ar 成人快手 Radio Cymru.

Mewn rhifyn arbennig o'r Talwrn, mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Aberystwyth, Ceri Wyn Jones sy'n herio t卯m o aelodau staff y brifysgol a th卯m o gyn-fyfyrwyr i ornest dalwrn am newid hinsawdd.

Y ddau d卯m sydd 芒 Phrifysgol Aberystwyth yn ffrydio trwy'u gwythiennau yw:

T卯m 'Yma o Hyd' (staff y brifysgol): Mererid Hopwood, Gwenallt Llwyd Ifan, Emyr Lewis, Eurig Salisbury, Hywel Griffiths, Elinor Gwynn.

T卯m 'Buom Unwaith' (cyn-fyfyrwyr): Myrddin ap Dafydd, Gruffudd Owen, Marged Tudur, Casia Wiliam, Arwel 'Pod' Roberts, Iestyn Tyne.

Trydargerdd: Arwyddion Tywydd

COP26

Mis Tachwedd. Y byd yn gwylio.

O bell - yn disgwyl, yn taer obeithio

Y cwyd o'r pair, o ganol y rethreg

Y golofn fwg sy'n gaddo hin deg.

Arwydd Tywydd: y gred ym Mhen Ll欧n fod colofn o fwg sy'n codi'n syth o'r simdde yn arwydd o dywydd da.

Elinor Gwynn, Yma o Hyd

Disgrifiad o'r llun, Elinor Gwynn

Cywydd ysgafn (heb fod dros 18 llinell): Argyfwng

Argyfwng y diffyg Wylys

Yn ddiweddar mi ddioddefais greisus hunaniaeth dybryd pan fethais yn i'n l芒n a chanfod yr un Wylys (Aubergine) yn holl archfarchnadoedd Caerdydd.

Wylys, Wylys, fe wylwn

ddagrau prudd oherwydd hwn.

Yn sein o'r oes anwar hon

gwgais ar shilffoedd gweigion.

'Fy majic! Fy imoji

awgrymog godidog i.'

'Fy Mamoth piws, fy maeth per;

Ti, mor handi, yw mhrinder.'

Er taer chwennych, trychineb

oedd Tescos a Waitroes heb

un Wylys i'w anwlo.

Yna'n stond, cwestiynais, do;

'Yw f'aubergine lythineb

yn iach? Oni fywiwn heb

gyson fewnforio'n farus?

Ai lled fy mhlaned yw mlys

sinigaidd?'...ond ces neges...

....mae'n iawn.... mae rhai'n M&S.

Gruffudd Owen, Buom Unwaith

Disgrifiad o'r llun, Gruffudd Owen

Englyn: 脭l troed neu Olion Traed

Olion Traed

Faint gwell yw'n safiad bellach? - Ai dim ond

siarad mawr yw mwyach,

os mynnwn ni wneud smonach

芒'n biliynau bodiau bach?

Emyr Lewis, Yma o Hyd

Ffynhonnell y llun, Emyr Lewis

Disgrifiad o'r llun, Emyr Lewis

Cerdd rydd (heb fod dros 18 llinell) yn ymwneud 芒 ffilmio

顿谤么苍

Biti na all ei grafangau grafu'r saim o'r strydoedd,

datgysylltu'r gwifrau trydan,

sgubo'r simneiau i fag bin du,

taflu fflatiau Doc Fictoria i'r sgip,

dystio'r jet skis o'r Fenai,

amsugno mwg egs么sts y ffordd osgoi

a chodi caeadau Costa o sgyrtin y palmant.

Am eiliad mae'n denig i gwmwl

ac yna, dacw fi

wedi glynu fel gwm cnoi

rhwng yr hot tub a'r patio.

Marged Tudur, Buom Unwaith

Disgrifiad o'r llun, Marged Tudur