Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Angen i'r cymoedd glofaol fod yn wyrdd er mwyn y plant'
- Awdur, Garry Owen
- Swydd, Gohebydd Arbennig 成人快手 Radio Cymru
Mae'n ddyletswydd creu dyfodol gwyrddach yng nghymoedd glofaol y de er mwyn y blaned a'n plant, yn 么l cyn-l枚wr o Ddyffryn Aman.
Mae llosgi glo wedi bod yn gyfrifol am bron i hanner yr holl garbon deuocsid sy'n cael ei ryddhau'r i'r atmosffer ac yn ystod ail ran y Chwyldro Diwydiannol, glo oedd prif ddiwydiant Cymru.
Roedd swm anhygoel o lo yn cael ei allforio ar draws y byd a newidiodd sawl cwm o fod yn dir ffermio i fod yn ardal drefol mewn amser byr.
Mae Cymru yn cynhyrchu un rhan o bump o allyriadau diwydiannol Prydain.
'Y blaned ddim yna i'n plant'
"Fi'n credu bo fi yn wahanol i lot o bobl weithiodd yn y diwydiant glo," meddai Terry Pugh, sy'n gyn-l枚wr a bellach yn wirfoddolwr gyda menter ynni adnewyddol Awel Aman Tawe.
"Bydde llawer yn fwy na hapus i weld y diwydiant yn dod n么l i'r cwm, achos dyw y sefyllfa o ran swyddi a gwaith ddim 'di bod yr un peth ers cau y gweithie.
"Serch hynny, fi'n teimlo bod rhaid i ni droi at y dyfodol a 'neud pethe llawer mwy gwyrdd er mwyn lles y blaned. Fi newydd archebu car trydan - ma' hwnna i fod i ddod yn Rhagfyr!
"'Weden i bod cyfrifoldeb ar ardaloedd lle ma' diwydiannau brwnt wedi bod yn y gorffennol i helpu i droi'r ardaloedd hyn yn fwy gwyrdd nawr."
"Mae rhaid i ni siapo lan a dishgwl mla'n at y dyfodol. Mae'n bwysig i fi ac i ni gyd achos ry'n ni gyd yn byw ar yr un blaned ac os ydyn ni yn 'neud y drwg hyn i'r blaned bydd e ddim yma i'n plant ni.
"Ma' rhaid i ni ddechre meddwl amdano fe a meddwl amdano fe yn gyson," ychwanegodd.
Yn 么l Cyfeillion y Ddaear Cymru mae cynlluniau diwydiannau trwm Cymru wedi bod "ddegawdau yn rhy hwyr" i atal cynhesu byd-eang trychinebus.
Mewn cynhadledd ym Milan ddechrau mis Hydref dywedodd yr ymgyrchydd amgylcheddol Greta Thunberg fod yr argyfwng hinsawdd "wedi dechrau fwy neu lai yn y DU pan ddechreuodd y chwyldro diwydiannol".
"Fe ddechreuon ni losgi glo ar raddfa eang bryd hynny," meddai, "ac felly wrth gwrs mae gan y DU gyfrifoldeb hanesyddol enfawr."
'Peidio teimlo'n euog am y gorffennol'
Dywedodd Dan McCallum, Rheolwr Awel Aman Tawe: "Mae troi ardal ddiwydiannol yn ardal werdd yn eitha' hawdd.
"Ry'n ni wedi codi tyrbeini gwynt cymunedol a lot o baneli solar cymunedol, er enghraifft, ar glwb rygbi Cwmgors a chlwb golff Garnant sydd ar safle hen waith glo brig."
"Rwy'n teimlo fod y newid yn OK. Mae rhai ddim yn lico fe ond rwy yn credu mai dyma y dyfodol a bydd lot o blant ysgol yn lico y newid yma.
"Ry'n ni yn trio cadw yr arian yn yr ardal, achos roedd lot o arian y gweithiau glo wedi mynd mas o'r ardal.
"Ni moyn neud y dyfodol yn well, ac yn lanach. Mae cyfrifoldeb ar bawb i 'neud r'wbeth - dim ots am deimlo yn euog am yr hanes, jyst gneud r'wbeth mwy gl芒n i'r dyfodol."
Cofio am ddyddiau llewyrchus y diwydiant glo mae Dr John Dorian Evans sy'n hanesydd ac yn gyn-l枚wr.
Mae'n dweud ei bod hi'n bwysig cael ynni o amrywiol ffynonellau.
"Roedd jyst 芒 bod pob t欧 芒 cholier ynddo fe ac roedd y coliers yn gweithio gwahaniaeth shifts.
"Ddiwedd y 50au a dechre' y 60au fe aeth y diwydiant glo lawr 'chydig bach a wedyn pigo lan yn y 70au adeg yr argyfwng olew."
Ychwanegodd: "Mae cofeb gyda ni fan hyn yn Y Betws yn cofio yr ymdrech wnaeth dynion a menywod wrth gynhyrchu glo - pawb yn gweithio'n galed... Yr ymdrech oedd yn mynd i mewn i gynhyrchu glo - 'sneb yn gw'bod.
"Ma' problem gyda ni ym Mhrydain Fawr nawr - ma pris nwy wedi codi yn sylweddol.
"I fi, wrth edrych i'r dyfodol, ma ishe cymysgedd o ynni... glo, ynni niwclear, ynni gwynt ac ynni haul.
"Os byddwn ni yn dibynnu ar ynni gwyrdd yn unig, rwy'n credu yn y dyfodol rhywbryd y byddwn ni yn rhedeg mas o ynni."