Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ateb y Galw: Y delynores Cerys Hafana
Y delynores Cerys Hafana sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar 么l iddi gael ei henwebu gan Sam Petersen yr wythnos diwethaf.
Cerddor o Fachynlleth, sydd bellach yn astudio ym mhrifysgol Goldsmiths yn Llundain yw Cerys Hafana. Mae hi'n chwarae amrywiadau cyfoes o hen alawon a chaneuon Cymreig, ynghyd 芒 chyfansoddiadau gwreiddiol ar y delyn deires a'r piano. Mae hi hefyd yn aelod o Avanc (Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru). Rhyddhaodd ei halbwm cyntaf unigol, Cwmwl, yn 2020.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Pan o'n i tua 2 mlwydd oed, dwi'n cofio mynd i ryw barc ym Manceinion lle oedden nhw'n cadw ambell anifail fferm.
Ma' rhaid mod i wedi rhoi fy mys bach yn rhy agos at ryw 诺ydd, achos i gyd dwi'n cofio o'r diwrnod yma yw cael fy nghnoi gan y g诺ydd yma. O'n i hefyd yn gwisgo c么t binc fflyffi anhygoel ar y pryd, felly 'swn i'n deud bod y profiad yma wedi bod yn formative yn nhermau ffasiwn yn ogystal 芒 fy ofn o wyddau.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Dwi'n caru mynd i Fethesda.
Ma' 'na rywbeth am y tirwedd a'r naws eitha tywyll sy'n siwtio fi dwi'n meddwl.
Ma' 'na hefyd gapel yn Eglwysfach (rhwng Machynlleth ac Aberystwyth) o'r enw Capel y Graig, sydd yn cael ei defnyddio fel rhyw fath o ofod celf/perfformiad.
Ma'r sain yn y capel yn anhygoel, ac ma' 'na rywbeth am yr adeilad sy'n neud i fi deimlo'n fwy heddychlon nag ydw i fel arfer. 'Swn i'n gallu treulio fy mywyd i gyd yn chwarae'r harmoniwm bach toredig yna, dwi'n meddwl.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn 'neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl n么l?
Es i i agoriad arddangosfa artist gweddol enwog cwpwl o flynyddoedd yn 么l.
Treuliais i a fy mam rhan fwyaf o'r noson yn chwerthin ar bobl yn trio cyflwyno'u hunain i'r artist yma, a chael eu hanwybyddu achos oedd o lot rhy bwysig a phrysur i siarad efo neb.
Ar 么l cwpwl o oriau oedden ni 'di dechrau diflasu, felly aethom i aros yn y bar cyn dal ein tr锚n adre. Rhywsut, o'dd yr artist yma wedi llwyddo dianc o'i ffans i gyd, a cherddodd i mewn i'r bar a dod yn syth draw i siarad efo ni.
Nath o gam-glywed fy enw, a meddwl mai "Kevin" o'n i. O'dd o'n bod yn rhyfeddol o gyfeillgar a chatty, efo fi yn enwedig, ond dwi erioed wedi gweld rhywun yn 'neud emergency getaway mor gyflym 芒 fo pan sylweddolodd mai "Cerys" o'n i ac nid "Kevin."
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
O'n i'n chwarae Frau Schmidt yn y cynhyrchiad ysgol gynradd o The Sound of Music, ac achos dim ond un olygfa oedd gennai roedd rhaid i mi 'neud y newidiadau llwyfan hefyd.
O'dd hi'n rili dywyll ar lwyfan, ac ar 么l un o'r newidiadau nes i gamu i ffwrdd o'r llwyfan yn y lle anghywir ac yn lle mynd lawr y grisiau cwympais oddi ar y llwyfan a glanio ar ben Captain von Trapp.
O archif Ateb y Galw:
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Yn yr eiliad yma: blinedig, dryslyd, hwyr.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Es i ymarfer y ffidil yn ddiweddar, ac o'dd o'n swnio mor erchyll nes i grio.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi'n colli pob dim, yn hwyr i bopeth, a wastad yn y lle anghywir ar yr amser anghywir. Dwi hefyd yn siarad gormod o Wenglish.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Dwi ddim yn tueddu o fwynhau nosweithiau allan fel rheol, ond es i i Focus Wales dros y penwythnos ac roedd fersiwn Band Pres Llareggub o Creep gan Radiohead am 2 yn y bore gyda ffrindiau o'n i heb weld ers dwy flynedd yn lot o hwyl.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Dwi'n tueddu i anghofio popeth dwi erioed wedi darllen/gwylio yn syth ar 么l darllen/gwylio fo.
Ond y llyfr 'nath gael y mwyaf o effaith arna i oedd The Shipping News. Methu cofio pam, achos o'n i tua 12 yn darllen hi, ond dwi'n meddwl oedd na rywbeth am ffordd Annie Proulx o sgwennu oedd wedi ysbrydoli fi'n fawr.
Dwi hefyd yn ffan fawr o'r llyfrau The Confessions of Georgia Nicolso, gan Louise Rennison.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Nes i ffindio'r cerdyn post yma mewn rhyw siop vintage cwpwl o flynyddoedd yn 么l, ac roedd 'na rywbeth amdano fo 'nath sefyll allan i fi.
Ma'r person yn y llun yn edrych mor c诺l, ond hefyd mor amwys o ran rhywedd ac oedran.
Nes i wedyn ffindio allan mae llun o Jascha Spiwakowsky ydy hwn. Pianyddion clasurol gorau'r ugeinfed ganrif ('swn i'n argymell mynd i ddarllen ei dudalen Wikipedia hefyd - r锚l page turner).
Ond dwi'n dewis credu bod y person yn y llun yn rhyw fod goruwchddynol efo casgliad gwych o gotiau sydd wastad yn gwylio drosta i.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Swn i isio cael sgwrs efo Wilma (), er mwyn trafod ei defnydd arloesol o'r delyn deires.
Byswn i wrth fy modd yn gwneud rhaglen lle dwi'n mynd o gwmpas Cymru (a falle'r byd) yn trio darganfod y Wilma go iawn (脿 la Searching for Sugarman).
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
O'n i'n cysidro deud Iolo Morgannwg ar gyfer y cwestiwn "gyda pwy fyddet ti'n cael diod", felly 'na'i ddeud o yn fan hyn yn lle (os ydy Cymru Fyw yn caniatau tamed bach o time travel)!
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
O'n i'n arfer siarad efo acen Manceinion rili cryf, a rhyw ddydd dwi'n bwriadu mynd i fyw ym Manceinion eto er mwyn cael hi n么l.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
'Swn i si诺r o fod yn creu rhestr o'r holl bethau dylswn i neud, a wedyn procrastinatio trwy'r dydd.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Meinir Olwen