Cymru'n creu bron 20% o holl allyriadau carbon y DU
- Cyhoeddwyd
Gall Cymru wynebu her fwy na gwledydd eraill y DU wrth geisio dorri nwyon t欧 gwydr oherwydd ei bod yn cynhyrchu un rhan o bump o allyriadau diwydiannol Prydain.
Mae miloedd o swyddi Cymru yn dibynnu ar ddau o'r cwmn茂au sy'n allyrru fwyaf - gwaith dur Tata ym Mhort Talbot, a gorsaf b诺er nwy RWE yn Sir Benfro.
Dywedodd un dyn busnes fod yr economi leol yn dibynnu gormod ar gwmn茂au sy'n allyrru swm "ysgytiol" o garbon.
Mae'r mwyafrif yn addo cyrraedd targed sero-net erbyn 2050.
Mae RWE wedi ymrwymo i wneud ei safle yn Sir Benfro yn garbon niwtral erbyn 2040, gan ddisodli llosgi nwy naturiol ag ynni gwynt, a chynlluniau i storio ynni pan nad oes gwynt - gan ddefnyddio batris, a hydrogen.
Ond dywedodd Cyfeillion y Ddaear Cymru fod yr argyfwng hinsawdd yn golygu bod cynlluniau diwydiannau trwm Cymru "ddegawdau yn rhy hwyr" i atal cynhesu byd-eang trychinebus.
Mae dadansoddiad gan 成人快手 Cymru o ddata allyriadau swyddogol o 2019 yn dangos bod diwydiannau mawr Cymru wedi pwmpio cyfwerth 芒 mwy na 23.5m tunnell o nwyon cynhesu byd-eang. Daeth 93% ohonynt o ddim ond 25 safle.
Mae hynny'n "newyddion da," yn 么l yr Athro Calvin Jones, economegydd ym Mhrifysgol Caerdydd, oherwydd gall Cymru wneud gwahaniaeth mawr trwy dorri allyriadau o nifer fach o ddiwydiannau.
Ond mae economi Cymru yn fwy dibynnol ar ddiwydiannau carbon-ddwys na gwledydd eraill Prydain.
Dim ond 4.73% o boblogaeth y DU sydd yn byw yng Nghymru, ond mae'r wlad yn cynhyrchu 18.8% o holl allyriadau carbon y DU o ddiwydiannau mawr.
Dywedodd yr Athro Jones y bydd angen "dewrder gwirioneddol" ar wleidyddion Cymru wrth dderbyn na fydd pob diwydiant yn goroesi'r newidiadau sydd i ddod.
"Fel bachgen yn ei arddegau yn y cymoedd roeddem yn hollol glir ei bod yn ddiamheuol y gallai'r pyllau glo gau," meddai'r Athro Jones.
"Mae'r anallu i gael Plan B wedi'i ysgrifennu'n fawr ar draws siopau cae毛dig Maerdy, a'r hyn nad ydw i ei eisiau yw i'r un peth ddigwydd yn Neyland, neu Port Talbot, neu Frychdyn."
Dywedodd Adam Pollard-Powell y byddai ei gwmni atgyweirio cyfrifiaduron yn Neyland yn ei chael hi'n anodd pe bai'r swyddi o'r orsaf b诺er leol, y burfa a'r derfynfa nwy naturiol yn mynd.
Ond mae hefyd yn poeni am newid hinsawdd.
Mae Mr Pollard-Powell yn chwiliwr madarch gwyllt sy'n dweud bod yr hinsawdd sy'n cynhesu yn gwneud i'w hoff rywogaeth ymddangos ar wahanol adegau, neu ddim o gwbl.
Dywedodd ei fod yn synnu o wybod bod gan Sir Benfro, ardal sy'n fwyaf adnabyddus am ei thraethau a'i llwybrau cerdded, un o'r clystyrau mwyaf carbon-ddwys yn y DU.
Mae gorsaf b诺er nwy RWE yn Noc Penfro, purfa olew gyfagos Valero, a therfynfa LNG South Hook yn Aberdaugleddau yn cynhyrchu cyfanswm o 7.9m tunnell o nwyon cynhesu byd-eang yn flynyddol, traean o'r holl allyriadau carbon o ddiwydiannau mawr yng Nghymru.
Pwmpiodd yr orsaf b诺er yn Noc Penfro, sy'n allyrru fwy nag unrhyw safle yn y DU, fwy na 4.7m tunnell o nwyon cynhesu byd-eang yn 2019.
Dywedodd y gweithredwr, RWE, ei fod hefyd yn un o'r peiriannau p诺er nwy mwyaf effeithlon yn Ewrop ac mai dyma'r "opsiwn gorau" os yw'r DU yn cael ei gorfodi i losgi tanwydd ffosil i gadw'r goleuadau ymlaen.
Ond dywedodd rheolwr y ffatri, Richard Little, bod y safle yn cau bob blwyddyn am gyfnodau hirach wrth i fwy o b诺er gwynt gysylltu 芒'r rhwydwaith.
Dywedodd fod yr un duedd wedi digwydd hyd at gau gorsaf b诺er glo RWE yn Aberddawan ym Mro Morgannwg yn 2019.
Dyna oedd y toriad unigol mwyaf yn allyriadau diwydiannol Cymru mewn sawl blwyddyn, gan gael gwared ar bron i filiwn o dunelli o nwyon cynhesu byd-eang.
Ond o ganlyniad fe gollwyd 170 o swyddi.
Yn Sir Benfro mae gan RWE "uchelgeisiau enfawr" i fod yn rhan o ymdrech y DU i adeiladu 40 gigawat o gapasiti gwynt y m么r fel y bo'r angen, gyda chynlluniau ar gyfer miloedd o dyrbinau ym M么r Iwerddon.
Bydd peth o'r p诺er yn mynd yn uniongyrchol i grid p诺er y DU.
Ond mae RWE hefyd yn edrych ar ymarferoldeb storio batri i gwmpasu cyfnodau pan nad yw'r gwynt yn chwythu.
'Angen gweithredu'n gyflymach'
Dywedodd Cyfeillion y Ddaear Cymru fod angen i ddiwydiannau Cymru symud yn gyflymach.
Galwodd Bleddyn Lake o'r elusen ar ddiwydiannau trwm i gyd-fynd 芒 nod y sector cyhoeddus i fod yn sero-net erbyn 2030.
"Mae angen iddyn nhw wella'u g锚m," meddai Mr Lake. "Mae gwyddoniaeth yn dweud wrthym fod gwir angen i ni weithredu'n bendant erbyn 2030, felly mae'r cyfnodau o amser y maen nhw'n edrych arnyn nhw yn rhy bell i'r dyfodol."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio'n 'uniongyrchol' gyda rhan-ddeiliaid i gyrraedd eu targedau allyriadau.
Mewn datganiad, dywedon nhw: "Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd ac roeddem ymhlith y cyntaf i ymgorffori ein targed allyriadau carbon sero-net 2050 yn y gyfraith.
"Bydd cyrraedd sero net yn golygu bod angen i lywodraethau, busnesau a phobl ddod at ei gilydd ledled y DU - a'r byd ehangach - i newid y ffordd rydyn ni'n byw ein bywydau.
"Efallai y bydd angen targedau sero net gwahanol ar wahanol sefydliadau, ac rydym yn gweithio gyda rhan-ddeiliaid i fapio llwybrau, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol tuag at sero net."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi 2021
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2021