成人快手

Ateb y Galw: Y cerddor Sam Petersen

  • Cyhoeddwyd
Sam PetersenFfynhonnell y llun, Sam Petersen

Y cerddor gwerin Sam Petersen sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar 么l iddo gael ei enwebu gan Shelley Musker Turner yr wythnos diwethaf.

Mae Sam yn gerddor o Sir Benfro sy'n chwarae'r pibau a'r ffliwt.

Nawr wedi ei leoli yng Nghaerdydd gallwch ddod o hyd i Sam yn chwarae mewn sesiynau amrywiol o amgylch y brifddinas ac unrhyw le gwyntog 芒 golygfeydd braf. Mae'n chwarae gyda'r band gwerin Avanc, prosiect sydd yn dod 芒 cherddorion ifanc Cymru gyda'i gilydd i chware hen gerddoriaeth mewn ffordd newydd.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Bwyta croissant a jam mewn gwesty yn Llydaw pan yn tua dwy neu dair mlwydd oed. Rydw i'n cofio'r bwyd a charedigrwydd y bobl leol yn glir. Wnes i dreulio'r haf yn Llydaw yn aml fel plentyn ac mae o wedi dylanwadu llawer ar fy ngherddoriaeth.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Bae'r Tri Chlogwyn. Roeddwn i'n ddigon lwcus fod teulu Dad yn berchen ar fwthyn bach wrth ymyl y traeth. Lle perffaith i dreulio penwythnos naill ai'n eistedd wrth y t芒n yn gwylio storm trwy'r ffenest neu allan yn nofio yn y m么r tawel gan wylio'r llongau yn mynd tua Bryste.

Ffynhonnell y llun, Sam Petersen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bae'r Tri Chlogwyn

Dysgais i syrffio yn Sir Benfro ond mae Bae'r Tri Chlogwyn yn lle tawelach gyda chriw croesawgar yn y d诺r pob tro mae'r tonnau yn dod. Mae'n draeth lle mae angen i'r amodau fod yn berffaith i syrffio felly pryd wyt ti'n cael diwrnod da mae o'n brofiad anhygoel.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn 'neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl n么l?

Genedigaeth fy mrawd bach. Pan es i i'r ysbyty roedd fy rhieni wedi prynu transformer mawr i mi i geisio stopio unrhyw genfigen!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Ddim byd gwaeth 'na mynd i'r ysgol yn eich gwisg ysgol ar ddiwrnod dillad eich hun.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Ymlaciol, swnllyd, gonest.

Ffynhonnell y llun, Sam Petersen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ar ben mynydd yn Sir Benfro

O archif Ateb y Galw:

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Bu farw hen gi'r teulu yn ddiweddar.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Cymryd drosodd sgwrs a ddim gwrando ar eraill digon.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Pob noson yn chwarae yng ng诺yl ryng-geltaidd Lorient yn 2019. Y cynulleidfaoedd fwyaf egn茂ol a g诺yl llawn cerddorion gwych o wledydd Celtaidd.

Ffynhonnell y llun, Sam Petersen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llwyfan Lorient

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Rydw i wedi cael llawer mwy o amser i wrando ar bodlediadau ers dechrau'r cyfnod clo. Fy ffefryn ar hyn o bryd yw Fire Draw Near gan Ian Lynch. Mae o'n trafod hanes caneuon werin a sut rydan nhw'n newid a theithio'r byd. Gwych i unrhyw nerd sy'n hoffi hanes a cherddoriaeth.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Anthony Bourdain. Bwyd da, digon o win a pherson diddorol.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Roeddwn i arfer gyrru'r tractor yn Sain Ffagan.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mynd i'r lleuad.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Llun wedi'i baentio gan fy nhad cu, David Petersen, ges i'r llun wrtho ar fy mhen-blwydd yn 18. Mae o wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr i mi ac mae'n neis cael darn o'i waith ar y wal yn y t欧.

Ffynhonnell y llun, Sam Petersen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llun David Petersen

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Bez o'r Happy Mondays, fase fo'n ddiddorol gweld be' sy'n mynd ymlaen yn ei ben...

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Cerys Hafana

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap 成人快手 Cymru Fyw