Dim peiriannau os么n i ysgolion yn sgil pryderon

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd 33,000 o fesuryddion carbon deuocsid yn cael eu dosbarthu yng Nghymru yr wythnos hon

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio bwrw ymlaen 芒'r cynlluniau i brynu peiriannau os么n i ddiheintio ystafelloedd dosbarth.

Mae adolygiad wedi canfod bod y peiriannau yn gallu bod yn niweidiol iawn i blant.

Bydd y 拢3.31m a glustnodwyd ar gyfer y dechnoleg nawr yn cael ei wario ar 30,000 o fesuryddion carbon deuocsid a fydd yn cael eu dosbarthu i ysgolion a cholegau yr wythnos hon.

Dywed Plaid Cymru eu bod yn croesawu'r penderfyniad.

Yn wreiddiol roedd gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddent yn gwario 拢3.31m ar 1,800 o beiriannau os么n a oedd yn cael eu datblygu gan Brifysgol Abertawe.

Ar y pryd roedd Prifysgol Abertawe wedi amddiffyn diogelwch y peiriannau.

Disgrifiad o'r fideo, Dywedodd Dr Eilir Hughes fod y peiriannau yn "medru bod yn niweidiol i bobl, i iechyd pobl a hefyd i'r amgylchedd"

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod adolygiad y Gr诺p Cynghori Technegol yn nodi nad yw'r peiriannau os么n yn addas ar gyfer sefydliadau addysgol.

Mae'r adolygiad yn rhybuddio bod y nwy os么n sy'n gallu cael ei ddefnyddio fel diheintydd "yn hynod o niwediol" a bod plant sydd 芒 chyflyrau anadlol yn arbennig o sensitif iddo. Nodir hefyd bod y nwy yn gallu adweithio ag amrywiaeth o gyfansoddion y tu mewn i gynhyrchu sylweddau niweidiol eraill.

Mae'r adroddiad yn dod i gasgliad bod gwerth adeiladol peiriannau o'r fath yn gyfyngedig ac y byddai angen llawer o adnoddau "er mwyn sicrhau eu diogelwch".

Dywedodd Sian Gwenllian, llefarydd addysg Plaid Cymru, bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb i'r "pryderon cynyddol sydd gan rieni, plant ac athrawon am achosion o Covid mewn ysgolion a bod rhaid sicrhau bod y system Profi, Olrhain a Diogelu yn gweithio'n iawn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae mwy o bwyslais ar awyru ystafelloedd bellach

Dywed y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, y bydd peiriannau monitro carbon deuocsid yn cyrraedd ystafelloedd dosbarth, coleg a neuaddau darlithio erbyn canol mis Tachwedd.

Bydd y peiriannau yn hysbysu athrawon a darlithwyr pan mae lefel CO2 yn uchel ac felly yn arwydd bod angen mwy o awyru mewn ystafell.

"Bydd y gwariant ar well awyru a pheiriannau mesur carbon deuocsid yn cadw cyfraddau trosglwyddo'r haint yn isel," ychwanegodd Mr Miles.

'Mesurau presennol ddim yn ddigonol'

Dywedodd Laura Doel, cyfarwyddwr NAHT Cymru, ei bod yn falch bod "arian ychwanegol ar gael i ysgolion" ond "nad yw'r mesurau presennol yn ddigonol i gefnogi ysgolion".

"Mae mor bwysig nad ysgolion fydd yn talu'r bil am atygweirio problemau awyru," ychwanegodd.

Ychwanegodd David Evans, ysgrifennydd undeb NEU Cymru ei fod yn croesawu'r buddsoddiad a bod "sicrhau bod canolfannau addysgu yn aros ar agor dros y gaeaf yn holl bwysig".

Dywedodd Laura Anne Jones AS, llefarydd y Ceidwadwyr ar addysg: "Ry'n yn gwerthfawrogi y tro pedol diweddaraf gan weinidogion Llafur ac mae'n hynod bwysig ein bod yn cadw plant yn ddiogel gan osgoi amharu ar eu haddysg.

"Mae awyru yn hanfodol yn y frwydr yn erbyn coronafeirws - ond mae'r arian yma ond ar gael gan bod Llafur wedi penderfynu cael gwared 芒'u cynlluniau peiriannau os么n a oedd yn cynnwys chwistrellu cemegolion gwenwynig mewn ystafelloedd dosbarth."

'Dim llawer o dystiolaeth'

Un arall sydd wedi croesawu'r penderfyniad i gefnu ar y peiriannau ydy'r meddyg teulu o Nefyn, Dr Eilir Hughes, ddywedodd eu bod yn "medru bod yn niweidiol i bobl, i iechyd pobl a hefyd i'r amgylchedd".

"Doedd yna ddim llawer o dystiolaeth a rheswm da, digonol, y basa defnydd o arian prin fel hyn gan y llywodraeth yn medru gwneud fawr o wahaniaeth i lefel neu gyfradd rhannu yr haint yma," meddai wrth raglen Dros Frecwast.

"Mi fyddai'n well i ni ddefnyddio'r arian yna i sicrhau bod gwell awyru yn digwydd yn yr ysgolion."