Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Mwy o achosion 'difrifol' o hunan niweidio ar wardiau iechyd meddwl
- Awdur, Dafydd Evans
- Swydd, Gohebydd 成人快手 Cymru
Roedd 'na gynnydd yn nifer y digwyddiadau difrifol lle cafodd cleifion niwed yn deillio o rwymyn neu gwlwm yn unedau iechyd meddwl y gogledd yn y blynyddoedd cyn i ddau glaf farw yno, yn 么l ffigyrau sydd wedi dod i law 成人快手 Cymru.
Mae dau glaf wedi marw o grogi ers i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gael ei dynnu allan o fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru fis Tachwedd y llynedd.
Mae Cais Rhyddid Gwybodaeth gan Newyddion S4C yn dangos bod nifer y "digwyddiadau difrifol" ble cafodd cleifion niwed "o ganlyniad i neu'n defnyddio" rhwymyn neu gwlwm wedi codi dros y tair blynedd diwethaf.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dweud eu bod wedi gwario dros 拢8m mewn pum mlynedd yn cael gwared 芒 pheryglon crogi.
11 achos yn 2020
Yn 2018, cafodd llai na phum achos difrifol eu cofnodi yn holl unedau iechyd meddwl y rhanbarth. Fe gododd y ffigwr hwnnw i naw yn 2019 ac i 11 yn 2020.
Cofnododd cwest a agorodd ym mis Rhagfyr 2020 fod claf wedi marw ar 么l cael ei ddarganfod "芒 rhwymyn o amgylch ei wddf" yn uned Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.
Mae staff wedi eu symud o'u swyddi ac mae ymchwiliad yn digwydd ar 么l i glaf arall lwyddo i "grogi ei hun" ar uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd ym mis Ebrill 2021.
Mae'r pwnc wedi ei godi mewn sawl ymchwiliad ac adroddiad.
Yn 2013, adroddodd Uned Cefnogaeth a Gweithredu Llywodraeth Cymru bod peryglon crogi "dal yn risg i gleifion a heb ei ddatrys yn llawn".
Yn 2018, cofnododd adolygiad gan Donna Ockenden "bod nifer o broblemau yn ymwneud ag ystadau nad ydynt wedi eu datrys yn cynnwys peryglon crogi oedd yn bryder gafodd eu codi mewn sawl archwiliad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru dros gyfnod o flynyddoedd".
Mewn ymateb i'r ffigyrau sydd wedi eu hamlygu gan 成人快手 Cymru, dywed Teresa Owen, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Ers 2016, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, rydym wedi gwario 拢8m yn cael gwared 芒 pheryglon crogi o'n hunedau iechyd meddwl preswyl.
"Mae hyn wedi lleihau'r cyfleoedd ar gyfer digwyddiadau hunan niweidio yn cynnwys pwyntiau sy'n uwch na'r pen."
"Ynghyd 芒 byrddau iechyd eraill yng Nghymru, rydym yn dilyn canllawiau cenedlaethol i adolygu, lleihau a rheoli risg peryglon crogi.
"Mae rheoli niwed i gleifion preswyl yn gymhleth ac mae'n her sy'n wynebu cyrff iechyd ar draws Prydain.
"Rydym yn parhau i addasu i ganllawiau cenedlaethol ac yn ceisio darparu amgylchedd therapiwtig wedi ei ddodrefnu'n briodol i gleifion sy'n lleihau'r cyfleoedd i hunan niweidio."
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn parhau o dan fesurau "ymyrraeth wedi ei dargedu" gan Lywodraeth Cymru ac mae hynny'n cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl.