Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ymgyrch i gyfieithu llyfrau awduron du i'r Gymraeg
- Awdur, Megan Davies
- Swydd, Newyddion 成人快手 Cymru
Mae awdur o Gaerdydd wedi lansio ymgyrch i greu cronfa ar gyfer ariannu cyfieithiadau Cymraeg o lyfrau i blant gan awduron du.
Gobaith Jessica Dunrod, awdur y llyfr Dy Wallt Yw Dy Goron, yw codi 拢3,500 er mwyn cyfieithu 10 o lyfrau gan awduron du i'r Gymraeg.
Y nod, meddai, yw "sicrhau'r amrywiaeth fwyaf i ni ei gweld erioed o fewn llenyddiaeth Cymru".
"Wrth i ni aros i awduron du a lleisiau ymylol eraill ddod i'r amlwg a dechrau gwerthu eu llyfrau ar y farchnad Gymreig, meddyliais mai'r ateb yn y tymor byr yw cyfieithu [gwaith] awduron du a BAME rhyfeddol i'r Gymraeg a sefydlu eu llyfrau fel llenyddiaeth Gymreig," meddai Ms Dunrod.
"Mae'r ysgolion daer angen adnoddau cynhwysol a mwy o lyfrau Cymraeg."
Hyd yma, mae 拢500 wedi cael ei gyfrannu i'r gronfa.
Partneriaeth
Ers lansio'r ymgyrch mae cwmni Ms Dunrod, Lily Translates, wedi sefydlu partneriaeth gyda'r Mudiad Meithrin. Y nod yw cyfieithu o leiaf un llyfr i'r Gymraeg erbyn Nadolig.
Yn 么l prif weithredwr y mudiad, Dr Gwenllian Lansdown Davies, mae dyletswydd ar bawb i sicrhau bod awduron yn cael eu cefnogi.
"Mae'r gwaith a'r cynllun yn ymwneud 芒 sawl peth gwahanol," meddai.
"Yn gyntaf: annog awduron du sydd yn sgwennu drwy gyfrwng y Gymraeg i fod yn cyhoeddi llyfrau i blant drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Yn ail: trosi llyfrau sydd eisoes yn bodoli gan awduron du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig i'r Gymraeg.
"Yn drydydd: rhoi llais, llwyfan a llun i straeon sydd wedi cael eu hymylu i 'neud yn si诺r ein bod ni yn rhannu profiadau niferus gyda phlant Cymru a sicrhau bod plant du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig yn cael eu gweld mewn llenyddiaeth blant drwy gyfrwng y Gymraeg."
Yn 么l Dr Lansdown Davies, mae'r bartneriaeth hon yn un amlwg. "'Da ni'n falch iawn o gefnogi'r ymdrech hon," meddai.
Y gobaith yw cynnig silff lyfrau i blant yng Nghymru sy'n amrywiol ac yn adlewyrchu cymdeithas Cymru.
Yn 么l Jessica Dunrod, byddai'r fath lyfrau wedi bod yn adnodd pwerus iddi hi yn ferch ifanc.
"Roeddwn yn fy 30au pan y gwelais i berson o liw yn siarad Cymraeg am y tro cyntaf," meddai.
"Mae angen llyfrau amrywiol arnom - boed [yn cynnwys] cymeriadau sydd fel y rhai yn fy llyfrau i, neu fachgen ag awtistiaeth neu anghenion niwroamrywiol.
"Mae pawb yn haeddu gweld ei hunan mewn llenyddiaeth. Mae angen inni ddarllen eu profiadau er mwyn bod yn ddinasyddion gwell."
'Arf pwerus'
Mae awdur arall o Gaerdydd, Nia Morais yn cefnogi'r ymgyrch. Mae hi'n dweud bod llenyddiaeth yn arf pwerus.
"Mae e'n really bwysig i fi, yn bersonol, achos mae e'n really bwysig gweld eich hun ar y dudalen," meddai.
"Chi mo'yn clywed am brofiadau pobl eraill ond mewn ffordd y'ch chi'n gallu uniaethu gyda."
Yn 么l Lleucu Siencyn, prif weithredwr Llenyddiaeth Cymru, mae'r ymgyrch yn gyfle i greu newid positif.
"Fi'n credu bod e'n deg i ddweud bod problem cynrychiolaeth mewn llenyddiaeth yn gyffredinol, ond yn enwedig felly llenyddiaeth i blant a phobl ifanc," meddai.
"Mae 'na ddiffyg cynrychiolaeth o brofiadau byw pobl o wahanol bethau. Mae hwnna yn cyflyru pobl ifanc a phlant i deimlo bo' nhw ddim yn perthyn. Mae'n hollbwysig inni wynebu hyn.
"Dyw e ddim yn fater o roi blaenoriaeth o flaen un gr诺p neu'r llall. Mae'n fater o drial edrych ar y diffyg cynrychiolaeth a gweithredu'n fwy caled ac yn fwy positif."
Byddai hynny, meddai, yn sicrhau "bod y lleisiau llenyddol 'ma ry'n ni yn meithrin yn cael eu hyfforddi, datblygu, cyhoeddi, defnyddio - ac wedyn yn ysbrydoliaeth, wrth gwrs, i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr a 'sgwenwyr ifanc".