成人快手

Pum munud gyda'r awdur a'r cyflwynydd Mike Parker

  • Cyhoeddwyd
Mike parkerFfynhonnell y llun, Marian Delyth

Mae gwobr Owain Glynd诺r yn cael ei roi am gyfraniad arbennig i'r celfyddydau yng Nghymru. Eleni, yr awdur a'r cyflwynydd Mike Parker dderbyniodd yr anrhydedd wrth ddilyn yn 么l troed rhai o'i arwyr sydd hefyd wedi ennill y wobr yn y gorffennol.

Mae Mike yn wreiddiol o Sir Gaerwrangon. Fe symudodd i fyw i Gymru yn 2000 a dysgu Cymraeg . Mae'n gyn ymgeisydd seneddol dros Blaid Cymru yn yr Etholiad Cyffredinol nol yn 2015 ac yn awdur llyfrau megis Neighbours From Hell?, The Greasy Poll, Map Addict a Rough Guide to Wales. Dyma dreulio pum munud yn ei gwmni.

Sut oeddech chi'n teimlo ar l clywed eich bod wedi ennill gwobr Owain Glyndwr?

Wrth fy modd, wrth gwrs! Yr awdur cyntaf i gael y wobr (yn 1996) oedd Jan Morris, fy arwr enfawr i, ac i'w derbyn chwarter canrif wedyn, yn y flwyddyn y gwnaethom ei cholli hi, mae'n golygu cymaint i mi.

Pam fod hon yn wobr bwysig i chi? A'i oherwydd y cysylltiad Machynlleth?

Mae'n wobr arbennig oherwydd ei fod yn anrhydeddu pobl o'r tair disgyblaeth o gelf weledol, cerddoriaeth ac ysgrifennu, ac i gyd mewn cyd-destun Cymreig.

Felly mae'r rhestr yn eang ac yn gyffrous, gan gynnwys arwyr personol fel John Davies, Mererid Hopwood, Rhian Samuel, Karl Jenkins, Gerallt Lloyd Owen, Elinor Bennett, Angharad Price, Clive Hicks-Jenkins, Dylan Iorwerth a llawer, llawer mwy.

Ac wrth gwrs mae'n hyd yn oed yn fwy arbennig gan ei fod yn dod o Fachynlleth, yr wyf mor falch o alw'n adref.

Roedd y seremoni ei hunan mor arbennig hefyd. Y digwyddiad cyntaf yn y Tabernacl ers blwyddyn a hanner, roedd yr awyrgylch yn anhygoel, pawb mor hapus i fod yna, efo'n gilydd!

Hefyd, o'n i'n lwcus iawn i gael Manon Steffan Ros, un o fy hoff awduron, yn fy nghyflwyno i. Roedd hi mor garedig, bron a bod i mi grio!

Wrth ysgrifennu'r llyfr Rough Guide to Wales dwi'n siwr eich bod wedi troedio sawl lle yng Nghymru. Pa le oeddech chi erioed wedi bod o'r blaen wnaeth eich rhyfeddu a pham?

Bron ymhobman!

Ond pe bawn i'n gorfod dewis un, Dyffryn Dysynni, rhwng Cadair Idris a'r m么r. Craig Aderyn, Castell-y-Bere, Abergynolwyn, hen chwarel Bryn Eglwys, gorsaf fach Nant Gwernol mewn coedwig, Llanfihangel-y-Pennant, Nant yr Eira - hyd yn oed yr enwau yn fy ngwneud i'n hapus! Mae dal yn fy rhyfeddu i bob tro y byddaf yn mynd yno.

Ffynhonnell y llun, Mike Parker
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mike yn dweud iddo gael ei ryfeddu pan yn ymweld ag ardal Abergynolwyn

Yn The Greasy Poll rydych yn s么n am eich profiad o ymgyrchu fel ymgeisydd yn Etholiad Cyffredinol 2015. Gyda'r tirlun gwleidyddol wedi newid llawer ers hynny (ee Brexit), oes gennych chi fwriad i fynd nol i'r byd gwleidyddol?

Dwi'n llawer gwell, yn llawer mwy effeithiol - ac yn llawer hapusach - fel awdur na gwleidydd!

Felly, er fy mod yn gredwr mawr yn y syniad o "never say never", ni allaf ddychmygu ei wneud eto. Beth bynnag, mae wastad gwleidyddiaeth yn fy ngwaith, a bydd hynny yn parhau.

Rydych chi hefyd yn gasglwr brwd o fapiau. Pa un yw eich hoff fap sydd yn eich casgliad a pham?

Bacon's Excelsior Map of Wales and Monmouthshire, o tua 1900. Mae'n fap wal enfawr a lliwgar o'r wlad gyfan, ac mae'n brydferth.

Ffynhonnell y llun, Mike Parker
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Mike yn Ymgeisydd Seneddol dros Blaid Cymru yn Etholiad Cyffredinol 2015

Beth ydych chi'n edrych ymlaen i wneud nawr fod y cyfnygiadau yn dechrau llacio yng Nghymru?

Penwythnos hir mewn dinas fawr! Glasgow neu Lundain. Theatr, cerddoriaeth fyw, comedi, ffilmiau, orielau celf, bwytai a chrwydro heb bwrpas. Methu aros!

Beth sydd nesaf i chi? Ydych chi'n gweithio ar gyfrol arall ar hyn o bryd?

Ydw. Mae'n llyfr am ffin Cymru-Lloegr, fel rhywbeth ar y map, rhywbeth mewn hanes, ond hefyd fel peth mewnol i gymaint ohonom. Mae'n bwnc amserol iawn.

Ffynhonnell y llun, Mike Parker
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hoff fap Mike o'i gasgliad helaeth yw'r un Bacon's Excelsior Map of Wales and Monmouthshire o tua 1900

Pynciau cysylltiedig