Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Angen i beilot Cyflog Sylfaenol gynnwys pawb'
Mae'r rhai sy'n cefnogi Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn dweud bod angen i'r peilot yng Nghymru gynnwys pawb.
Daw eu sylwadau wedi i Lywodraeth Cymru awgrymu y gallai eu harbrawf mewn ardal benodol gynnwys pobl sy'n gadael y system ofal yn unig.
Mae Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn talu swm penodol o arian i bawb - ac nid oes unrhyw ystyriaeth i amgylchiadau unigolion.
Mewn llythyr agored at y Prif Weinidog mae nifer, yn eu plith Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, yn dweud bod yn rhaid i'r peilot ymestyn ar draws ardaloedd daearyddol er mwyn iddo fod yn effeithiol.
Eisoes mae cynlluniau peilot wedi'u cynnal yn Y Ffindir a Califfornia ac mae prosiect 12 mlynedd yn cael ei gynnal yn Kenya.
Pryderon am gost
Mae'r rhai sy'n feirniadol o gynllun Incwm Sylfaenol yn dweud y byddai'n well cyfrannu'r arian at fudd-daliadau sydd eisoes yn bodoli neu sicrhau gwasanaethau cyhoeddus gwell. Maent hefyd wedi cyfeirio at gost cynllun o'r fath ar draws Cymru gyfan.
Ond yn eu llythyr dywed cefnogwyr nad yw'r system les bresennol yn "ateb y galw".
Maent yn dweud bod angen neilltuo ardaloedd daearyddol penodol, er enghraifft wardiau cyngor, yn ogystal 芒 phobl sy'n gadael gofal.
Fe fyddai hynny, meddent, yn fodd i asesu'n well y manteision a'r anfanteision o roi arian i bob aelod o gymdeithas.
'Sefyllfa wael iawn'
Mae Phillip Easton yn byw ym Mhenrhiw-ceibr yn Rhondda Cynon Taf - ardal sydd 芒 chyfradd uchel o dlodi plant.
Mae'n rhedeg busnes gwerthu siocled poeth ond wrth sefydlu'r busnes fe gafodd str么c ac roedd hi'n anodd iddo ymdopi.
Mae'n dweud y byddai gwybod ei fod yn cael Incwm Sylfaenol Cynhwysol wedi gwneud gwahaniaeth.
"Yn ystod y cyfnod hwn, gan fy mod yn gwneud m芒n bethau, doeddwn i ddim yn gallu hawlio credyd cynhwysol ond roeddwn i mewn sefyllfa wael," meddai.
"Petawn i ond wedi gallu cael amser i oedi a gofalu am fy hun wrth sefydlu'r busnes, fe fyddai pethau wedi bod yn wahanol iawn.
"Mae yna ambell gyfnod yn fy mywyd pan y byddai wedi bod yn hynod o ddefnyddiol i gael sicrwydd o arian - yn enwedig wedi'r str么c.
"Mae'r salwch wedi cael ychydig o effaith ar fy ymennydd. Dwi'm yn gallu delio gyda gwaith papur - yn enwedig gwaith newydd a phan ddaeth y cyfnod clo mae'n bosib y gallwn fod wedi hawlio credyd cynhwysol ond wnes i ddim."
Dywed Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe bod "cadw pobl yn iach yn golygu gwneud pethau newydd i daclo tlodi".
"Mae'n amser derbyn nad yw'r system bresennol yn gweithio ac os nad ydym yn gweithredu trefn a fydd yn rhoi mwy o sicrwydd i bobl bydd cenedlaethau'r dyfodol wedi'u hamddifadu.
"Fe allai Cyflog Sylfaenol ddiogelu pob un ohonom rhag yr hyn sydd i ddod ac nid dim ond y rhai sydd wedi'u taro'n galed gan Covid - fe allai newid hinsawdd, er enghraifft, achosi difrod pellach o ganlyniad i dywydd eithafol fel llifogydd neu wres," meddai.
Ymhlith eraill sydd wedi arwyddo'r llythyr mae Jonathan Rhys Williams, cyd-sefydlydd UBI Lab Cymru, Cerys Furlong, prif weithredwr Chwarae Teg a Catherine Fookes, cyfarwyddwr Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddant yn gwrando ar leisiau y prif randdeiliaid ac yn cydweithio 芒 swyddfa y comisiynydd.
"Ry'n wedi bod yn edrych yn ofalus ar gynlluniau peilot ar draws y byd ac yn credu'n gryf bod modd cael un yng Nghymru," meddai.
"Ry'n yn ymwybodol maint y cyffro a'r diddordeb sydd yn y polisi ond mae'n bwysig ei gael yn iawn - mae mwy o waith angen ei wneud ond mae gennym ddiddordeb datblygu fersiwn a fydd yn gyntaf yn cynnwys pobl sydd wedi gadael gofal."
Dywed Llywodraeth y DU nad oes ganddynt gynlluniau i weithredu cynllun o'r fath.
"Fyddai'r cynllun ddim yn targedu pobl mwyaf anghenus cymdeithas na chwaith o fudd i'r rhai sydd angen mwy o gefnogaeth - er enghraifft pobl anabl neu'r rhai sydd 芒 dyletswyddau gofal," meddai llefarydd yn gynharach.