成人快手

Symud mwy o geir wedi eu parcio'n anghyfreithlon yn Eryri

  • Cyhoeddwyd
parcio anghyfreithlon
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd rhai ceir oedd wedi eu parcio'n anghyfreithlon eu symud ddydd Sadwrn

Mae'r awdurdodau yn Eryri wedi bod yn symud ceir sydd wedi eu parcio'n anghyfreithlon, wrth geisio osgoi golygfeydd tebyg i'r hyn a welwyd llynedd.

Yn ystod haf 2020 daeth ffyrdd yn agos at gael eu cau gan geir oedd wedi eu parcio'n anghyfrifol.

Mae pryder wedi bod y gallai'r un golygfeydd gael eu gweld eleni.

Mewn menter ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Heddlu Gogledd Cymru, cafodd dau gerbyd eu symud heddiw am eu bod wedi parcio'n beryglus ar ochr yr A5 yn Nyffryn Ogwen ger Bethesda.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd rhai o'r arwyddion yn dweud wrth bobl am beidio parcio eu difrodi

Mae'r tywydd cynnes diweddar wedi denu pobl i'r ardal yn eu miloedd, yn 么l y cynghorydd Gareth Griffith o Gyngor Gwynedd.

"Be' sydd wedi bod yn digwydd ydy pobl yn parcio'n anghyfreithlon ar draws y sir a deud y gwir," meddai.

"'Den ni wedi gwneud paratoadau ond dwi'm yn meddwl bod neb wedi disgwyl gymaint o bobl i ddod yma yn sgil y tywydd poeth.

"Yr unig beth 'den ni'n ofyn ydy i bobl iwsio rhywfaint o synnwyr cyffredin, parcio'n iawn mewn lle saff. Parchu'r ardal 'dech chi'n ymweld 芒 hi."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dydy'r golygfeydd heb fod cynddrwg eleni ag oedden nhw llynedd mewn rhannau o Eryri

Dywedodd Wyn Jones, Cadeirydd Parc Cenedlaethol Eryri, bod pethau "ychydig yn haws" eleni gan eu bod yn gwybod yn well beth i'w ddisgwyl.

"Mae'n ymddangos bod pethau'n debyg o ran niferoedd ac mae'r problemau'n debyg hyd yma hefyd," meddai.

"Dwi'n meddwl mai cael neges allan ydy'r broblem oherwydd 'den ni'n cael pobl newydd o hyd.

"Mae'n bwysig bod ni'n cael y cydbwysedd rhwng beth mae'r ymwelwyr isio a beth mae'r cymunedau isio yn well na'r hyn ydy o ar hyn o bryd."