成人快手

Tafarn gymunedol yn Nefyn yn agor ei drysau o'r diwedd

  • Cyhoeddwyd
HeliwrFfynhonnell y llun, ffotoNant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Yr Heliwr yn ailagor i'r cyhoedd o ddydd Sadwrn, 24 Gorffennaf

Bydd tafarn sydd wedi bod ar gau am 12 mlynedd yn ailagor ei drysau y penwythnos hwn ar 么l ymgyrch gymunedol lwyddiannus.

Ar un adeg roedd Tafarn yr Heliwr - neu'r Sportsman gynt - yn lle llawn bywyd yng nghanol Nefyn, ond mae'r drysau wedi bod ynghau ers 2009.

Yn 2018 daeth gwirfoddolwyr lleol at ei gilydd a phenderfynu ceisio codi arian i'w ailagor.

Dywedodd Bleddyn Evans, cadeirydd Pwyllgor Tafarn yr Heliwr, ei fod yn "bleser" cael agor y dafarn yr wythnos hon wedi tair blynedd o waith caled.

"Pan brynnon ni'r adeilad yn 2018, roedd o mewn safon s芒l iawn - pedwar wal a to oedd gynnon ni," meddai wrth Cymru Fyw.

Fe dreuliodd aelodau'r pwyllgor y flwyddyn ganlynol yn chwilio am arian grant i adnewyddu'r adeilad o'r newydd, gan lwyddo i gasglu dros 拢600,000.

"Fel pwyllgor 'da ni gyd 'di dysgu wbath ar hyd y ffordd," meddai. "Mae 'na 12 ohona ni ac mae pawb 'di dod 芒'u harbenigedd i'r prosiect."

Ffynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Tafarn yr Heliwr yn Nefyn - neu'r Sportsman - wedi bod ar gau ers 2009...

Ffynhonnell y llun, ffotoNant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

...ond mae'r lle bellach yn barod i agor ar ei newydd wedd

Y bwriad oedd i agor y dafarn flwyddyn yn 么l, ond nid oedd modd i'r adeiladwyr gwblhau'r gwaith adnewyddu mewn pryd yn sgil y pandemig.

Ond dim ond llawr gwaelod y dafarn fyddai wedi bod yn barod erbyn haf y llynedd, felly roedd cyfle i gwblhau lloriau eraill y dafarn erbyn y dyddiad agor newydd.

"Doedd dim rhaid i ni frysio," meddai Mr Evans. "Ac yn y cyfamser daeth mwy o arian grant i mewn."

Bydd y dafarn ar agor i'r cyhoedd ddydd Sadwrn, ond mae'n rhaid archebu lle ymlaen llaw.

"Ar hyn o bryd mi fedrwn ni groesawu 50 o bobl i'r dafarn, ond tua 100 yn braf ar 么l y pandemig.

"Mae'n adeilad mawr, mi geith pobl oedd yn arfer mynd i'r hen dafarn ddipyn o sioc. 'Da ni di agor y cefn yn fwy na be oedd hi cynt - roedd hi'n reit dywyll a cul yno."

Ffynhonnell y llun, ffotoNant

Mae Mr Evans hefyd yn gobeithio y bydd y dafarn yn adfywio Stryd Fawr Nefyn.

"Roedd yn drist cerdded trwy'r stryd a gweld y dafarn 'di cau. Mae gan pawb hen straeon ac atgofion o fod yn y dafarn ers talwm.

"Pan o'n i'n rhoi goleuadau Dolig Nefyn i fyny ar y stryd, o'n i'n gweld cyflwr yr adeilad yn gwaethygu bob blwyddyn."

Ond mae'r ffaith bod 550 o bobl wedi prynu cyfranddaliadau, meddai, gyda nifer ohonyn nhw'n bobl ifanc ac yn ymwelwyr, yn "arwydd o obaith" ar gyfer dyfodol y dafarn a'r gymuned.

Pynciau cysylltiedig