成人快手

Yr ysgol gyntaf i arwyddo cod sy鈥檔 parchu gwallt affro

  • Cyhoeddwyd
Ysgol HamadryadFfynhonnell y llun, Ysgol Hamadryad
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ysgol gynradd Gymraeg ieuengaf Caerdydd wedi ei henwi ar 么l ysbyty llong oedd wedi ei angori nid nepell o dir yr ysgol yn ardal Grangetown. (Llun wedi ei dynnu cyn cyfyngiadau COVID)

Ysgol Hamadryad, Caerdydd, yw'r ysgol gyntaf yng Nghymru i wneud ymrwymiad swyddogol i sicrhau fod yna ddim gwahaniaethu o ran steil gwallt.

Drwy arwyddo'r Cod Eurgylch (Halo Code) mae'r staff a disgyblion yn addo "rhyddid a diogelwch i wisgo pob steil gwallt affro heb gyfyngiad na barn".

Cafodd y pwnc ei drafod ar Dros Ginio ar 成人快手 Radio Cymru ddydd Mawrth 6 Gorffennaf.

'Dathlu hunaniaethau'

Ymweliad yr awdur lleol, Jessica Dunrod, a ysbrydolodd yr ysgol i fabwysiadu'r cod. Hi yw'r awdur plant du Cymreig cyntaf ac awdur y nofel Your Hair is Your Crown, am ferch fach o Gaerdydd sydd ag affro hudol.

Ei phrofiadau personol hi o gael ei gwahaniaethu oherwydd ei hil a'i gwallt oedd yr ysbrydoliaeth tu 么l i'w llyfr, sydd wedi ei gyfieithu i Dy Wallt yw Dy Goron.

Ffynhonnell y llun, Jessica Dunrod
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jessica Dunrod gyda'r fersiwn Gymraeg o'i llyfr am y ferch 芒'r affro hud

Dywedodd Jessica: "Mae Ysgol Hamadryad yn le eithriadol. Ysgrifennais y llyfr gan feddwl byddai rhai plant yn ei hoffi a'n uniaethu ag e a dwi'n falch iawn i glywed bod plant a theuluoedd wedi elwa.

"Mae Ysgol Hamadryad wedi cael ei ysbrydoli i gyflwyno'r Cod Eurgylch. Mae'n wych beth maen nhw'n gwneud ac maen nhw'n arwain y ffordd. Maen nhw'n amlwg yn gofalu am eu disgyblion ond dylai mwy o ysgolion ddechrau dilyn y Cod.

"Mae profi hiliaeth uniongyrchol neu anuniongyrchol yn drawmatig i blant. Hyd yn oed pe bai'r Cod ond yn helpu ychydig o ddisgyblion, byddai'n cael effaith enfawr.

"Mae'n dechrau'r sgwrs i bob ysgol ac yn sbarc bach i'n rhoi ni yn y cyfeiriad cywir."

Siaradodd Jessica yn agored 芒'r disgyblion am ei phrofiadau hi o gael ei gwahaniaethu oherwydd ei gwallt. Yn 么l Lowri Williams, un o athrawon Ysgol Hamadryad, sylweddolodd y staff fod hyn yn rhywbeth a ddylai fod yn flaenllaw ym meddyliau staff a disgyblion yr ysgol.

"Mae'n cydnabod fod gwallt affro-wead yn rhan bwysig o hunaniaeth hiliol, ethnig, diwylliannol a chrefyddol ein staff a myfyrwyr du, ac yn dweud ein bod ni fel ysgol yn mynd i gydnabod a pharchu a dathlu hunaniaethau ein staff a myfyrwyr.

Ffynhonnell y llun, Lowri Williams

"Mae'n dweud hefyd, dydi steil gwallt a gwead ddim yn cael unrhyw effaith ar allu unrhyw un i lwyddo."

Ysgol Hamadryad yw ysgol Gymraeg ieuengaf y brifddinas, ac mae hi'n gwasanaethu ardaloedd Grangetown a Thre-biwt, ardal fwyaf amrywiol ac aml-ddiwylliannol Caerdydd a Chymru.

...fel pobl yn gofyn os ydyn nhw'n gallu cyffwrdd gwallt chi... dyw e ddim yn rhywbeth normal i'w ofyn i bobl!"

O ganlyniad, meddai Lowri, roedd ethos y Cod Eurgylch yn cael ei barchu o fewn yr ysgol beth bynnag, ond fod arwyddo'r cod yn ei wneud yn swyddogol ac yn rhan o bolis茂au'r ysgol.

"O'dd o jest yn rhywbeth roedden ni fel ysgol yn deimlo oedd yn bwysig i ni ddangos i'r gymuned ehangach, ein bod ni'n parchu dewisiadau pobl o ran diwylliant a hunaniaeth."

Cefnogaeth ychwanegol

Un sydd yn gefnogol iawn o benderfyniad staff Ysgol Hamadryad i ddilyn y cod yma yw Si芒n Jones. Yn ferch hil-gymysg a aeth i ysgol gynradd Gymraeg yng Nghaerdydd, mae hi'n deall yn union pam fod gwneud hyn mor bwysig i ddisgyblion ysgol.

"Yn mynd i Ysgol Pencae fy hunan, dim ond dau ohonon ni oedd yn ddu neu'n gymysg yn fy mlwyddyn i. Roedd yr ysgol yn hapus i mi wisgo braids, sydd yn wahanol i lawer o ysgolion."

Ond roedd pethau ychydig yn wahanol yn yr ysgol uwchradd, yn enwedig pan roedd merched yn dechrau gwisgo colur ac yn poeni am eu gwallt. Gwallt syth oedd y ffasiwn, felly roedd hi'n trio sythu ei gwallt, ond byddai'n gyrliog eto erbyn amser cinio, meddai.

"Er falle dwi heb gael unrhyw fath o bethau negatif wedi ei ddweud wrtha i, dwi'n 'nabod loads o bobl sy' 'di cael eu trin yn wahanol oherwydd steil gwallt neu sut mae gwead eu gwallt nhw'n edrych.

"Hyd yn oed pethau sili fel pobl yn gofyn os ydyn nhw'n gallu cyffwrdd gwallt chi... dyw e ddim yn rhywbeth normal i'w ofyn i bobl!"

Ffynhonnell y llun, Si芒n Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Si芒n yn gweithio mewn ysgol aml-ddiwylliannol yng Nghaerdydd

Bellach mae Si芒n, yn ogystal 芒 rhedeg cwmni sydd yn arbenigo mewn gwallt affro, yn gweithio fel cynorthwyydd yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pwll Coch, hefyd yng Nghaerdydd. Mae hi hefyd yn ysgol sydd ag amrywiaeth o fewn y disgyblion, ac mae'r ffaith eu bod nhw'n ei gweld hi, fel aelod o staff, hil-gymysg, yn golygu eu bod nhw'n medru uniaethu 芒 hi, meddai.

Byddai hi wrth ei bodd yn gweld yr ysgol honno yn mabwysiadu cod o'r fath hefyd.

"Yn Ysgol Pwll Coch, lle mae tua chwarter y plant yn yr ysgol yn dod o ethnigrwydd gwahanol, dwi'n credu bydde fe'n neis iddyn nhw gael dilyn y cod.

"Fi'n credu fod arwyddo'r cod yma yn beth rili positif yn Ysgol Hamadryad. Er fod pawb yn parchu'r cod, nawr fod e wedi cael ei roi mewn lle, mae'n rhoi cefnogaeth ychwanegol i blant a hyd yn oed oedolion sydd 芒 gwallt affro."

'Rhan annatod o'r ysgol'

Ddydd Iau 7 Gorffennaf, bydd lansiad swyddogol yn Ysgol Hamadryad, lle bydd y Cod Eurgylch yn dod yn rhan swyddogol o bolisi'r ysgol. Bydd yn cael ei egluro i'r ysgol gyfan mewn gwasanaeth a thrwy weithgareddau, meddai Lowri.

"'Dan ni am drafod beth ydi o, beth mae'n ei olygu i ni. Yng nghyfnod allweddol 2, byddan nhw'n trafod yn ddyfnach beth yw ystyr hunaniaeth, a pham mae'n bwysig i ni fel ysgol arwyddo'r Cod Eurgylch.

"A darllen y stori Dy Wallt yw Dy Goron, cyfieithiad o lyfr Jessica Dunrod, a gwneud gweithgareddau wedi eu seilio ar hynny. Mae'n stori hyfryd ac mae'n helpu i weld Cymru mewn golau gwahanol."

Mae'r ysgol eisiau sicrhau fod trafodaethau pwysig yn cael eu cynnal gyda'r disgyblion, gyda'r blynyddoedd h欧n yn cael trafodaethau am hil a hiliaeth, a'r dosbarth derbyn yn cael eu dysgu i beidio 芒 chyffwrdd gwallt pobl heb ganiat芒d.

"Mae gweld ymateb y rhieni i hyn mor galonogol," meddai Lowri. "Maen nhw'n gweld bod gennym ni falchder yn yr amrywiaeth sy'n ein hysgol ni, ac maen nhw'n gweld ein bod ni'n trio'n gorau glas ac yn ceisio gwella bob dydd.

"Mae o jyst yn bwysig i ni ddangos ein bod ni'n mynd i wneud yn si诺r bod o'n rhan o'n polis茂au, a'i fod o'n rhan annatod o'r ysgol."

Pynciau cysylltiedig