Amlinellu cynllun cyflog byw i weithwyr gofal
- Cyhoeddwyd
Mae rhoi cyflog byw i ofalwyr a phuro'r awyr yn rhan o gynlluniau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd nesaf.
Wrth amlinellu amcanion ei lywodraeth dywedodd Mark Drakeford y byddant yn adeiladu Cymru "mwy teg" a "mwy gwyrdd".
Ymhlith yr addewidion eraill fydd codi 20,000 o dai cymdeithasol carbon isel ar gyfer eu rhentu, a sefydlu coedwig genedlaethol i Gymru.
Dywed gweinidogion y bydd newid hinsawdd yn "ganolog i bopeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud".
Yn etholiad mis Mai fe wnaeth Llafur sicrhau 30 seddi - un yn fyr o fwyafrif ac felly bydd angen cefnogaeth o blith y gwrthbleidiau i basio deddfwriaeth a chyllidebau.
Dywedodd Mr Drakeford: "Fe fyddwn yn adeiladau Cymru fwy teg, fwy gwyrdd a chryfach lle bydd pawb yn chwarae eu rhan - dydyn ni ddim am i unrhyw un gael eu gadael y tu 么l."
Mae'r rhaglen yn cynnwys nifer o addewidion gafodd eu rhoi gan Lafur Cymru yn ystod etholiadau'r Senedd yn ddiweddar.
Byddai hynny yn golygu rhoi cyfle i bawb dan 25 oed i gael gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth.
Dywed gweinidogion y byddant yn blaenoriaethu buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl.
Hefyd mae s么n am wahardd y defnydd o blastig untro.
Bydd beirniaid yn cyfeirio at y ffaith fod yna addewid blaenorol eisoes i wneud hyn erbyn 2020 a heb ei wireddu.
Dadansoddiad Gohebydd Gwleidyddol 成人快手 Cymru, Daniel Davies
Dyma gychwyn ar y chweched cyfnod yn olynol o lywodraeth dan arweiniad Llafur ers dechrau datganoli.
Dechreuodd y ddau flaenorol dan amgylchiadau na fyddai Llywodraeth Cymru wedi'u dewis. Toriadau i wariant oedd y cyd-destun yn 2011. Yn 2016, Brexit oedd yn dominyddu.
Ond mae'r cefndir y tro hwn yn fwy brawychus.
Does gan y llywodraeth ddim yr uchelgais sydd ei angen er mwyn cyrraedd y nod, meddai'r wrthblaid.
Ond, fel yn nhermau blaenorol o rym, mae diffyg mwyafrif Llafur yn y Senedd yn golygu y bydd angen siarad 芒 phleidiau eraill i weithredu.
Beth yw cyflog byw?
Mae yna nifer o alwadau wedi bod am godiad cyflog i weithwyr gofal yn sgil eu gwaith yn ystod y pandemig.
Yn ystod yr ymgyrchu ar gyfer etholiad y Senedd fe wnaeth Llafur addo y byddant yn talu "cyflog byw real" i weithwyr gofal.
Mae'r cyflog byw real yn uwch na'r cyflog byw cenedlaethol, ac yn cael ei fesur drwy ddefnyddio lefelau costau byw fel llinyn mesur.
Ar hyn o bryd y raddfa yw 拢9.50 yr awr.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd dirprwy arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth nad oedd na unrhyw beth uchelgeisiol am y cynlluniau.
"Beth mae Cymru ei angen nawr yw llywodraeth fydd yn taclo diweithdra a rhestrau aros y gwasanaeth iechyd," meddai.
"Llywodraeth fydd yn mynd i'r afael 芒 thlodi plant a'i achosion, a llywodraeth fydd yn datrys yr argyfwng tai gyda'r brys sydd ei angen, a llywodraeth fydd yn sicrhau newid positif a trawsnewidiol i bawb sy'n galw Cymru yn gartref.
"Ond does dim byd trawsnewidiol nac uchelgeisiol am raglen Llafur ar gyfer llywodraethu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2021
- Cyhoeddwyd13 Awst 2020