Comisiynydd y Gymraeg: Meddalwedd maleisus mewn e-bost
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn parhau i ymchwilio wedi "ymosodiad seibr difrifol" ar swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ym mis Rhagfyr.
Gwefan sydd gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg Aled Roberts ers hynny, lle diolchir i ddefnyddwyr am eu "hamynedd".
Mae swyddfa Mr Roberts yn credu i'r ymosodiad ddigwydd "o ganlyniad i neges鈥痚-bost鈥痮edd yn cynnwys atodiad meddalwedd maleisus".
Mae'n pwysleisio bod y "gwaith yn parhau o safbwynt cynyddu'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg".
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg wrth 成人快手 Cymru: "Lle roedd modd, cysylltwyd yn uniongyrchol ag unigolion a sefydliadau a allai fod wedi eu heffeithio" gan yr ymosodiad, ac ni dalwyd unrhyw swm o arian gan swyddfa'r Comisiynydd i'r sawl oedd yn gyfrifol.
'Risg'
Roedd datganiad blaenorol yn nodi: "Fel rheol rydym yn dal y lleiafswm posibl o ddata personol, hynny yw enw a manylion cyswllt, sef e-bost neu gyfeiriad post a rhif ff么n.
"Serch hynny, mae rhai achosion lle byddwn yn delio 芒 materion sy'n ymwneud 芒 chategor茂au arbennig o ddata personol yn ogystal os ydynt yn berthnasol i'r mater o dan sylw. O ganlyniad i'r ymosodiad, mae risg y gall eich manylion gael eu rhyddhau yn gyhoeddus."
Maen nhw wedi comisiynu ymchwiliad allanol i ddadansoddi sut digwyddodd yr ymosodiad ac un arall i archwilio cadernid diogelwch y systemau newydd.
Ychwanegodd y llefarydd, "'Roedd gwaith ar y gweill eisoes - cyn yr ymosodiad - i ddiweddaru ein systemau Technoleg Gwybodaeth gan gynnwys creu gwefan newydd, ac roeddem wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru yn 2020-21 ar gyfer y gwaith hwn.
"Mae'r ymosodiad wedi golygu ein bod wedi gorfod ail-flaenoriaethu'r drefn yr oeddem wedi bwriadu ei dilyn ar gyfer yr uwchraddio, a'n bod wedi gorfod treulio peth amser yn adfer gwybodaeth. Rydym wedi llwyddo i adfer llawer fawr o wybodaeth erbyn hyn."
Pwysleisiodd y "gall y cyhoedd fod yn hyderus ein bod yma i ddelio ag unrhyw ymholiadau, cwynion, archebion, ceisiadau am wybodaeth neu ddogfennau".
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: "Mae'r mater yn parhau yn destun ymchwiliad gan d卯m ymchwilio Uned Seiberdroseddu Rhanbarthol Tarian."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "wedi darparu cefnogaeth i, ac wedi parhau i fod mewn cysylltiad 芒, staff Comisiynydd yr Iaith Gymraeg yngl欧n 芒'r mater hwn.
"Ni allwn roi sylw pellach ar hyn o bryd, gan fod y mater yn destun ymchwiliad gan yr heddlu."
Cadarnhaodd llefarydd ar ran Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth eu bod "yn gwneud ymholiadau".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2020