拢100m i geisio lleihau rhestrau ac amseroedd aros Cymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

  • Awdur, Owain Clarke
  • Swydd, Gohebydd Iechyd 成人快手 Cymru

Mae'r Gweinidog Iechyd wedi amlinellu sut y bydd 拢100m cychwynnol yn cael ei wario i geisio lleihau rhestrau ac amseroedd aros sydd wedi cynyddu'n aruthrol yn ystod y pandemig.

Yn 么l Eluned Morgan fe fydd y cyllid, gafodd ei gyhoeddi cyn etholiad y Senedd, yn rhoi hwb i'r gwaith o adfer y system iechyd a gofal.

Fe fydd pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn cael si芒r o'r cyllid fydd yn cynnwys arian ar gyfer cyfarpar newydd, staff a hyrwyddo "dulliau newydd o weithio".

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 568,367 o bobl ar restr aros ym mis Mawrth - sy'n 18% o'r boblogaeth.

Mae hynny'n gynnydd o 3.5% ers mis Chwefror, a chynnydd o 24.4% ers yr un cyfnod llynedd.

Roedd 216,418 o bobl wedi bod yn aros dros naw mis am driniaeth, 38% o'r holl bobl ar restr aros.

Ond mae'r ffigyrau'n dangos gwelliant yn y nifer sy'n aros am y cyfnod hiraf - gyda 1,237 o gleifion yn llai wedi aros dros naw mis o'i gymharu 芒 mis Chwefror.

Wrth gyhoeddi'r buddsoddiad, dywedodd y Gweinidog Iechyd y byddai'r arian nid yn unig yn hwb i staff ond yn gyfle hefyd i "drawsnewid gwasanaethau" a'u gwneud yn "addas ar gyfer y dyfodol".

Dywedodd Ms Morgan: "Mae'n mynd i gymryd amser i adfer ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a bydd hefyd angen buddsoddiad a ffordd newydd o ddarparu gofal.

"Mae ymrwymiad anhygoel gweithwyr y GIG a gofal cymdeithasol wedi ein helpu drwy'r pandemig hwn, a gallwn bellach ddechrau meddwl am y dyfodol.

"Rwy'n benderfynol ein bod nawr yn darparu'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw i helpu'r gwasanaeth i adfer."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ychwanegodd mai dyma ydy'r cam cyntaf wrth fynd i'r afael 芒 "phroblem aruthrol" amseroedd aros, ond y byddai angen hyd at 拢1bn yn y pen draw.

"Does dim amheuaeth bod y dasg sydd o'n blaenau yn un fawr, ond mae hefyd yn bwysig cydnabod bod gennym nawr gyfle gwirioneddol i drawsnewid y ffordd y caiff y gwasanaethau iechyd a gofal eu darparu.

"Rhaid i ni fanteisio ar y cyfle hwn i greu system iechyd a gofal sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

"Yn sgil y pandemig, gwelwyd technoleg newydd a ffyrdd newydd o weithio'n cael eu mabwysiadu'n gynnar ac yn gyflym, a hoffwn weld byrddau iechyd yn adeiladu ar y gwaith da hwn."

Caiff y 拢100m cychwynnol ei ddyrannu fel hyn:

  • Caerdydd a'r Fro - 拢13m i gynyddu'r capasiti ar gyfer amrywiaeth o therap茂au a gwasanaethau diagnosteg, gan gynnwys recriwtio staff a dwy theatr symudol newydd;
  • Powys - 拢2.5m i drawsnewid gwasanaethau cleifion a chynyddu'r capasiti ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau;
  • Cwm Taf Morgannwg - 拢16m i recriwtio a buddsoddi mewn capasiti llawdriniaethau a gwasanaethau diagnosteg;
  • Hywel Dda - 拢13m i gynyddu capasiti ar gyfer gofal wedi'i drefnu, gan gynnwys ail ddylunio ysbytai, buddsoddi mewn gwasanaethau diagnosteg ac offthalmoleg;
  • Aneurin Bevan - 拢17m ar gyfer prosiectau i gynyddu capasiti ym maes gofal wedi'i drefnu, gwasanaethau diagnosteg, therap茂au ac iechyd meddwl;
  • Bae Abertawe - 拢16m i gynyddu capasiti mewn ystod eang o feysydd, gan gynnwys theatrau, recriwtio ac offthalmoleg;
  • Betsi Cadwaladr - 拢20m i gynnydd capasiti mewn gofal wedi'i drefnu, gwasanaethau canser, gwasanaethau deintyddol, diagnosteg ac endosgopi;
  • Felindre - 拢2.5m i gynyddu capasiti ar gyfer radiotherapi.

Wedi 'blino'n l芒n'

Fe gafodd yr ymrwymiad gwreiddiol i wario 拢100m ei wneud ym mis Mawrth gan Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd blaenorol.

Yn ystod ymgyrch etholiad y Senedd dywedodd Llafur mai'r bwriad fyddai gwario 拢1bn dros gyfnod o flynyddoedd ar gynllun adfer ar gyfer y GIG.

Mae prif weithredwr y Gwasanaeth Iechyd, Andrew Goodall wedi rhybuddio sawl gwaith fod staff wedi "blino'n l芒n" ac y byddai'n "cymryd blynyddoedd" i ddelio 芒 rhestrau aros.

Ymateb i'r buddsoddiad

Dywedodd cyfarwyddwr Ffederasiwn GIG Cymru, Darren Hughes, ei fod yn croesawu'r buddsoddiad o 拢100m ond nad oedd unrhyw amheuaeth fod yna "ffordd bell i fynd" ac "na ddylid cam-amcangyfrif yr her sydd o'n blaenau".

"Mae'r ystadegau yn dangos er bod y sefyllfa gyffredinol yn parhau yn ddifrifol rydym yn dechrau gweld gwelliant mewn rhai mannau.

"Mae angen i ni elwa ar y cyfle hwn i wella o ganlyniad i'r ffyrdd newydd o weithio er mwyn trawsnewid gwasanaethu o ran iechyd a gofal."

Dywedodd Richard Johnson, cyfarwyddwr Cymru Coleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr: "Er ein bod yn croesawu'r cyllid ychwanegol, ni fyddwn yn gallu newid y sefyllfa dros nos.

"Fe fydd hyn yn cymryd nifer o flynyddoedd a bydd angen gweld buddsoddiad parhaol er mwyn cynyddu capasiti.

"Hefyd bydd angen newidiadau sylweddol yn y modd rydym yn cyflwyno gwasanaethau yng Nghymru."