Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Hyder ar drothwy ymgyrch Chwe Gwlad dan Warren Abrahams
Mae t卯m rygbi merched Cymru'n anelu at chwarae'n fwy ymosodol yn sgil newidiadau wrth ymarfer dan arweiniad yr hyfforddwr cenedlaethol newydd, yn 么l y capten, Siwan Lillicrap.
Mae Cymru'n wynebu Ffrainc oddi cartref nos Sadwrn yng ng锚m agoriadol ymgyrch gyntaf Warren Abrahams wrth y llyw fel prif hyfforddwr y t卯m cenedlaethol.
"Dan ni'n gyffrous iawn fel sgwad i ga'l cyfle i chware gyda'r amgylchiade sy'n mynd ymlaen yn y wlad," meddai'r capten wrth raglen Dros Frecwast ddydd Sadwrn.
Mae'r garfan, meddai, yn "meddwl am bethe bach yn wahanol nawr" ers penodiad Abrahams, ac mae'n gobeithio bod ymateb i'r her honno gan yr hyfforddwr newydd yn mynd i arwain at "rygbi cyffrous".
"Rhaid i ni neud gwell decisions a ma' llawer o ownership arnon ni fel chwaraewyr i edrych ar be' sy'n digwydd o flaen ni, creu cyfleoedd i sgori," meddai.
"Chi'n mynd i weld, gobeithio, bach o attacking rugby gwahanol i o'r blaen."
Mae'n cydnabod bod her o'u blaenau nos Sadwrn wrth wynebu'r t卯m rhannol a'u trechodd gyda sg么r o 50-0 y llynedd.
"Mae Ffrainc yn un o'r timoedd gorau yn y byd, ac mae gen i huge respect iddyn nhw a sut maen nhw'n chwarae. Ond ni mewn safle gwahanol nawr fel sgwad o dan Warren [a] faint o'r merched sydd wedi bod yn chware yn y Premier 15s dros y flwyddyn.
"Ni'n confident iawn yn ein systemau ac yn ein gilydd hefyd."
Ychwanegodd: "Ni mewn lle gwell nawr, fi'n credu, fel sgwad i fynd 芒 fe i Ffrainc."
Yn hytrach na'r drefn arferol lle mae pob t卯m yn wynebu ei gilydd, mae'r gwledydd yn cael eu rhannu'n ddau gr诺p ac yn chwarae dwy g锚m gr诺p cyn penwythnos y gemau terfynol.
Iwerddon yw'r t卯m arall sydd yng ngr诺p Cymru.